Rhith Gan, Theatr Genedlaethol Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

August 3, 2016 by

Ga i’ch annog chi gyd i fachu ‘tocyn aur’ Maes Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau 2016 – cynhyrchiad arbennig sy’n ddol Rwsiaidd o brofiad theatrig, sydd ymlaen yn y cwt Drama tan  nos Wener, y 5ed o Awst.  Yn seiliedig ar albwm Y Bardd Anfarwol gan Gareth Bonello o The Gentle Good  –  a enillodd wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod Llanelli, 2014 – fe gipiodd Rhith Gân y Fedal Ddrama i’r dramodydd Wyn Mason yn Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau, 2015.

Eleni felly, profwn benllanw taith annisgwyl a gychwynodd  yn Tseina yn  2011; drama gyfoes, trasi-comig a gyflwynir yn yr iaith y Gymraeg, sydd hefyd yn fyfyrdod ysgubol o hardd. Plethir athrawiaethau oesol ar dreigl amser, natur, hapusrwydd a chariad, sydd a’u gwreiddiau’n dyddio nol i’r 8ed Ganrif yn y Dwyrain Pell.  Dychmygwch ddilyniant  theatrig-gerddorol i gyfrol John Cale, What’s Welsh For Zen?, a fyddwch chi ddim yn bell ohoni…

 

 

 

 

 

Cawn gyflwyniad i ddyn canol oed or enw Orin (Rhodri Evan), wrth iddo agor bocs  cardfwrdd Amazon. Tra’n byseddu cyfrol o gerddi gan Li Bai o gyfnod Brenhinlli Tang –  y ‘Bardd Anfarwol’ ei hun – daw ei ferch Elen (Saran Mrogan) ar ei draws i’w darfu,  yn llawn bustl am Hanna (Nia Roberts), ei mam. Gydag Elen ar drothwy ei denaw oed, daw’n amlwg fod na agendor mawr yn bod rhwng y ddwy, a’i bod yn nes o lawer at ei thad – tybed pam?

Wrth i Orin bori ymhellach trwy’r gyfrol,  daw’r awdur  yn fyw o’n blaenau; ‘bardd y dao’ Li Bai, mewn kimono du, yn llonydd ond yn llawn cynghorion doeth.  Daw’r ffigwr hwn yn feistr Zen o fath i Orin, mewn cyfnod hynod heriol o’i fywyd;  mae’i wraig yn llawn straen – ‘yn annuwiol o anghennus’, a channwyll ei lygaid ar fin hedfan y nyth. Beth sy’n bod ar droi at gysur y gitar – ac nid yr hwfyr – pan fo’i fyd ar fin torri’n deilchion?

Wrth i’r stori ddwyshau, darganfuwn yn wir, i’w fyd droi tu chwith ers tro byd. Daw’n amlwg i’r meistr estyn allan am reswm; i achub Orin oddi wrth ei hun.

Mae’r berthynas rhwng y ddau yn ddifyr tu hwnt, diolch i  act ddwbwl arbennig, a gydbwysir yn berffaith dan gyfarwyddyd Sara Lloyd. Cydweithiodd Rhodri Evan a Llion Williams yn arbennig o dda yn Difa (Theatr Bara Caws), drama nid anhebyg am  iechyd meddwl yn 2015; yma, mae’r cemeg comig rhwng y ddau ar ei orau, a’u haelioni tuag at ei gilydd yn amlwg iawn.

Enillodd Rhodri Evan y wobr am Actor Gorau y Theatr Gymraeg eleni – a byddai’n talu i bawb ei weld yn Rhith Gân, fel dyn wedi cyrraedd pen ei dennyn. Daw â haneau anhymig i’w bortread o ddyn go iawn –  un bregus ond hollol hurt yr un pryd-  ddaw, wrth ystyried ei sefyllfa a newid er gwell,  yn raddol yn ôl at ei goed.  Ymddangosai Llion Williams fel pe bai wedi cyrraedd Nirvana, wrth gynnig  perfformiad tan gamp fel y Yoda Cymreig; dylid datblygu ap ‘Ymwybyddiaeth Gofalgar’, â llais ‘Li Gweld Bai’ i leddfu cur y Cymry Cymraeg.

Er y cyflwynir hanesion y merched o berspectif Orin ei hun, gweithia’r ddwy actores yn wych i ennyn ein cydymdeimlad. Diolch i sgript eofn ac afieithus Wyn Mason, caiff Saran Morgan rwydd hynt i greu sioc, a hoelio sylw’r dorf. Try Nia Roberts y ddelwedd o’r wraig  ‘needy’ ar ei phen, wrth gyflwyno dosbarth meistr mewn rhwystredigaeth, gan gydbwyso fflachiadau o byd o boen Hanna ag amseru comig craff.

Fe’n denir ni  fewn i seintwar y stori gan set ardderchog Luned Gwawr Evans; camp ynddo’i hun yng Nghwt Drama y Maes, sy’n pwysleisio’r ‘mini’ ym ‘minimalistaidd’. Cyffyrddiadau cynnil a geir, sy’n asio â’r darn, gan gynnwys sgrîn gefndirol, sy’n taflunio delweddau heddychlon – pwll adlewyrchol, o liwiau amrywiol, yn eu plith. Ategwch at hynny ‘lleuad lawn’, blanced wlân, coed pîn, a soffa syml; byddai meistres y dysgeidiaeth tacluso KonMari,  Marie Kondo, wrth ei bodd. A gair i ganmol y goleuo i’r entrychion, gwaith clodwiw gan Ceri James; pan safodd Li Bai o’n blaenau mewn cwmwl glas, ysgubol o hardd, fe’m saethwyd innau’n syth i fy seithfed nef!

Plethwyd y ddrama â pherfformiad byw gan Gareth Bonello, o ganeuon yr albwm, a ysbrydolwyd gan ei  ysgoloriaeth i Tseina yn 2011; ymunwyd ag ef gan ganu’r actorion, a weithiodd yn gelfydd yn ystod y darn. Clywyd clychau cefndirol, ynghyd â darnau gitâr, a’r Pipa, a greodd naws heddychlon dros ben.  Son am danio sawl awen, cael gwerth am arian ‘run pryd, heb sôn am ddihangfa dros dro  i’r Cymry Cymraeg  ; dyma brofiad theatrig aml-gyfryngol sy’n  cyffwrdd â’r enaid twy gerdd a chân.

Wedi sawru’r ddrama ar ei noson gyntaf, carwn ei phrofi eilwaith er pleser pur . Ac os fydd y tocynnau wedi mynd, gallaf droi at yr albwm ei hun, lle gall y siwrne hyfryd hon  barnhau.

 

Ffotograffiaeth:

Betsan Evans, Celf Calon

 

 

 

 

 

 

Leave a Reply