Betsan Llwyd, Yfory

February 19, 2017 by

Mae eleni’n flwyddyn go arbennig i Bara Caws gan fod y Cwmni’n dathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu, ac wrth fynd ati i lunio rhaglen i nodi’r achlysur, byddwn yn talu gwrogaeth o ryw fath at yr holl elfennau sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y Cwmni dros y degawdau.

 

Felly, y cynhyrchiad cyntaf sydd gennym eleni yw Yfory, drama heriol, wleidyddol, gwbl gyfredol gan y dramodydd adnabyddus Siôn Eirian. Mae derbyn unrhyw ddarn o waith newydd gan Siôn yn gyffrous ac yn fraint, ac yn sgil ein profiad o gyd-weithio ar Garw yn 2014 mae’r berthynas yn addo bod yn un llewyrchus a chynhyrchiol.

 

Y neges wleidyddol sydd wrth wraidd y ddrama yw a oes unrhyw un o wleidyddion y Senedd yng Nghaerdydd yn meiddio ystyried torri cwys newydd, radical allai newid cyfeiriad cymdeithas yng Nghymru.  Ac os oes, sut fyddai mynd ati?  A gan mai darn dramatig o ffuglen yw hon, rhaid hefyd wrth ogwydd ‘ddynol’ i’r testun, a gwelir penbleth y cymeriadau wrth i fywyd personol darfu ar y bywyd cyhoeddus – beth fyddai eich dewis chi – eich teulu neu’ch cenedl?

 

‘Rydym yn byw drwy gyfnod gwleidyddol arbennig o ansefydlog ar hyn o bryd, ac mae’n hollbwysig denu pawb i gymryd diddordeb ac i leisio’u barn am eu dyfodol, felly byddwn yn cynnal sawl sesiwn C&A ar hyd y daith, gydag un drafodaeth benodol – yng nghwmni Catrin Gerallt (Newyddiadurwraig) yn cadeirio, a’r Athro Richard Wyn Jones (Adran Wleidyddiaeth CPC Caerdydd) a Hywel Williams (Awdur a Hanesydd), Siôn Eirian ac aelodau Bara Caws – ar y noson agoriadol yn y Sherman, ar Fawrth 1af, dydd ein nawddsant!

 

Rhaid hefyd tynnu sylw at y cast ymroddgar sydd wedi derbyn yr her – mae eu gwaith mewn ymarferiadau yn cwbl ysbrydoledig, felly mae cryn edrych ymlaen at eu gweld yn wynebu cynulleidfa. Diolch Dewi, Caryl, Rhodri ac Aled.

 

Mae rhestr gyflawn o’r daith ar gael ar wefan Bara Caws: www.theatrbaracaws.com lle gallwch gael rhagor o wybodaeth a phrynu tocynnau.

 

 

Forty years ago Bara Caws, Wales’s leading Welsh language community theatre company, was born, so this year marks a special anniversary which will see us presenting a range of work which will tour throughout Wales.

 

At the moment we are priviledged to be working on Yfory (Tomorrow), a highly topical political piece by the renowned, award-winning dramatist Siôn Eirian.  Our last collaboration with Siôn in 2014, Garw, was a resounding success, so expectations are high!

 

Rahm Emanuel, Barak Obama’s Chief of Staff, said, “Never let a good crisis go to waste”, and over the course of one evening, when the political landscape of Wales could change forever, the public and personal collide… What would you do?

 

We have a fabulous cast, Dewi Rhys Williams, Caryl Morgan, Rhodri Evan and Aled Bidder – and if their work in rehearsals is anything to go by, expect a master class in performance.

 

This is a Welsh language production but an English precis will be available.

 

Details available on www.theatrbaraws.com.

 

 

Leave a Reply