Bae Teigr yn Cyflwyno

November 3, 2017 by

Bae Teigr yn Cyflwyno – Yn rhychwantu degawdau a chanrifoedd cornel fwyaf amlddiwylliannol Caerdydd

Mae Bae Teigr yn Cyflwyno yn dod â rhaglen gŵyl ffrinj ynghyd i ddathlu chwedloniaeth Bae Teigr, neu Tiger Bay. Gan ddwyn ynghyd ddetholiad o gerddoriaeth eiconig, straeon go iawn a thalentau lleol, mae Bae Teigr yn Cyflwyno yn rhannu straeon yr ardal, ei harwyddocâd hanesyddol i ddiwydiant a’r celfyddydau, ac angerdd y bobl.

Gan weithio gyda’r Gyfnewidfa Dreftadaeth a Diwylliant a’r cwmni dylunio o Gaerdydd, Ongl Design + Make, mae gofodau cyhoeddus Canolfan Mileniwm Cymru wedi cael eu gweddnewid er mwyn adlewyrchu diwydiant glo anferth Bae Teigr.

Comisiynwyd y cogydd lleol Geraldine Trotman i greu bwydlen fyddai’n adlewyrchu ei gwreiddiau hi ym Mae Teigr ac India’r Gorllewin. Mae ei ryseitiau yn berwi o dreftadaeth Bae Teigr, lle cafodd ei magu. Pobydd o Barbados oedd ei thad-cu, a symudodd o Gaerdydd gan agor llety a thŷ bwyta i forwyr. Bydd bwydlen Geraldine ar gael yn Ffresh rhwng 13 a 25 Tachwedd.

Bydd rhywbeth i bawb yn y gofodau – o weithgareddau teuluol i ddanteithion blasus yn Caffi a Ffresh, i restr caneuon fydd yn adlewyrchu sain Bae Teigr drwy’r oesoedd. Ochr yn ochr â hynny, bydd llu o ddigwyddiadau drwy gydol mis Tachwedd er mwyn hel atgofion, rhannu straeon a dathlu heddiw.

Dyma grynodeb o’r digwyddiadau:

Y LANFA – Amgueddfa Dros Dro

Arddangosfa dros dro ar thema Tyfu i Fyny ym Mae Teigr. Os ydych yn un o drigolion y dociau neu’n dod o ben draw’r byd, dewch â llun neu wrthrych sy’n cynrychioli eich plentyndod a dewch i ddysgu am anturiaethau plentyndod yn mwrlwm bendigedig Bae Teigr.

Mae’r digwyddiad yma am ddim.

PAFILIWN TREBIWT – Bae Teigr yn Cyflwyno: RATS Rhythm and Arts Take Soul

Dydd Mawrth 31 Hydref

Stori fach am Lygoden Fawr ifanc sydd ar fin mynd drwy broses dderbyn draddodiadol ei theulu yw RATS. