A Good Clean Heart, gan Alun Saunders

October 22, 2016 by

Ni allaf gofio’r tro diwethaf imi fwynhau drama cymaint â ‘A Good Clean Heart’. Dyma gynhyrchiad cyfoes a difyr sy’n ymdrin â themâu sy’n berthnasol i ni heddiw. Nid yw’n syndod bod Alun Saunders wedi ennill gwobr y dramodydd gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru yn gynharach eleni. Fel cyfanwaith, roedd yn torri tir newydd ac yn byrlymu o greadigrwydd. Mae’r gwaith yn ffrwyth cydweithio rhwng Neontopia, Canolfan Mileniwm Cymru, The Other Room a Theatr Genedlaethol Cymru. Yn wir, gwelir olion y cydweithrediad hwn yn dod ynghyd yn y perfformiad.

Cefndir y ddrama yw’r broses fabwysiadu a sut y cafodd dau frawd eu gwahanu pan oeddent yn ifanc. Mae hyn wedi arwain at fagwraeth tra gwahanol, a’r gwrthgyferbyniad hwn yn sail ffrwythlon ar gyfer archwilio hunaniaeth mewn modd emosiynol sy’n ennyn ein chwlfrydedd. Tra bo un wedi ei fagu yng ngorllewin Cymru ac yn siarad y Gymraeg fel mamiaith, cafodd y llall fagwraeth ddinesig yn Llundain. Y gwahaniaeth rhwng cefndiroedd y ddau yw sail y ddrama, ond er gwaethaf y tyndra rhyngddynt ar adegau wedi iddynt gyfarfod, mae’r cwlwm brawdol hefyd yn rymus. Cafwyd portread gwych o’r berthynas hon gan yr actorion, Oliver Wellington a James Ifan.

 


Er y gallai’r sefyllfa hon fod yn un ddwys a thywyll, roedd digonedd o hiwmor drwyddo draw. Mwynheais yn enwedig y tempo cyflym, a chredaf fod y ddeialog dynn wedi elwa o’i chwtogi o awr a thri chwarter i awr a chwarter. Rhyfeddais at allu’r cymeriadau i symud mor sydyn mewn gofod cyfyng, a’r rheiny yn finiog ac yn ychwanegu at gyffro’r amgylchiadau. Roedd symlrwydd y set yn effeithiol, a sgrin fel cefnlen yn rhoi cyfle delfrydol am ddyfeisgarwch gyda golau a sain. Plethai’r ddwy nodwedd hon ynghyd i greu byd o liw ac awyrgylch drawsnewidiol.

 


Bu’n arbrawf llwyddiannus creu cynhyrchiad dwyieithog, a’u bwriad i gynnwys cynulleidfaoedd di-Gymraeg a Chymraeg eu hiaith drwy gynnig cyfieithiadau ar y sgrin yn un sydd wedi dwyn ffrwyth wrth iddynt deithio i ŵyl y Fringe yng Nghaeredin eleni. Efallai nad oedd y cyfieithiadau yn taro deuddeg bob amser i’m clust i, ac roedd yr isdeitlau mewn lliw yn tynnu’r llygad ar brydiau nes bod angen canolbwyntio ar y digwydd. Fodd bynnag, cafwyd cydbwysedd priodol rhwng cyfeiriadaeth a fyddai’n ddealladwy i gynulleidfa Gymraeg yn unig a hiwmor mwy niwtral a fyddai’n hygyrch i’r di-Gymraeg. Roedd ymwybyddiaeth o’r iaith yn hollbwysig i gyfleu’r gwahaniaeth sylfaenol rhwng magwraeth y ddau, a chredaf fod stori o’r fath yn gyfle perffaith i addysgu pobl y tu hwnt i Gymru am ein diwylliant mewn modd anuniongyrchol.
Rhoddwyd blas cyfoes iawn i’r perfformiad wrth i ni weld y defnydd o wefannau fel Facebook ar y sgrin. Roedd nifer o ddisgyblion a oedd yn astudio’r Gymraeg fel ail iaith yn y gynulleidfa, a diolchodd yr athrawon am gynhyrchiad o’r fath, sy’n dyst i’r modd yr oedd yn uniaethu ac yn siarad â phobl ifanc. Trafodwyd pynciau difrifol, ond nid oedd unrhyw agwedd o’r cynhyrchiad yn sych. Mae’r dramodydd ei hun wedi cael profiad o’r broses fabwysiadu, a theimlaf fod y cynhyrchiad yn dangos ymwybyddiaeth ddwfn o gymhlethdodau’r daith.hi
Adrodd stori a geir yma yn fwy na dim, a thrwy hynny cafwyd cyffyrddiadau teimladwy, gafaelgar a dirdynnol a fydd yn aros yn y cof. Llwyddwyd i greu naws drydanol, ac roedd yr hiwmor cyson yn osgoi unrhyw dueddiadau gor-sentimental. Hoffwn weld rhagor gan yr awdur dawnus hwn. Mae’n rhaid llongyfarch Mared Swain hefyd am ei chyfarwyddo. Er bod mabwysiadu yn gallu bod yn thema dreuliedig, cynigiwyd rhywbeth ffres a beiddgar yma na welir yn aml ym myd y theatr.

Leave a Reply