Caban Hud, Pontio

December 18, 2017 by

Sioe bendigedig i’r holl teulu oedd Caban Hud. Roedd y perffomiad yn hudolus, gyda cerddoriaeth bywiog ond eto hamddenol.

Gyda stori syml am eneth a’i dymuniad Nadolig, roedd yn creu awyrgylch Nadoligaidd. Perffomiodd y tri actor yn llawn ysbryd a mwynhaodd rhai o’r plant cael ymuno ar y llwyfan. Roedd yr eira a’r ser yn rhoi cefndir swynol, gaeafol i’w gwerthfawrogi gan yr ifanc a’r hen.

Roedd hi’n pleser cael newid o’r sioeau bywiol, swnllyd sy’n arferol adeg yma’r flwyddyn. Bysa’n braf tasa Nadolig go iawn fen hyn.

Trwy’r sioe roedd yna cyffro am beth oedd yn dod nesaf, ond heb codi ofn ar y plant ifanc. Doedd dim gormod o geiriau, roedd yn hawdd dilyn a hyd yn berffaith am blant ifanc.

Esyllt, oed 7 – o’n i’n caru weld y ferch wedi cyffroi yn cael ei anrheg, bysa fi di hoffi cael weld yn well Ty fewn i’r llyfr
Ynyr, oed 5 – sioe hudolus yn neud fi’n cyffroes am nadolig, hoffi weld y dyn yn neud yr anrheg y fwya!
Llyr, 2 oed – dyma’r tro gyntaf I Llyr gallu eistedd trwy sioe, wedi bod yn rhy ofnus o flaen ond wedi gwylio yn astud trwy’r holl sioe, wedi cadw sylw fo am yr 50 munud! Wedi mwynhau yr eira y fwyaf.

Cast : Rhodri Siôn, Morfudd Hughes, Manon Alaw a Miri Siôn.

Cynhyrchwyd gan Murmur.

Cerddoriaeth gan Osian Gwynedd.

Mwy o sioeau Nadolig

More Christmas shows

http://www.asiw.co.uk/reviews/hansel-gretel-gate-cardiff

http://www.asiw.co.uk/reviews/snow-white-seven-dwarfs-new-theatre

http://www.asiw.co.uk/reviews/snow-white-new-theatre-cardiff

http://www.asiw.co.uk/new-voices/snow-white-seve-dwarfs-new-theatre-cardiff

http://www.asiw.co.uk/reviews/charles-dickens-chimes-chapter-production

Leave a Reply