Sieiloc, Rhodri Miles

September 15, 2017 by

Dwi wastad yn edrych ymlaen i sawru perfformiad gan Rhodri Miles, yr actor o Bontarddulais. Creodd argraff anferthol ar gynulleidfaoedd ledled y byd, gyda’i  berfformiadau un-dyn o Richard Burton yn Burton, a Dylan Thomas yn Clown in The Moon. Fel yn achos Michael Sheen, mae e’n mynd dan groen cymeriad i’r fath raddau mai pur amhosib yw gwahaniaethu  rhwng y testun a’r artist o’n blaenau. Mae ei garisma yn tasgu o’r llwyfan, a’i lais yn  taro uchelfannau pellaf y ‘gods’. Nid peth, gyda llaw, bach mo hynny yn y theatr Gymreig sydd ohoni.

Wel, y testun dan sylw yn ei sioe diweddaraf yw cymeriad arall cyfarwydd dros ben. Cyfarwydd, hynny yw, i genedlaethau o ddisgyblion ysgol a dilynwyr Shakespeare, sef Sieiloc o’r Marsiandïwr o Fenis. Ond pa mor deg fu’r dehongliad o’r benthycwr arian Iddewig, sy’n chwarae prif ‘ddihiryn’ y cynhyrchiad clasurol hwnnw? Yn nrama wreiddiol rymus Gareth Armstrong, awn ar siwrne ’nol mewn amser i ganfod gwreiddiau anghyfiawnder mawr.

O’m rhan i, galla i adrodd llinellau cyntaf araith ‘Portia’ ar fy nghôf, fyth er dosbarth Saesneg Mrs Rogers ym Mlwyddyn 2. Hi yw’r ferch, dan gochl ‘cyfreithiwr’, sydd yn llwyddo i herio Sieiloc wrth iddo geisio hawlio’i ‘bwys o gnawd’ mewn llys barn.  Ond beth am Sieiloc ei hun?  Beth ydw i’n ei gofio amdano fe?  Yn syml, braidd dim. Ond diolch i gyfarwyddiadau’r bardd, gwn yn iawn ei fod yn ‘Iddew’ – ac fod hynny, wrth ddweud y cyfan,  yn gryn sarhàd.

Er nad eicon Cymreig fel ‘Dylan’ neu ‘Rich’ sydd dan sylw ar hyd y darn, neu ‘arwr’ Shakespeare amlycach – fel Hamlet neu Macbeth – y mae Sieiloc yn sioe yn sydd gorfod ei weld ‘yn y cnawd’.  Am gyfnod o awr a hanner (ar ben yr egwyl o chwarter awr), mae Rhodri Miles yn cynnig storom drofannol o berfformiad,  sy’n gadael y dorf yn syn ac yntau’n chwys drabŵd, gyda phawb yn ail-gwestiynnu bywyd. Mae e’n llwyddo i ddadlennu gwerth canrifoedd o ragfarn yn erbyn hil ddioddefodd sawl cam; yn y byd go iawn , ac yn sgil hynny, ar amryw lwyfan.

Yn ogystal â ffigwr y benthycwr arian ei hun, mae’r actor yn chwarae dwsinau o Iddewon eraill mewn hanes; fel y bradwr Pontiws Peilat a’r bwystfil Barnabas yn eu plith –  ynghyd â chymeriadau eraill gan Shakespeare, fel Portia a Romeo. Ond y seren annisgwyl – a phrif lywiwr y sioe – yw cymeriad anghyfarwydd dros ben; yr unig Iddew yng  nghanon y bardd, ag eithrio Sieiloc ei hun, ac – yn ddigon trasig – ei unig ffrind.

Cawn gyflwyniad comig i Tiwbal, is-gymeriad yn y ddrama fawr ei hun, Y Marsiandïwr o Fenis. Wyth llinell sydd ganddo, ond mewn ‘golygfa allweddol’, yn ôl ei ymffrost ei hun. Yn ôl y bardd o Stratford ar Avon, mae’n ‘Iddew cyfoethog’, sy’n  adnabod Sieiloc… a dyna ni. Mae’n bodoli yn unig i roi cyd-destun i’r ‘cnaf’, ac yn ôl Tiwbal, i gadw’r stori i fynd. Ond yr hyn sy’n ysblennydd am y ddrama fentrus hon yw fod Tiwbal yn ail-gastio ei hun; fel cyfaill mynwesol i Sieiloc dlawd, ac yn ‘bresenoldeb cryf, distaw… Tiwbal!’, ac yn arwr yn ei hawl ei hun.

