Dirty Protest yng nghaffi dinesig Little Man Coffee

June 26, 2017 by

Gwledd o wleidyddiaeth a brofwyd dros baned ar benwythnos cyntaf Tafwyl, wrth i gwmni theatr ymylol Dirty Protest gynnal ‘Protest Fudr’ yng nghaffi dinesig Little Man Coffee. Ond nid agitprop oedd yr arlwy ar gynnig ar nos Sul, na dadlau chwyrn y misoedd dwethaf, ond  bratheidiau bychain o bryderon bob-dydd sy’n  perthyn i’r darlun mawr.

O  ddeiet-io i ddêtio, magu plant a’u cadw’n saff, archwiliwyd yr hyn sy’n ein cadw ar effro ganol nos. Naws llon oedd i’w deimlo ar hyd y noson gyfan, a groesawyd  gan y dorf ar nos Sul. Ond treiddiodd y lleddf, yn ogystal, i gilfachau annisgwyl, i’n sadio a’n hanesmwytho.

Fel yn achos pob sioe ers sefydlu’r cwmni yn 2007, cynigwyd thema i chwech awdur – sef ‘Ynys’ yn yr achos yma – a thair wythnos i sgwennu drama ddeg munud.  Cafwyd ensemble o actorion, a’u sgriptiau wrth  law, dan gyfarwyddyd yr actor Siôn Pritchard. Dan bwysau o’r fath, rhaid canmol cyfraniad pawb, yn arbennig y newydd-ddyfodwyr.

Cychwynwyd â drama deneuaf y noson sef Cybi gan Elgan Rhys. Chwaraeodd Lloyd Meredith a Gethin Bickerton ddau gariad yn cyfarfod ar Grindr, cyn ceisio cynnal perthynas hirbell. Er i’r sgript danlinellu sawl is-thema oesol,  am wrth-daro rhwng profiadau a disgwyliadau, doedd dim llawer o ‘ddrama’ wrth i un deithio’r byd i ddarganfod ei hun, a dynion eraill. Nid ychwanegodd y sboncio ’nol a ’mlaen mewn amser at ein dealltwriaeth o’r sefyllfa, a doedd y mynegiant ddim yn glir bob tro. Ond i bawb sydd wedi caru, a’u brifo drachefn, roedd yma ddigon i daro tant.

Dilynwyd Cybi gan ddrama gyfoes Anwar a Simone gan Lisa Jên, a ddenodd y chwilfrydedd o’r cychwyn cyntaf.  Chwaraeodd Osian Llywelyn Edwards ddyn ar binnau yn ddeheuig, gan ein cam-arwain i gredu mai comedi, am rieni’n disgwyl babi, oedd dan sylw.  Ond trodd ei banics ‘or-ddramataig’, a pheswch cynyddol ei bartner (Elin Haf Davies), yn sefyllfa enbydus dros ben. Anheg fyddai datgelu manylion y troad, gyda pherfformiad yn Galeri Caernarfon ar y gweill. Ond digon yw dweud  y gwyrdroir stori newyddion ddiweddar, gan gynnig cip bersonol ar drasiedi fawr. Serch sensitifrwydd y testun, ceir ffin bendant rhwng diweddglo effeithiol a melodramatig mewn drama fer,  a gofynnir am berfformiad mwy cynnil tua’i therfyn, rhag colli cydymdeimlad y dorf.

Cyfarfyddiad dau ddieithryn a gafwyd yn Dwy Frân, drama gomig gan Dafydd Llewelyn, sy’n troi ystrydebau rhamantus ar eu pen. Cydymdeimlodd y dorf â chymeriad Dafydd Emyr o’i ebychiad cyntaf un, wrth ddamio’i grucymalau tra’n penlinio ar lawr. Efelychai ffigwr arwrol fel Sisiffws, pe bai yntau’n Fonwysyn o hen lanc llawn ffws. Mae’n cyfarfod â merch yn nhwyni tywod Llanddwyn, lle mae ganddo gynllun pendant ar waith. Ond nid Love Island mo Sir Fôn, fel y cawn ein hatgoffa gan y ferch (Catrin Mai), sydd, yn groes i’r disgwyl, yn llawn cynghorion doeth. Dyma ddrama sydd â’i gwreiddiau yn Theatr yr Abswrd, ond nid ‘tŷ ar y tywod’ mo’r ddrama hon. Diolch i berfformiadau disglair, cynheswn at ddau gymeriad hoffus sydd â’u traed yn sownd ar y ddaear, tra hefyd yn syllu ar y sêr.

