Cêt Haf : Gŵyl Ddawns i’r Teulu 2018, CMC, Sad

April 13, 2018 by

Cêt Haf (Nansi yn y sioe i blant, ‘Dilyn Fi’ / ‘Follow Me’).

Does dim byd gwell na’ gweld y plant yn wên o glust i glust drwy gydol ac ar ôl y sioeau! Dwi wrth fy modd yn meddwl ein bod ni’n dod a chydig mwy o hapusrwydd i’w bywydau.

Ma’ na r’wbeth bach i bawb yn yr ŵyl yma, ma’ fe’n hwyl, ysgafn, llawn amrywiaeth adloniant, yn cynnig cyfle i’r gynilleidfa gymeryd rhan ac ar ben hynny ma’ fe am ddim!

Yn sicir does dim rhaid cael cefndir mewn dawns er mwyn mwynhau’r perfformiadau, mae dawns yn iaith byd eang, dim ond bod yn barod i gael hwyl sydd angen!

Dwi wastad yn hapus i ddweud helo neu ca’l sgwrs bach, ond gan bo’ gena’i wisgoedd a cholur mor anhygoel dim pawb sy’n y’n adnabod i, hydynoed ffrindie!

Newch chi ddim difaru dod! Ma’r perfformiadau wir yn lliwgar eu cynnwys ac yn cynnig cyfle i chi ymlacio, chwerthin, rhyfeddu, a chymeryd rhan os chi ffansi!

Os da’ chi, fel fi, wedi bwyta digonedd o ŵyau pasg yn ddiweddar, ma’ Gŵyl Dawns i’r Teulu yn ffordd delfrydol o shifftio unrhyw gysgod o euogrwydd ( bydd y’r ŵyau yna wedi llosgi iffwrdd mewn chwinciad chwanan!

Yr unig beth dwi di synnu efo yw cyflymder yr amser! Ni’n neud tri sioe y dydd, wedi cwblhau 39 perfformiad a ni’n ca’l gymaint o hwyl mae’r amser yn hedfan heibio.

Dwi’n ffan enfawr o ddawns, o bob siap a ffurf a dweud y gwir. Dwi’n hoff o weld cymeriadau mewn perfformiadau dawns, ond gweld pobl yn ymateb yn reddfol i gerddoriaeth yw’r gore. Ma’ ‘na wefr arbennig i’r dawnsio yna.

Menter ar y cyd rhwng Bombastic a Coreo Cymru, dau sefydliad celfyddydol o Gaerdydd yw Gŵyl Ddawns i’r Teulu. Bydd tri o gwmnïau dawns amlycaf Cymru (Bombastic, Gary & Pel a Jukebox Collective) a grwpiau dawns ieuenctid lleol yn cyflwyno awr yn llawn dop o ddawns chwim – hwyl bywiog a byrlymus ar gyfer traed o bob oed a siâp.

Cêt Haf (Nansi – o’r sioe i blant, Dilyn Fi / Follow Me) fydd yn arwain y gweithdy cyfrwng Cymraeg wedi’r ail sioe.

 

Sad 14 Ebrill am 10:30 | 12:30 | 16:00

Sain Ddisgrifiad – Sad 14 yn unig am 12:30 (Cymraeg) a 16:00 (Saesneg) gyda theithiau cyffwrdd chwarter awr cyn dechrau’r sioe.

wmc.org.uk

Leave a Reply