Eddie Ladd: Babulus

January 30, 2017 by

Ar ôl gwneud un sioe gyda’i gilydd yn 2015, penderfynodd y tri mai Babulus fyddai’r nesaf, gwaith a fyddai’n adlewyrchu’r ffaith eu bod yn hannu o wahanol wledydd ac yn gweithio ledled y byd. Wedi i ni gyd gwrdd – Israel a Lee o Sweden, Johanna o’r Ffindir a Gwyn a fi o Gymru – dyma ni’n twrio’n ddyfnach i’r pwnc. Wedi i bobl y byd adeiladu Tŵr Babel, a chythruddo Duw’r Hen Destament gan iddynt geisio efelychu Ei waith Ei hun, gorfodwyd arnynt niferus ieithoedd y ddaear, a hwy ond yn siarad yr un iaith hyd hynny. Nid oeddynt felly yn medru cynghreirio i wneud yr un fath eto.

Ar ddechrau’r cyfnod ymarfer traddodais araith yr wy’n hoff iawn ohoni i’r perwyl nad nonsens parablus yw iaith nad ydych yn ei deall, ac na ddylid chwaith gyflwyno’r “canfyddiad” yna hyd yn oed er mwyn ei herio a’i daflu ymaith. Fe’n daliwyd mewn maglau’n feunyddiol, megis ymgorffori sŵn iaith nad oeddem yn ei medru a phriodoli cymeriad gwlad i’w hiaith a’i ddynwared. Roedd yna ormod o…iaith a ninnau’n creu darnau llond siarad. Trowyd at “gyfathrebu” yn lle, gan fod iddo sawl agwedd: lleferydd, osgo corfforol, sefyllfa ac yn y blaen. Pwy gaiff hawlio’i lais a phwy ddim? Cododd pwnc ffoaduriaid yn gyflym ac wedi diwrnod o drafod a noson o gwsg sylweddolwyd ein bod ar erchwyn portreadu, wel…actio pobl na ellid dirnad mo’u profiadau. Cydsyniwyd mai ni’n hunain ddylsai fod yn ganol i’r gwaith er y gallai hynny fod yn hunanfaldodus ac ôl-fodern. Roedd gennym, o leiaf, doreth o storiaes manwl a gogleisiol a gwir o gael ein rhwystro rhag cyfathrebu, o’i gor-wneud hi, o atal ac o fod yn gegrwth. Wedi dod â’r sioe i fwcwl, rwy’n credu fod defnyddio’n profiadau ni er mwyn closio at brofiadau’r ddynoliaeth yn dacteg deche.

 

Er ein bod o wahanol ddiwylliannau, roeddwn bob un ohonom yn debyg iawn. Roeddwn o’r un anian ryddfrydol a chelfyddydol, ac wedi arfer teithio ledled y byd â’n gwaith. Felly nid gwahaniaethau diwylliannol oedd wrth wraidd unrhyw anghydfod a ddaeth i’n rhan. Fuodd neb yn cwmpo mas. Penderfynu ymysg ein gilydd beth i’w wneud oedd yr anhawster pennaf. Roeddem i gyd yn dyfeisio a chyfarwyddo’n gwaith ein hunain. Gan bwy oedd yr awdurdod i bennu’r drefn yn ystod ymarferion Babulus? Dro ar ôl tro dywedwyd, “Beth am wneud hyn?” a’i ateb gan “Rwy’n hoff o hyn yn lle…na, nid yn lle, ond wedyn.” Troes hyn o dipyn i beth i’r mwysyn Saesneg, “I’m just putting it out there” a’r ystum llaw-agored-bysedd-ar-led yn dangos fod y syniad draw fan ‘na, fel anwedd, ychydig tu hwnt i ganol yr ystafell. Yr oedd yn arfer gennym o gynnal cyfnod o fyrfyrfyrio bob dydd, naill ai awr o hyd neu ddau o hanner awr yr un. Wedi bob cyfnod roedd gan bob un ohonom o leia’ bedwar syniad am sut y gellid bwrw ymlaen i ddethol a datblygu, felly pump ohonom x pedwar syniad = ugain ac wedyn ugain x pum munud = awr a phedwar deg munud i roi chwarae teg i bawb, nid ein bod erioed wedi cadw at y lladdfa ddemocrataidd hyn, gan mai’r mwyaf llafar oedd yn cario’r dydd.

