Dim Byd Ynni, Theatr Bara Caws, Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2017

August 9, 2017 by

Dechreuodd ffars deuluol Theatr Bara Caws yn awddawol iawn ar faes y Brifwyl ym Modedern. Fe’n denwyd ni fewn i ddirgelwch abswrd a seiniau seiloffon a la Angelo Badalmenti. Heb yngan ’run gair, fe’n cyflwynwyd i ysgrifenyddes lem, bwtler boncyrs a lleidr llechwraidd. Sefydlwyd y stori o’r dechrau’n deg; roedd pawb am gael eu bachau ar bres bonheddwr.

Y bonheddwr dan sylw oedd Syr Llywarch ap Felix (Rhys Parry Jones),  arloeswr ym myd ynni ar Ynys Môn. Creodd drydan arloesol a chynaladwy i’r fro trwy greu statig o falu awyr. Yn anffodus, ag yntau’n byw a bod yn ei drowsus ‘dal ’fala’, roedd ei natur yn bur froenuchel. Bu Candy Mêl (Rhian Blythe), ei ferch, yn dwyn o’i ‘saff’ ers blynyddoedd, a’i wraig Angela (Christine Pritchard) yn cynnal affer â’r toyboy twyllodrus Malcolm Leech (Iwan John).

Ar achlysur ymweliad gan Dylan Tudur (John Glyn Owen),  hen feddwyn o fardd, caiff cartref Llywarch ei felltithio gan angau. Ond pwy sy’n gyfrifol am lofruddio Geriach y bytler, a ddarganfuwyd â chyllell fara yn ei gefn? Trwy drugaredd, daw heddwas – yr Arolygydd Carnben (Rhodri Evan) – i’r tŷ, i geisio datrys y dirgelwch…

Rhaid dweud i mi fwynhau elfennau o’r ffars ddychanol hon, oedd yn gwneud hwyl yn bennaf am ben y genre ei hun. Yn un peth, rhaid canmol perfformiadau’r ensemble, sy’n cynnwys nifer o actorion gorau Cymru. Rhoddodd bawb gant y cant o’u hegni i’r sgript, a oedd yn siomedig o syrffedus ar adegau.

Ymysg ei rhagoriaethau oedd elfennau chwareus, pan dorrwyd trwy ‘pedwerydd wal’ y profiad theatrig. Gafaelodd Rhys Parry Jones yn gadarn yn yr elfen hon, wrth chwarae actor oedd yn grediniol ei fod yn llawer gwell na’r deunydd, a’r siop siafins o gynhyrchiad o’i gwmpas. Fe chwinciodd, ‘ad-libiodd’ a rowliodd ei lygaid yn gain, a dibynnodd yntau –  ac eraill – ar y ‘prompt’ anweledig.

Cafwyd adlais o wrth-arwyr megis Basil Fawlty, Rhisiart ap Rhydderch  a J.S. Jones,  yn ei berfformiad ef – ac elfen o Acorn Antiques a Teulu’r Mans yn y cynhyrchiad gwallgof.

Carwn fod wedi profi llawer mwy o’r haenau Pirandello-aidd hyn mewn sgript tipyn mwy tynn, ond treuliwyd gormod o amser yn egluro cymhelliant y cymeriadau, ar draul y dychan am Wylfa B. Un peth yw gwneud hwyl ar ben yr arddull theatrig, wrth gyflwyno llu o ‘tropes’ cyfarwydd; ond peth arall yw cyflwyno ffars lwyddiannus, a dirgelwch ddifyr yn ganolog iddi, â haenau pellach o glyfrwch i’w chyfoethogi . Ar y noson y’i gwelais i hi, cafwyd seibiannau niferus heb ’run ymateb gan y dorf, gan golli momentwm y triciau theatrig mwyaf llwyddiannus. Fe’m diflaswyd am gyfnodau tan y diweddglo honco bost, a blethodd elfennau cryfaf y cynhyrchiad ynghyd.

Yn eu plith, fel rwy’n pwysleisio, perfformiadau’r cast, a chyfarwyddo chwareus Betsan Llwyd trwyddi draw, ynghyd â sain a goleuo meistrolgar.

O ran y perfformio – heb os, y prif reswm i’w gweld – yna, mae’n bleser bob tro i wylio sgiliau slapstig Iwan John, yma’n chwarae prif ‘stooge’ y ddrama, Malcolm Leach. Dioddefodd  fwlio torfol gan bawb, sawl proc yn ei lygaid, a drysau di-ri yn cau am ei drwyn. Bethbynnag ddwedwch chi am hiwmor, ‘n[a]d yw pawb yn gwirioni run fath’, mae’n amhosib gwylio Iwan John, â’i arddull bachgennaidd a’i lygaid syn, heb chwerthin  lond eich bol.

Mae Rhodri Evan yr un fath, wrth afael mewn cymeriad fel daeargi, a’r tro hwn cyflwynodd heddwas hynod cwyrci. Roedd rhywbeth manic o efengylaidd ynghylch ei ymrwymiad i’r rhan, a’r geiriau’n tasgu o’i enau fel  diwygiwr ar dân. A cafodd John Glyn Jones – sydd ar ei orau ar lwyfan byw – hefyd gryn sbort am ben yr ‘awdur Cymraeg’.

Gallai’r fonesig Christine Pritchard – yma’n portreadu Angela, gwraig sinigaidd ap Felix –  chwarae ‘diva’ yn ei chwsg; roedd hi’n haeddu gwell deunydd na hyn. Rwy’n teimlo ’run fath am Candy Mêl, a’r ysgrifenyddes Miss Llwyd – rhannau deublyg, a bortreadwyd gan Rhian Blythe. Cyfeiriodd yr awdur, Emlyn Gomer, yn rhaglen y ddrama, mai adweithiad o ddrama cynharach o 1991 oedd Dim Byd Ynni, a gododd y ‘cyfle i chwynnu a chryfhau  yn ogystal a moderneiddio ’chydig arni’. Wel,  y dynion gafodd y gorau yn y cynhyrchiad hwn; byddai wedi talu ar ei ganfed i ddatblygu rhannau’r merched.

Ond serch y gwendidau, dotiais at glyfrwch geiriol yr awdur, wrth gyfieithu’n llythrennol, ac arteithio nifer fawr o ddiarhebion – ‘Dyfal donc a dal dy gerrig’ yn un o’r rheiny. Cafwyd hefyd sawl jôc – ond dim digon at fy nant i! – gyda nifer yn aros yn y cof. Mynodd y bardd ar un pwynt, ‘Dwi di bod yn heddychwr ar hyd fy oes!’. Yr ymateb gan Angela? ‘Oes rhaid i chi neud cymaint o blydi sŵn!’. Gwych.

Mae cynhyrchiad  Dim Byd Ynni gan Theatr Bara Caws yn parhau yn Theatr Fach y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2017 ym Modedern tan nos Fercher y 9ed o Awst. Bydd yn teithio theatrua ledled Cymru rhwng Medi 14eg a Hydref 7ed, 2017.

 

Leave a Reply