Un Nos Ola Leuad – Opera Newydd yn y Gymraeg

September 2, 2021 by

Dwi wedi bod yn cyfansoddi i gomisiwn am dros ddeugain mlynedd bellach, mewn peth wmbredd o wahanol ffurfiau, ond doeddwn i erioed wedi cyfansoddi opera… o leia ddim tan tua 2014, sef yr amser pan benderfynodd BBC Cymru nad oedden nhw fy angen i rhagor fel cyflwynydd y rhaglen materion cyfoes dyddiol Post Prynhawn (wedi’r cyfan, roeddwn i wedi bod wrth y llyw ers diwedd y 1970au!).   Un gyda’r nos, roeddwn i mewn cinio wedi’i drefnu gan Brifysgol Bangor, yn rhannu bwrdd efo’r Dirprwy Is-Ganghellor Wyn Thomas. Mi ofynnodd imi – fel y bysa rhywun – be wnawn i efo fy amser o hynny allan, gan y byddwn i’n medru rhoi fy holl sylw i gyfansoddi.  Er peth syndod i mi fy hun, a deud y gwir, roedd gen i ateb dioed – ‘mi hoffwn sgwennu opera’. Wedi’r cwbwl, meddwn i, ag ystyried mod i wedi cyfansoddi toreth o gerddoriaeth gorawl, lleisiol, cerddorfaol a dramatig, pam lai eu cyfuno nhw i gyd?

Er mawr syndod a boddhad imi (ac, mae’n rhaid dweud, anghrediniaeth ar y dechrau), mi ddwedodd Wyn, ‘sgwenna di un, ac mi sicrha i y caiff hi’i llwyfannu’.  Bedair blynedd yn ddiweddarach, roedd fy opera gynta, Wythnos yng Nghymru Fydd, i libreto gan Mererid Hopwood, yn teithio Cymru ac yn derbyn adolygiadau cadarnhaol a chynulleifaoedd annisgwyl o niferus mewn cynhyrchiad gan OPRA Cymru, cwmni a sefydlwyd yn 2008 ar gyfer llwyfannu operáu yn y Gymraeg.  Doedd o’n ddim syndod i mi, yn dilyn llwyddiant y daith – a’r ffaith y bu i’r opera ennill Gwobr Theatr Cymru am y Cynhyrchiad Teithiol Gorau yn yr Iaith Gymraeg – bod Patrick wedi gofyn i mi bron yn syth be fyddai fy opera nesa.  Rŵan, doeddwn i ddim wedi oedi cyn dewis ffynhonnell ar gyfer Wythnos…, gan mai nofel oedd hi a effeithiodd yn ddwfn arna i pan y’i darllenais i hi gynta yn fy arddegau (ac nid y fi’n unig gafodd y profiad hwnnw o ddarllen nofel eiconaidd a rhannol-ddystopaidd Islwyn Ffowc Elis am y dewis rhwng dau ddyfodol i’n gwlad), ond roeddwn i’n gwybod i sicrwydd na fyddai hi’n bosib hyd yn oed i ystyried, ar gyfer fy ymgais nesa yn y ffurf, yr ail ar restr Y Nofelau a Effeithiodd Fwya Arna i, sef campwaith lled-hunangofiannol Caradog Prichard Un Nos Ola Leuad.  Wedi’r cwbwl, does ganddi ddim plot, mae iddi ormod o gymeriadau ar gyfer opera, mae’n neidio o gwmpas o ran cronoleg, yn cynnwys adrannau sy mor gyfangwbwl wahanol eu harddull i weddill y cyfanwaith nes peri i gannoedd o ysgolheigion grafu’u pennau mewn penbleth… a dim ond megis dechrau ydy hynny. Felly, mi wnaeth Patrick a mi, a Chyfarwyddwr Cerdd OPRA Cymru Iwan Teifion Davies, dreulio dyddiau yn ymchwilio i bosibiliadau erall. Yna, wedi trafodaeth fer, mi ddewison ni…. ia siŵr, y campwaith lled-hunangofiannol. (A bod yn onest, roeddwn i wedi lled-wybod o’r dechrau mai felly y byddai hi, siŵr o fod.)

 

Emyr Wyn Jones

 

Paul Carey Jones

 

Huw Ynyr

 

Leah Marian-Jones

 

Fflur Wyn

 

Elin Pritchard, Rhys Meirion, Robyn Lyn Evans, Sion Gronwy

 

