Y Tŵr, Music Theatre Wales, Theatr Genedlaethol Cymru

May 21, 2017 by

Cafodd opera newydd

dderbyniad gwresog iawn ar ei noson agoriadol yn Theatr Sherman, Caerdydd. Clywyd bonllefau o gymeradwyaeth, a saethodd rhai o aelodau’r dorf i’w traed, dan deimlad mawr yn dilyn profiad anghyffredin. Teg dweud i ddiweddglo rymus y stori, a luniwyd yn wreiddiol gan Gwenlyn Parry, gyfrannu’n helaeth iawn at hynny. Ond yn sglein chwys talcen y perfformwyr o’n blaenau roedd ôl penllanw blynyddoedd o waith.

Cychwynodd y daith ’nol yn 2009, pan dderbyniodd y cyfansoddwr Guto Puw wobr ariannol Cymru Greadigol. Ei uchelgais mawr oedd sgrifennu opera Cymraeg, yn seiliedig ar ddrama Y Tŵr gan Gwenlyn Parry. Aethpwyd ati i gyd-weithio â Music Theatre Wales, a Gwyneth Glyn, sef awdur y libretto. Mae’r daith sy’n mynd rhagddi ledled Cymru ar hyn o bryd yn gyd-gynhyrchiad â Theatr Genedlaethol Cymru.

Fel un sy’n gyfarwydd iawn â chlasur theatrig Gwenlyn Parry  roedd yma gyfle i brofi’r ddrama aml-haenog hon o’r newydd.   Yn wir, gellid dweud i ddrama Y Tŵr fy nilyn ers diwrnod fy ngenedigaeth, ar Awst y 7ed, 1978. Y noson honno perfformiwyd Y Tŵr am y tro cyntaf erioed, gyda John Ogwen a Maureen Rhys yn serennu ar lwyfan y Theatr Newydd. Wrth ei hastudio yn yr ysgol, fe nieithriwyd  i’n llwyr gan ei thywyllwch a’i themau astrus hi.

Ond wrth i’r blynyddoedd wibio heibio, profais amryw lwyfaniadau, ac fe dyfodd y stori oesol arna i. Mae hi’n ddrama sy’n cyfoethogi wrth i’r gwyliwr ei hun aeddfedu, ac ym mhob dehongliad fe ddatgelir haneau cudd. Ond, â minnau’n anghyfarwydd â’r  byd opera cyfoes, a hefyd gwaith Music Theatre Wales, a oedd gobaith i’r cynhyrchiad newydd gyffwrdd yndda i?

Lleolir tair act opera siambr Guto Puw, fel y ddrama, mewn tŵr dri llawr, ac yn syml, dilynir  perthynas gŵr a gwraig. Wrth i’r pâr di-enw ddringo o lawr i lawr, fe gychwynnir ym mlodau eu hieuenctid; wedi hynny, gwynebir stormydd geirwon canol oed, cyn cyrraedd oed yr addewid.

Caryl Hughes   y twr  photo by Clive Barda

Mewn cymhariaeth â gweithiau eraill mwy abswrdaidd gan Gwenlyn Parry, mae Y Tŵr yn hawdd i’w dilyn. Mae’r eirfa dafodieithol yn gyfoes a chlir, ond rhwng y llinellau ceir sawl  is-destun. Cywasgwyd brif themau y ddrama yn llwyddiannus yn libretto Gwyneth Glyn, gan arwain at gynhyrchiad opera sy’n symud yn  chwim. Ehangwyd ambell elfen, fel breuddwyd pili-pala’r ferch yn Act 1, a ymestynnwyd yma’n gelfydd ar ei hyd. Ac yn yr achos hwnnw, cafwyd cerddoriaeth cyfatebol, yn un o nifer o leitmotifs effeithiol dros ben.

Y gerddoriaeth, wrth gwrs, yw’r elfen fwyaf radical yn y cynhyrchiad arloesol hwn. Rhaid pwysleisio mai opera siambr gyfoes yw hon, ac nid oes arlliw o waith Wagner neu Verdi ar ei chyfyl hi. A bethbynnag a wnewch chi, peidiwch â drysu rhwng ‘Music Theatre’ ag arddull boblogaidd y Sioe Gerdd. Mae’r sain yn wir yn heriol, ac ymhell o fod yn swynol, ond nid yw taith y pâr bob tro yn esmwyth chwaith. Dyma gerddoriaeth wedi’i droi tu chwithig allan, sydd yn asio â’r ‘argyfwng gwacter ystyr’ dirfodaethol sydd ar waith.

Mae’r set, gan Samal Blak, yn eithriadol o drawiadol, a’r goleuo (gan Ace McCarron) yn dra effeithiol drwyddi draw. Wrth i actiau’r opera fynd rhagddynt, dinoethir y llwyfan bron yn llwyr, i gael canfod hanfod perthynas y ddau.

