Caitlin, Eddie Ladd

August 3, 2015 by

Y ni gyd mewn cylch gyda’n gilydd, yn cip-syllu ar ein gilydd ac yn aros. Mae’n rhaid i fi ddweud rhwbeth a dyma fe’n dod. “Hello I’m Caitlin and I’m an alcoholic.”

 

A dyna ddechrau’r sioe. O leia’ rwy’ ‘di dechrau. Ac yn awr ma’n rhaid cadw fynd. A chewn ni ddim peidio – fi a’m partner Gwyn Emberton –  tan y diwedd gwta awr i ffwrdd. Y ddawns gyntaf, y ddau’n cwrdd yn y Wheatsheaf yn Llundain, yn llifo fel telyneg; yr ail, sef y nhw’n whare dwli a whare’r diawl, yn malu’r coesau a chronni asid llaeth yn y cyhyrau. Ac wedyn fe’r baban proffesiynol yn y bath gyda’i fferins a’i nofel Agatha Christie a hithau’n dechre geni’i phlant, a’r barnu a’r cystadlu rhywiol ar faes e-bargofiant.

 

Ym 1973, wedi oes dymhestlog hir, dechreuodd Caitlin fynychu cyfarfodydd Alcoholigion Anhysbys. Roedd hi’n 60 mlwydd oed a Dylan wedi bod yn ei fedd ers ugain mlynedd. Mae yna gryn ddadlau am sut y bu farw ond efallai i’r ddiod wanhau ei gorff nes yr oedd yn methu â gwrthsefyll blinder, afiechyd a’r haint a’i laddodd. Roedd Caitlin o’r farn ei bod yn gwneud gwaeth niwed iddi hi ‘i hunan gan fod ei chorff yn gryf a’i bod byth yn sâl drannoeth i’r tablenna. Mae’n syndod bron iddi benderfynu, yn drigain oed, fod yn rhaid iddi beidio. Falle, yn yr ugain mlynedd ers i Dylan farw, y daeth i amgyffred y cylch dieflig y bu’n rhan ohono, sef disgwyl i bopeth newid ond iddi gadw gwneud yr union ag o’r blaen. Mae’n wyrth bron iddi herio’i hunan. Ac er iddi gyffesu nad oedd bywyd mor gyffrous heb y ddiod a heb Dylan (a hi oedd yn gosod y ddau yn y drefn yna), eto’i’ gyd cafodd ugain mlynedd yn ychwaneg, ac achub ei hun.

 

Gwyn Emberton, Eddie Ladd

 

Mewn cylch ac mewn cyfarfod gallai fwrw golwg ar ei gweithredoedd. ‘Ry’ ni’n gafael yn y ddyfais hon a’i dangos yn adrodd ei hanes wrth y cwmni, y storiaes yn codi’n naturiol, weithiau mewn trefn, weithiau ddim. Darllenais lawer amdani ond deilliodd y sioe o’r llyfr cyntaf y gafaelais ynddo, sef “Double drink story”, ysgrif ar ei pherthynas gyda Dylan trwy gyfrwng alcohol. Yng nghwmniach AA mae yna ddeuddeg cam y dylid eu trado, a bob cam yn arwain at adnabod eich hunan yn well er mwyn eich cadw rhag yfed eto. Dywedodd rhywun oedd yn ei hadnabod, ac sy’n aelod o’r gyfeillach, mai cam pedwar yw’r llyfr, sef pan yr ydych yn ymroi i hunan-archwiliad eofn a thrwyadl er mwyn deall yr hyn sy’n eich cymell i godi’r gwydr neu’r botel gyfan at eich gwefusau. Mae’n ysgrifennu’n ffraeth iawn, yn ddigfaddawd ond digri. Erbyn diwedd y llyfr roeddwn i’n weddol sicr mod i’n feddwyn sych.

 

O’n i’n gwbod fydde ‘na gyfarfod a chadeiriau. Lwcus fuon ni fod yna gadeiriau yng ngofod cwmni theatr Volcano, lle fuon ni’n ymarfer fwya’. Cadeiriau llwyd sy’n plygu. Gododd Deborah Light, y cyfarwyddwr, gader ar ben Gwyn, sy’n chwarae Dylan, yn ystod yr ymarfer ar y dydd Llun cyntaf. Erbyn diwedd y dydd o’n ni wedi penderfynu y byddai’r cadeiriau yn y gofod drwy’r amser; y bydden nhw’n gyfrwng; y bydden nhw’n llunio’r coreograffi. Try’r  cadeiriau’n feddrod, yn arch, yn wely ‘sbyty, yn gadair i’r prifardd-faban proffesiynol. Maent yn faglau, y ddau’n gaeth ynddynt, yn gaeth i alcohol ac i’w perthynas gyd-ddibynnol ; nid yw cadair mo’r un na’r llall, ond mae’n dal y corff yn rhythiad y ddau gyflwr. ‘Ry’ ni’n eu taflu, eu gollwng, yn cwympo oddi arnynt a’r sŵn yn creu’r trais bob-dydd.

Maent yn creu’r llwyfan hefyd, yn gylch rhannu profiad, yn gylch dieflig, yn dalwrn. Mae’r gynulleidfa’n gynulleidfa theatr ond maent bron â bod yn fynychwyr cyfarfod AA. Mae rhannu profiad, sef adrodd yr hyn ddigwyddodd i chi yn ystod eich “gyrfa” yfed, yn elfen annatod o gyfarfod ac mae’r cyflwyniad y nesa’ peth at theatr, ond heb i’r perfformwyr actio. Gwrando heb farnu yw rhan cynulleidfa cyfarfod. Ni all ein cynulleidfa ni ymddwyn yn yr un ffordd gan ei bod yn rhwym i gonfensiwn theatr. Eto’i gyd, dyma fi’n dweud “Hello I’m Caitlin and I’m an alcoholic” rhyw noson a chael ateb, “Hello Caitlin” gan aelod o’r gynulleidfa.

 

 

Caerdydd/Cardiff: Awst/ August 3 5, 6, 18:00, 20.00.  029 2030 4400, Chapter,  www.chapter.org £12.50 / £ 10.50 Caeredin/ Edinburgh: Awst/ August 21-30, (nid yw Dydd Llun) , Dance Base, 14-16, Grassmarket, Caeredin/ Edinburgh, EH1 2JU. 20.00.  0131 2255525 www.dancebase.co.uk

Leave a Reply