Mynegwyd o bryd i’w gilydd y tristwch nad oedd hi’n bosib i ni weithio’n ddemocrataidd, gan symud yn hwylus ac unfryd tuag at glymu un darn o goreograffi coeth at y llall, heb arweiniad…arweinydd…i ddethol a bwrw’r ymarfer ymlaen tuag at un cyfeiriad. Â’r amser yn dirwyn i ben (ma ‘da ni ddeg dwornod i glatsho pethe at ei gily’), ildiwyd…ildiodd y sawl a oedd yn fodlon dilyn i ddymuniad y mwyaf llafar ar y pryd i alw…cyfarwyddwr…i mewn. A dyna sut y cawsom y pleser o weithio gyda Sara Lloyd. Amser prin x dyfarnwr/cyfarwyddwr deallus ac annwyl = sioe sy’n llai o lanast nag y gallai fod wedi bod ac sy’ weithiau, ar brydiau, falle, I’m just putting out there, yn bur effeithiol.

 

Cwmni cydweithredol yw iCoDaCo, syniad Israel Aloni a Lee Brummer, ill dau’n gweithio o dan yr enw ilDance. Â’u cartref yn Goteborg, roeddynt am sefydlu cwmni a fedrai wahodd artistiaid rhyngwladol i ddod at ei gilydd i greu sioeau dawns bob hyn a hyn. Awgrymodd Gwyn Emberton, oedd eisoes y partner o Gymru, y dylswn i ymuno er mwyn perfformio yn ei le yn Babulus, gan ei fod yn mynd i gael triniaeth lawfeddygol ar ei glun yn ystod 2016. Myfi fydd clun Gwyn Emberton. Erbyn hyn, mae’r glun wedi gwella’n syndod o dda ac fe ddaeth Gwyn yn rhan o’r cynhyrchiad bron o’r dechre. Mae’n symud mor ddi-ffwdan ag ebol blwydd.

 

 

Perfformwyr

Israel Aloni

Lee Brummer

Johanna Nuutinen

Gwyn Emberton

Eddie Ladd

 

Cerddoriaeth

Oscar Collin

 

Golau

Joe Fletcher

 

Rheolwr llwyfan

Kris Rhodes

 

Dyfarnwr/cyfarwyddwr

Sara Lloyd

 

 

Y FENNI / Abergavenny – Chwefror 10 February – 7.30

DANCE CENTRE, PEN-Y-POUND, ABERGAVENNY NP7 5UD

BOX OFFICE: 01873 855544 / WWW.DANCE-BLAST.ORG

 

TREFALDWYN / Montgomery – Chwefror 11 February – 7.30

MONTGOMERY TOWN HALL, BROAD STREET MONTGOMERY, POWYS 

BOX OFFICE: 01686 614555 / WWW.THEHAFREN.CO.UK

 

Aberystwyth – chwefror 13 february – 7.45

Aberystwyth Arts Centre, Penglais Campus, Aberystwyth SY23 3DE

Box Office: 01970 623232 / https://aberystwythartscentre.co.uk/

 

HARLECH – chwefror 15 february – 7.30

THEATR ARDUDWY, Harlech LL46 2PU

Box Office: 01766 780 667 / www.theatrardudwy.cymru

 

CAERDYDD / Cardiff – Chwefror 17/18 february – 7.30

CHAPTER, 40 Market Road, Cardiff CF5 1QE

Box Office: 029 2030 4400 / www.chapter.org

 

 

 

 

 

 

Leave a Reply