Yn gofiadwy iawn, mae’r nofel wedi’i sgwennu yn y person cynta, yn nhafodiaith Bethesda. Mae wedi’i gosod yn benna yng nghyfnod y Rhyfel Byd Cynta, a’r prif gymeriad (y llefarydd) ydy hogyn sy’n hebrwng ei fam i ysbyty meddwl am weddill ei hoes, a’r hyn sy’n sail i strwythur y nofel ydy amryfal atgofion yr hogyn pan ddychwel, yn ganol oed, i’r ardal. Mae’r disgrifiadau o’r atgofion (ymddangosiadol ddigyswllt) hyn yn cyflwyno dwsinau o gymeriadau mewn nifer o leoliadau, felly roedd na waith caled o’n blaenau, yn trafod be ddylen ni adael i mewn a be i’w hepgor, p’un a fedrwn ni mewn gwirionedd cynnwys Golygfa’r Ornest Baffio neu Olygfa’r Gêm Beldroed; pa gymeriadau (lliaws ohonyn nhw!) na fyddai’n goroesi’r toriadau; be i’w wneud efo’r ddwy adran Beiblaidd eu harddull… Ynghanol hyn i gyd, mi gyflwynodd Patrick ac Iwan sgript ar gyfer un olygfa, ond wedi i mi ei gosod i gerddoriaeth roedd yn para 24 munud!  O gadw at y patrwm hwnnw, mi fyddai’r cyfanwaith wedi cadw cynulleidfaoedd yn eu seddau am saith awr neu hwy, felly roedd yn wers inni o ran pwysigrwydd bod yn gryno. Ymhen hir a hwyr, ac wedi nifer o achosion o ail-feddwl (weithiau rhai creiddiol iawn), roedd gynnon ni opera o bymtheg golygfa a 21 o gymeriadau yn ogystal â chorws, ac wrth i fisoedd agoriadol 2020 nesáu roedden ni wedi dechrau breuddwydio am ymarferion, a thaith drwy Gymru a thu hwnt.

A. Ia. ‘Misoedd agoriadol 2020’. Mae’n deud y cwbwl. Roedd rhaid inni wynebu’r posibilrwydd y byddai’r opera, am gyfnod amhenodol, yn gorfod bodoli mewn ffurf dotiau a geiriau ar bapur. Roedd hwn yn gyfnod ofnadwy i’r celfyddydau perfformio yng Nghymru, fel pobman arall; ond o dipyn i beth mi ddysgwyd bod dulliau ar gael – hyd yn oed dan reolau Covid – i gynhyrchu opera ar ffurf ffilm, a dyna pryd y penderfynon ni y byddai modd i’n hopera ninnau gael ei haddasu at y diben. Mi ddatblygodd pethau’n gyflym wedyn – roedd cantorion blaenllaw yn awyddus yn gymryd rhan, ar ôl misoedd heb waith; mi wnaeth Opera Cenedlaethol Cymru (y WNO) gynnig eu cerddorfa a’u corws; gwnaed trefniadau i recordio sain yr opera. Er gwaetha amheuon na allai’r libretto gael ei thalfyrru ymhellach fyth – y tro hwn i faintioli addas ar gyfer darllediad teledu – mi greodd Patrick ac Iwan fersiwn oedd yn gan munud o hyd. Yn y fersiwn wreiddiol ar gyfer llwyfan, roedd galw ar fwyafrif y cantorion i gymryd o leia ddwy rôl, gan fod rhai o’r cymeriadau yn ymddangos ond am gyfnod byr; ond roedd gwneud fersiwn ffilm yn rhoi rhyddid inni i fanteisio ar yr ymddangosiadau cwta hyn drwy drefnu iddyn nhw gael eu canu gan unawdwyr gwahanol, yn rolau cameo.  Drwy hyn roedd modd penodi mwy o gantorion, gan gynnwys rhai na fyddai wedi medru fforddio’r amser i ddysgu rhannau mawr. Roedd hefyd yn golygu mai dim ond un sesiwn recordio fyddai’i hangen ar rai o’r cantorion – un rheswm, yn fy marn i, pam y derbyniodd cynifer o unawdwyr proffesiynol o fri ein gwahoddiad i gymryd rhan. Maen nhw i gyd yn Gymry Cymraeg, sy’n brawf o lwyddiant datblygiad yr hyfforddiant sy wedi bod ar gael i gantorion dros y degawdau dwytha, rhywbeth yr ydw i wedi bod wrth fy modd yn dyst iddo fo.

Ac felly, mewn wythnos braf ar ddiwedd Gorffennaf 2021, trwy gyd-ddigwyddiad mis fy mhenblwydd yn 70 (heb sôn am fod yn drigainmlwyddiant cyhoeddi’r nofel), daeth cantorion yn eu deuoedd a thrioedd i’w sesiynau recordio yn Neuadd Hoddinott. Caerdydd. Achos yr angen i’r traciau sain lleisiol a cherddorfaol gael eu cadw ar wahân, nid yn unig yr oedd rhaid i’r cantorion sefyll cryn bellter i ffwrdd o’i gilydd achos rheolau ymbellhau cymdeithasol, ond roedden nhw hefyd yn cael eu gwahanu o’r gerddorfa drwy fod mewn stafell wahanol; yn gwylio Iwan yn eu harwain ar sgrîn deledu fechan; ac yn clywed y gerddorfa dim ond drwy glustffonau. Gan gofio hefyd nad oedden nhw’n perfformio gerbron cynulleidfa fyw fel y bydden nhw wedi’i wneud mewn tŷ opera, roedd eu perfformiadau gwefreiddiol ac ysbrydoledig yn arwydd o’u proffesiynoldeb llwyr.

Wrth i mi sgwennu hyn o eiriau, y cwbwl sy ar ôl ar gyfer cwblhau’r trac sain ydy recordio corws y WNO, a – maes o law – côr plant. Y gobaith wedyn ydy ein bod yn symud ymlaen i ffilmio’r opera, ar leoliad yn ddelfrydol, gydag aelodau’r cast yn canu’n ‘fyw’ i sain ad-chwarae’r gerddorfa.  Fel ag y mae pethau ar hyn o bryd, mae OPRA Cymru yn trafod y posibiliadau efo S4C, Channel Four ac eraill.  Hei lwc!

Leave a Reply