Cau y Geg!, Stifyn Parri

August 31, 2017 by

Wrth ddarllen fy nodiadau yn dilyn sioe Stifyn Parri, Cau Dy Geg,  dwi’n dal i chwerthin lond fy mol; mae’n berfformiad un-dyn unigryw yn yr iaith Gymraeg, sy’n sicr yn werth ei weld. Yn rhannol yn sioe stand-yp, llawn bon-mots di-ri, gystal bob tamed â Tudur Owen ac Elis James. Ond mae hefyd yn  cynrhcyhioli hunangofiant o fri, sy’n anniswgyl o ddwys yn ogystal â digri. Ar ben popeth mae’n insiders guide  i fyd adloniant dwyieithog Cymru, gyda’r rhestr o selebs yn ymestyn o A-Z.

Yn wir, cymaint yw’r enwau a ollyngir ar hyd y sioe, nes fod angen glanhawr wrth law â brwsh llawr. Ond pwy ydw i’n twyllo? Un o atyniadau mwya’r sioe yw clecs cableddus cefn-llwyfan Stifyn Parri.

Y pwynt ydy, dyma ddyn sydd – heb os nac oni bai – wedi bod yno, prynu’r crys t, a’i werthu ar ebay.  Bu’n actor ifanc llwyddiannus,  ac yn serennu yn y West End, cyn troi yn  impresario a threfnu extravaganzas mwyaf y byd PR Cymreig.  Ond fel icarws  a’i adennydd glud, profodd hubris ar hyd y ffordd;  fe aeth â ni ar daith wyllt o’i ddechreuadau yn ‘Rhos Uffern’ cyn dirwyn y sioe i ben â ‘Neges o’r Nef’.  

Dechreuir yn y dechreuad, gyda sillafiad ei enw Stifyn, ac ymhelaethir ar lu o lys-enwau eraill. Ceir amrywiaeth, o ‘Stiff-Un’, ‘Stuffing’ a ‘Twat’ – sy’n ffordd lwyddiannus  o gynhesu’r dorf – cyn  y crywbyllir enw’i ‘alter-ego’ y mae e’n ei hawlio ar hyd y sioe.

Rhennir ddedwyddwch ei blentyndod yn Rhosllannerchrugog – y sylfaen gadarn i’w fyd show-biz .  Fe’n cyflwynir i’w deulu, a’i ysgol fach, lle blannwyd hadau ei ddiddordeb ym myd adloniant. O wyliau teulu ym Mhrestatyn, ac eisteddfodau lu, fe ymunwn ag ef ar noson gyntaf S4C, yn actio yn Coleg. Ymlaen i Brookside, a’r ‘gusan hoyw gyntaf erioed’ y  planodd Stifyn ar foch dyn â ‘helmet hair’, a gipiodd y penawdau i gyd ar y pryd.  Trwy hynny, daeth yn poster-boy i’r ymgyrch dros hawliau cyfartal i bobol hoyw, tra oedd yntau, yn bur eironig, dal yng nghwpwrdd ei feddwl ei hun.

 

Stifyn Parri Banana Mouth 2

Wedi ‘dod allan’ i’w fam – oedd yn synnu dim, â hithau eisioes yn trysori l llun ohono yn Godspell â Michael Ball – aeth Stifyn ymlaen yn eofn i’r West End,  i berfformio ‘wyth  Chwyldro Ffrengig yr wythnos am ddwy flynedd’ fel Marius yn Les Miserables. Rasiwyd trwy flynyddoedd Cŵl Cymru (masterstroke PR y buddiodd Stifyn yn helaeth ohono) a sefydliad cymdeithas S.W.S, a phriodas Catherine Zeta-Jones a Michael Douglas yn y Plaza, Efrog Newydd. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, ei gwmni cyhoeddusrwydd Mr Producer oedd yn gyfrifol am drefnu  sbloets y Ryder Cup, ynghyd â’r cynulliad mwyaf erioed o bobol â’r cyfenw Jones, a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Mileniwm . Trwy hyn oll, clywyd am antics Bonnie Tyler a Peter Karrie, Katherine Jenkins a  ‘Burly Chassis’ – i enwi rhai.

