Y Tad, Theatr Genedlaethol Cymru

February 23, 2018 by

Wrth glywed cyn gwylio’r ddrama fod Y Tad wedi ennill y gystadleuaeth Trosi Drama i’r Gymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2016 a hefyd y newydd mai’r ddrama wreiddiol Le Père gan Florian Zeller oedd enillydd y Wobr Moilère yn 2014 am y Ddrama Orau, rhaid i mi ddeud oedd gennai ddisgwyliadau go uchel. Ond, mi ydw i’n falch dros ben i ddweud na chefais fy siomi o gwbl.

O’r foment gyntaf y ddrama 90 munud o hyd yn Theatr Bryn Terfel, Pontio, fe gipiwyd y gynulleidfa oll mewn i fywyd Y Tad, ei dŷ bach twt a’i ddirywiad graddol i afael dementia.

Does dim amheuaeth fod dementia yn prysur arwain fel y pwnc llosg ym myd theatr a’r celfyddydau. Wedi dweud hynny mi ydw i’n hynod o ffyddiog fod Y Tad yn llwyddo i ddal ei dir fel drama haeddiannol, gofiadwy ac onest ar y testun.

 

Mirain a Dyfan_C4K9919

Mirain Fflur (Laura), Dyfan Roberts (Arwyn)

Mi oedd yna gydbwysedd da rhwng profi dryswch a dirywiad y Tad a hefyd profi her foesol ei ferch Ann dros sut i ymdopi a’r sefyllfa a wynebwyd. Roedd rhywbeth real iawn am berfformiadau Dyfan Roberts fel Y Tad a Catrin Mara fel ei ferch a oedd dwi’n siŵr yn uniaethu a phrofiadau sawl yn y gynulleidfa.

Wrth i’r ddrama fynd yn ei flaen fe ddoth newid brawychus mewn awyrgylch yn y theatr o’r chwerthin llon dros hiwmor siarp a sylwadau slic y Tad i’r dor calon o ddirywiad ei gymeriad i ddim o beth. Bu’r clod yma’n fawr iawn lawr i bortread Dyfan Roberts.

Seren arall oedd yn sicr y sgript a chyfieithiad dawnus Geraint Løvgreen. Yn aml oeddwn i’n gweld fy hun yn cael fy nal yn hiwmor a diarhebion cyfarwydd Cymraeg cymeriad y Tad, ddim ond i gofio yn hwyrach wedyn mai cyfieithiad ydi’r gwaith.

Yn bresennol i’r sioe hefyd oedd y sustem cyfieithu Sibrwd er mwyn cefnogi dysgwyr a rheiny sydd ddim yn siarad Cymraeg i ddeall cynnwys y ddrama. Mi fyddai’n ddiddorol clywed os gweithiodd hwnnw i drosglwyddo effaith y ddrama cystal â goroesi ei hail gyfieithiad, nawr o’r Gymraeg i’r Saesneg.

O ran strwythur, mi allai i ddeall yn iawn pam fod y penderfyniad wedi i’w wneud gan y cwmni i gael 90 munud o berfformiad heb egwyl. Roeddwn i wedi fy llawn amsugno ym mywyd a dryswch y Tad a’i ferch Ann. Allai ddim ond tybio y byddai mynd oddi wrth y ddrama ddwys am chwarter awr i gael diod neu ymweld â’r tŷ bach yn sbwylio effaith y ddrama’n gyfan gwbl.

 

Rhodri a Dyfan_C4K0093

Rhodri Siôn (Dyn), Dyfan Roberts (Arwyn)

Efallai fod yn syml gweld y niferoedd o bobl yn gadael y theatr ar ddiwedd y 90 munud a’u hwynebau yn goch o ddagrau’n dweud y cwbl. Mae hon yn ddrama sydd werth ei weld.

Mi fydd Y Tad yn Pontio hyd nes yr 23ain o Chwefror cyn teithio i Bontardawe, Dyffryn Aeron, Caerfyrddin, Caerdydd, Yr Wyddgrug a Pontypridd dros Chwefror a Mawrth 2018. Am lawn manylion eu taith ac archebu tocynnau gweler linc i’w gwefan isod: http://theatr.cymru/portfolio/y-tad/

 

Dyfan_C4K0181 (2)

Dyfan Roberts (Arwyn)

Lluniau: Warren Orchard

 

Leave a Reply