Wythnos yng Nghymru Fydd, Opra Cymru

June 23, 2017 by

Agorodd Theatr Ardudwy ei drysau ddydd Iau a dydd Gwener yr wythnos ddiwethaf ar gyfer ymarferion llwyfan cyntaf prosiect cyffrous diweddaraf OPRA Cymru: opera Gymraeg newydd gan Gareth Glyn a Mererid Hopwood, yn seiliedig ar nofel wyddonias eiconig Islwyn Ffowc Elis, Wythnos yng Nghymru Fydd .

 

Bu’r prif gantorion, Gwawr Edwards, Siân Meinir, Robyn Lyn, Siôn Goronwy ac Euros Campbell yn ymarfer trwy gydol yr wythnos o dan gyfarwyddyd yr arweinydd ifanc addawol, Iwan Teifion Davies, wrth baratoi ar gyfer y daith gyntaf o gynhyrchiad OPRA Cymru o’r opera newydd. Dechreuwyd yr wythnos yng nghartref y cwmni yng Nghapel Bethel, Llan Ffestiniog gyda thridiau o hyfforddiant ac ymarfer cerddorol dwys: cyfle, nid yn unig i’r prif gantorion  gyfarwyddo â’u rhannau ond hefyd cyfle i’r creawdwyr Gareth Glyn a Mererid Hopwodd gael clywed eu gwaith am y tro cyntaf

 

Ar ddydd Iau symudodd y cwmni i  lawr y ffordd i Theatr Ardudwy (Harlech) i ymarfer y gwaith mewn cyd-destun theatr, ac i baratoi ar gyfer ymarfer llawn ar fore Gwener o flaen partneriaid creadigol eraill  y prosiect, fel y dylunydd, Lois Prys a’r Cyfarwyddwr, Patrick Young, yn ogystal â Chyfarwyddwyr Artistig Canolfan Pontio ac Ensemble Cymru, Elen ap Robert a Peryn Clement-Evans. Hefyd yn bresennol ar y dydd Gwener roedd nifer o randdeiliaid eraill sydd â diddordeb yn y cynhyrchiad: aelodau staff o Brifysgol Bangor, prif gomisiynwyr y gwaith newydd, ac o Galactig, y cwmni cyfryngau digidol o Gaernarfon, sy’n addasu’r dechnoleg Sibrwd, yr app ffôn newydd sydd wedi cael ei ddefnyddio’n effeithiol gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn cynyrchiadau diweddar, ar gyfer y cyfrwng opera.

 

Mae cynhyrchiad y  perfformiad cyntaf o’r opera newydd yn mynd ar daith yn ddiweddarach eleni ym mis Tachwedd o dan reolaeth OPRA Cymru, yr unig gwmni opera Cymraeg yn y byd, mewn cydweithrediad â Gwasg Gomer (Llandysul), Prifysgol Bangor,  Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Ensemble Cymru ac Ysgol Glanaethwy. Mae’r daith yn cael ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Sefydliad Teulu Ashley, Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, Canolfan Ehangu Mynediad (Prifysgol Bangor) a Chronfa Elusen Park Jones.

 

welshop2

 

Mae 2017 yn nodi dathlu trigain mlynedd ers cyhoeddi nofel ddystopaidd Islwyn Ffowc Elis Wythnos yng Ngymru Fydd gan Blaid Cymru, gwaith lle mae gweledigaeth yr awdur o famwlad Gymreig ddwyieithog sy’n ffynnu yn cael ei osod ochr yn ochr â’r posibilrwydd enbyd o farwolaeth yr iaith Gymraeg. Ni fu erioed fwy o angen i ail-ddatgan neges sylfaenol y nofel nag heddiw ac mae’r prifardd, Mererid Hopwood a’r cyfansoddwr, Gareth Glyn yn gwbl gytûn bod yr alwad i weithredu sy’n ymddangos yn y llyfr wrth wraidd eu fersiwn operatig newydd o’r gwaith. Dywedodd y cyfansoddwr, Gareth Glyn, “Fel miloedd o Gymry eraill, roedd darllen y nofel Wythnos yng Nghymru Fydd yn brofiad ysgytwol a chreiddiol i mi; ac, er bod trigain mlynedd wedi mynd heibio ers ei chyhoeddi (gan Wasg Gomer), mae ei neges mor gref a chyffrous ag erioed.  Rydw i’n falch dros ben mai’r cwmni unigryw hwn, OPRA Cymru, fydd yn llwyfannu’r gwaith, ac edrychaf ymlaen yn eiddgar at gydweithio gyda nhw dros y misoedd nesa.”

 

Meddai Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio, “Mae Pontio’n falch iawn o fod yn bartner yn y fenter gyffrous hon.  Gyda dawn dweud Mererid Hopwood, talent gerddorol Gareth Glyn ac OPRA Cymru, ynghyd â themâu pwerus a pherthnasol iawn i’r Gymru gyfoes, mae’n addo bod yn gynhyrchiad arbennig ac arwyddocaol”.

 

Mae Patrick Young, Cyfarwyddwr Artistig OPRA Cymru, wrth ei fodd gyda llwyddiant y cast a’r arweinydd yn ystod yr wythnos: “Mae’n ysbrydoliaeth i mi i glywed rhai o leisiau gorau Cymru yn dod â gweledigaeth Gareth a Mererid yn fyw. Yr wyf yn edrych ymlaen at weithio gyda’r dylunydd, Lois Prys, i helpu’r talentau perfformio gwych yma ddod â chwedl moesoldeb unigryw Ffowc Elis yn fyw o’r dudalen i’r llwyfan. Mae’n foddhad arbennig i mi fod neges y nofel yn cyd-fynd mor agos â chenhadaeth ein cwmni: mae’r Gymraeg yn dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a llewyrchus yn y wlad hon, ac fel mae’n digwydd, y mae hefyd yn iaith fendigedig ar gyfer opera. Mae camp neilltuol Gareth a Mererid yn brawf perffaith o hynny. Yn dilyn  gwaith yr wythnos gyffrous hon ar y darn, rwy’n hyderus y bydd  perfformiadau y cynhyrchiad newydd ym mis Tachwedd yn hynod o boblogaidd. ”

 

Cyd-gynhyrchiad rhwng OPRA Cymru, Ensemble Cymru, Canolfan Gelfyddydau ac Arloesi Pontio a Phrifysgol Bangor yw Wythnos yng Nghymru Fydd. Gyda chaniatâd caredig Ystâd Islwyn Ffowc Elis a Gwasg Gomer

Leave a Reply