Yn ogystal ag ail-gyflwyno Sieiloc o’i berspectif ef, mae Tiwbal yn taenu golau ar ganrifoedd o  erledigaeth, a gwrth-Semitiaeth, ac yn ein gwahodd i ddarllen rhwng pob llinell. O dudalennau’r beibl, i’r Doomsday Book, a thu hwnt i gyfrol Mein Kampf. Ond hefyd cawn gip ar sut ddylanwad gafodd hyn ar ddramodwyr,  ac actorion mawr o fri. Dychmygwch pe bai ‘Rosencratz a Guilderstein’ Tom Stoppard yn olygyddion rhifyn arbennig iawn o Searchlight;  dyna i chi’r ddrama ddyfeisgar yn ei hanfod, ond gyda thipyn mwy o hiwmor Cymraeg.

Oherwydd serch yr hanes astrus – ac yn wir, mewn mannau, mae’n danfon sawl ias oer  lawr eich cefn – mae Sieiloc yn ddrama ddifyr,  a doniol dros ben. Diolch i addasiad Cymraeg gan Rhodri Miles , a’r gyfarwyddwraig cyswllt Rhian Morgan  (ynghyd â gwaith cyfieithu pellach gan Bethan Mair) mae’r sgript gignoeth o ffraeth yn hawdd i’w fwynhau, a gafael yr actor yn y geiriau yn gadarn ac yn llawn gorfoledd ar adegau.

Os oes ‘uchafbwynt’ i’r ddrama, yna mae astudiaeth Tiwbal o’i wyth llinell ‘allweddol’ yn cynnig dosbarth meistr yn nisgyblaeth ‘method’,  a ‘phatholeg’ y theatr . Mae’r adeiladwaith yn berffaith, wrth ein gwahodd i gyd-archwilio pob deimensiwn o olygfa a ddiddymwyd o hanes am gyfnod o 99 mlynedd!  Ac mae datganiad aml-gymeriad yr actor o olygfa’r llys barn yn gyfangwbl orchestol.  Mewn cwta bum munud, profwn chwyrligwgan o brofiadau, o hyder pur yn ein ‘arwr’ newydd,  i ansicrwydd, anghyfiawnder cyn glanio mewn pydew  o anobaith llwyr.

Gyda Hillary Clinton wrthi’n hyrwyddo ei llyfr, What Happened?, yr wythnos hon – sy’n asesu ei methiant yn erbyn Donald Trump, mewn gwaed oer – rwy’n tybio y byddai gwylio’r ddrama Sieiloc o fudd mawr, yn ei gwewyr, a’i dicter naturiol hi. Oherwydd nid drama am ddioddefaint Iddewon yn unig yw hon, ond effaith rhagfarn ar leiafrifoedd o bob math.  Ac wrth wylio, canodd sawl cloch i’r Gymraes Gymraeg hon, mewn byd ôl-Brexit, ben-i-waered, brawychus.

Profais y ddrama wych hon yn Nghanolfan Soar Merthyr Tudfil, gofod perffaith ar gyfer llwyfaniad o’r fath. Chwaraeodd Rhodri Miles i’r dorf, a gwerthfawrogwyd gyffyrddiadau lleol, fel cyfeiriad at Arglwydd Crawshay – cnaf ariannog Castell Cyfarthfa, gerllaw. Ond trawblannwyd y dorf i Mitteleuropa, gan seiniau Klezmer, a chanu hudolus yn yr Hebraeg. Dyma, yn rhyfeddol, oedd  perffomiad cyntaf un y drama drydanol hon, sy’n argoeli’n wych ar gyfer taith helaeth ledled Cymru yr hydref hwn .

Os yw’r enw Sieiloc yn eich gadael yn oer, yna heriwch eich rhagfarnau, i brofi drama – a pherfformiad – tanbaid tu hwnt sy’n siwr o’ch cyffwrdd chi i’r byw.

 

The Wales Theatre Awards 2018 winners

Leave a Reply