 © CLIVE BARDA/ ArenaPAL;

Dros y blynyddoedd, castiwyd enwau niferus fel y gŵr a’r wraig; weithiau’n dri phâr gwahanol o actorion. Ond gan amlaf, mae’n gyfle i ddau fynd amdani, a chynnig perfformiadau tour de force.  Y mae’r her o heneiddio’n effeithiol yn cynnig sialens dechnegol ychwanegol, i oresgyn anghredinedd y dorf. Yn hynny o beth, rwy’n ofni i Gwion Thomas, y baritôn, gael ei gam-gastio yn y cynhyrchiad hwn.

Serch ei brofiad helaeth ar lwyfannau ledled y byd, nid yw’n argyhoeddi fel llanc yr act gyntaf. Gyferbyn â Caryl Hughes, sydd gryn dipyn iau nag ef, mae ei wig amlwg yn denu gormod o sylw. Yn ogystal, ni synhwyrais gemeg digonol rhwng y ddau yn yr act gyntaf allweddol hon, sy’n sefydlu perthynas y ddau â’r gynulleidfa.  Gwnaethpwyd un penderfyniad gan y cyfarwyddwr Michael McCarthy wnaeth fy ngadael i yn gegrwth. Yn achos golygfa garu (sy’n nwydwyllt, yn act gyntaf y ddrama wreiddiol), gorchuddiwyd y ddau  dan gysgod sach gysgu, a arhosodd yn llonydd wrth i symbal ddychlamu islaw.

Tra fod y mezzo-soprano yn serennu – a darbwyllo – ar hyd tair act yr opera,  bu’n rhaid aros am fflachiadau o’r cyfnod ‘argyfwng canol oed’, a’r act olaf i weld y baritôn yn disgleirio,. Mae gan y gantores o Lŷn fantais arall arno ef, wrth lwyddo i leisio yn nhafodiaith Arfon yn fwy effeithiol. Ond rhaid dweud i mi droi at yr is-deitlau lawer gwaith i ddeall mynegiant y ddau yn glir. Wrth i’r cantorion gwffio â’r gerddorfa, mae angen canolbwyntio’n llwyr. A rhaid craffu ymhellach ar y gerddoriaeth i wrando am gliwiau, lliwiau, ac is-destunau pellach i’n cynorthwyo. Afraid dweud, mae’n waith caled o gynhyrchiad, ac ni ymlaciais am eiliad.

Serch hynny, ceir cyffyrddiadau effeithiol iawn, er enghraifft ar ganol yr act gyntaf, wrth i’r diffyg cyfathrebu rhwng y ddau unigolyn beri iddynt ganu ar draws ei gilydd. Ac er nad oes llawer sy’n sentimental am gerddoriaeth yr opera hwn, ceir adlais o ‘Suo Gân’ yn y ddwy act olaf, sy’n cyffwrdd y galon.

Y TWR by Guto Puw; Libretto by Gwyneth Glyn; Music Theatre Wales and Theatr Genedlaethol Cymru; Sherman Theatre; Cardiff, Wales; 16 May 2017; Female - Caryl Hughes; Male - Gwion Thomas; Conductor - Richard Baker; Director - Michael McCarthy; Designer - Samal Blak; Lighting Designer - Ace McCarron; Photo credtit:  © CLIVE BARDA/ ArenaPAL;

Ond does dim digon o rannau yn y cynhyrchiad hwn sydd wir yn cynhyrfu’r galon, sy’n rhyfeddol ag ystyried natur ymfflamychol y berthynas, tan yr act olaf. Teg dweud i’r cynhyrchiad adeiladu’n raddol at drydedd act ddirdynnol dros ben. Ond ar y cyfan, wedi blynyddoedd o gynhesu’n raddol at Y Tŵr, fy nieithrio i oddi wrthi wnaeth cerddoriaeth Guto Puw.

Serch hyn oll, wrth gamu ’nol, gallaf werthfawrogi camp aruthrol y criw cynhyrchu. Ac eisioes, cwta deuddydd ers ei gweld yn y Sherman, fe esgorodd ar sawl drafodaeth fywiog iawn. Nid wy’n difaru am eiliad ei phrofi, ac mae’n sialens o hyd i’w dehongli, a gwn i nifer o bobol sy’n deall cerddoriaeth gael blas gwell o lawer arni na mi. Rwy’n annog eraill yn sicr i’w phrofi, a byddwch yn barod i rannu eich barn; dydy cyfle fel hyn ddim yn codi bob dydd, ac mae hynny, yn wir, i’w glodfori.

 

http://musictheatre.wales/productions/y-twr

 

Mike Smith review:

http://www.asiw.co.uk/reviews/y-twr-music-theatre-wales-theatr-genedlaethol-cymru-sherman-theatre-cardiff

Michael McCarthy:

http://www.asiw.co.uk/my-own-words/michael-mccarthy-bringing-y-twr-life-opera-music-theatre-wales

 

Photo:  CLIVE BARDA/ ArenaPAL

 

 

Leave a Reply