Stifyn Parri Laughing His Head Off - Copy

Cywasgiad yn unig ydy’r penawdau  cyfarwydd hyn o antur bicaresg, sy’n  cymeryd nifer o droeon annisgwyl . Wrth i Stifyn chwysu chwartiau (‘mae’n amhosib sychu chwys efo Madonna mic.’) , fe oedodd yn aml gynnig sylwebaeth ffraeth ar yr holl ddigwyddiadau honco bost, ond eto ‘hollol lyfli’ (chwedl ei fam). Ro’n i’n eistedd rhwng dwy â phrofiad helaeth o ‘garco’ ‘selebs’, o Meic Stevens i Mickey Rooney, ac felly roedd hanes Stifyn Parri (a’i gyn-gynorthwy-ydd Lydia Jones)  am ddelio â gofynion y gantores Amazonaidd Grace Jones yn werth y tocyn ynddo’i hun. A rhwng disgrifio’r cyflwynydd tywydd Siân Lloyd fel stalker a’r Foneddiges Shân Phillips fel crack-whore,  a dilyn deiet ‘gwin a phinafal’ Myfanwy Talog, roedd y dorf, am y rhan fwyaf o’r sioe, yn eu dyblau a’r un mor chwyslyd â’r seren ei hun

Yn wir, ges i union yr un pleser o wylio’r sioe hon â darllen Red Carpets and Other Banana Skins (2006) gan Rupert Everett – cofiant adloniant, o droad y ganrif, sydd heb ei ail.  Ac o ystyried nad yw’r rhan fwyaf o hunangofiannau Cymraeg yn  dweud hanner digon o werth, byddai’n talu i Stifyn gyheddi cyfrol i gyd-fynd â’r sioe hon. Wrth gwrs, rhwng y ‘medde nhw’s  direidus a’r ‘allegedly’s gwych,  gallai hynny bery cryn gur pen i’r cyfreithwyr. Ond gallai hynny hefyd ddatrys penbleth rwystredig iawn; mae’r sioe ysblennydd  hon, yn syml, yn rhy hir.

Yn ddwyawr o hyd (ynghyd â thoriad chwarter awr), byddai’n buddio  o gael ei thynhau. Does dim pall ar yr hwyl, ond teimlaf y byddai rhannau ‘gwanaf’ y sioe yn fwy addas wedi’u cofnodi  rhwng dwy glawr.  Yn benodol, dau rwtîn sy’n pontio dwy hanner y sioe, sy’n ymdrybaeddu, yn llythrennol, mewn hiwmor toiled – ac yn cael hwyl ar ben ei fam.

Serch hynny, ac er mor ‘catty’ ar adegau ydy’r sylwadau, sy’n ffyrnig o ffraeth,  nid sioe gas na maleius o gwbl mo Cau y Geg.  Yn wir, ymysg yr haenau o hiwmor – sy’n amrywio o one-liners i straeon o fri – mae na ddwyster, a gwersi bywyd i’w rhannu â ni.  O agwedd at fywyd a marwolaeth, cariad a gwaith, gellid deall sut mai Mentor a Hyfforddwr Sgiliau (ar ben popeth arall) yw Stifyn bellach.

Ceir hefyd  yn y naratif awgrym o ‘gylch’  y gellid ei gryfhau, os am greu set  gomedi mwy cryno . Dygodd yr elfen honno i gof un o’r sioeau stand-yp gorau a welais erioed, Do You Remember the First Time? gan Elis James yng Ngŵyl Caeredin yn 2011. Y pay-off llwyddiannus bryd hynny, yn ddigon bisâr, oedd  cysylltiad â’r cyn-gyflwynydd Grandstand, David Coleman. Yn rhyfedd ddiogon, mae ffigwr o fyd chwaraeon yn chwarae rôl nid anhebyg yma.

Ond dyna, mewn gwirionedd, ydy mawredd y sioe; dim ond un elfen yw’r comedi stand-yp. Mae’n Ted-Talk trydanol,  ac yn loddest o laffs, ac rwy’n gobeithio wir am lawer mwy cyn hir.

Leave a Reply