Cyfnewidiodd Catrin Mai yr ‘hulpan fusneslyd’ flaenorol am ‘yummy mummy’ ddosbarth canol Cymraeg, yn ‘Ynys’ gan y ddiddanwraig Beth Angell. Estynoddd y wraig wahoddiad i’w ffrind (Elin Haf Davies) ddod i rannu potel o win, i gael bedyddio cegin newydd ei chartref moethus.Wrth i’r ddwy eistedd ger symbol statws yr yr‘ynys’ ganolog, cymharwyd bywyd sengl â dyletswyddau priodas,. Crybwyllwyd pob dim, o blow-jobs i brilîms yr Urdd, cyn i’r ddrama gymeryd troad annisgwyl. Pleser oedd clustfeinio ar ddeialog ffyrnig o ffraeth rhwng dwy Gymraes gyfoes. Gallai’r ddrama yn hawdd fod yn beilot drama radio neu sit-com gan Sharon Horgan; cywasgwyd y diweddglo yn rhy frysiog, gwaetha’r modd, ond mae’n bendant angen ei hymestyn ar gyfer cynulleidfa ehangach.

Yn y ddrama Tom ac Elin, cyfosodir fywydau dau ddieithryn, cyn i lwbrau’r ddau groesi dan gysgod trasiedi. Dyma ddau felin bupur sy’n brolio’u bywydau yn ddi-baid, tan i ffawd brofi nad oes geiriau ambell waith. Cyflwynir Elin (Elin Haf Davies) a Tom (Osian Lewelyn Edwards) yn effeithiol yn sgript Chris Harris, gyda’r ddau yn fodlon iawn eu byd; y naill yn fam ddedwydd, a’r llall yn daid balch, a’r ddau yn dröedig braidd. Ond rhwng y llinellau dehonglwn ddyfnder i’r ddau, a dechreuwn amau fod newid ar droed. Portread di-rodres a geir o Elin, a bron yn fecanyddol yw ei sgript, tra tinc hunan-amddiffynnol sydd i lif-yr-ymwybod Tom, a cyn hir fe ddarganfuwn pam. Er y gwelwn ni’r troad yn dod o bell, fe’i ofnwn, gan bryderu ar ran y ddau. Llwydda’r actorion i’n darbwyllo, diolch i sgript bur ddyneiddiol, a chyfarwyddo hynod gynnil, ysgafn-droed.

Yn olaf, ond nid leiaf, Un Bach Arall lenwodd slot  newydd-ddyfodwr Protest Fudur. Yr actores Bethan Ellis Owen ‘bopiodd ei cheirios’ fel dramodydd y tro hwn, ar y cyd â Rhiannon Bolye. Cynigwyd  gyfle euraidd i Elin Haf Davies arddangos ei sgiliau comedi corfforol yng nghwmni angel (Gethin Bickerton) a diafol (Dafydd Emyr) o fri. Byrdwn y ddrama oedd brwydr fewnol merch i anwybyddu’r ysfa am fwyd, yn y gobaith o gyrraedd Halkidiki â bikini-bod. Ond diolch i ddiafol mewn croen, a’i hoffter am lager a ffags, pa obaith oedd ganddi o oresgyn temtasiwn? Cusur Job a gynigwyd iddi  gan yr angel piwis dros ben, oedd ’run mor gyfrifol am ei dagrau mawr.

Diolch i ddrama hynod ddigri, a pherfformiadau tan gamp, daeth y noson i ben â chwerthin mawr, a chymeradwyaeth gynnes iawn, i bawb. Nid peth hawdd yw llunio drama fer ddeg munud o hyd – boed honno’n un llon neu yn lleddf –  ac rwy’n llawn edmygedd i’r tîm cyfan am gyflwyno’r fath gamp. Ond ddeng mlynedd ers ei sefydlu, yn bennaf er mwyn hybu sgrifennu newydd, profwyd droeon werth noson o’r fath. Diolch i griw glân, gloyw theatr ymylol Protest Fudr, mae’r Theatr Gymraeg yn bendant ar ei hennill.

Bydd cwmni theatr Dirty Protest yn perfformio’r un sioe – chwe drama fer yn yr iaith Gymraeg wedi’u hysbrydoli gan y thema ‘Ynys’ – yn Galeri, Caernarfon, ar nos Wener, Gorffennaf 7ed, 2017. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

 

 

.

 

 

Leave a Reply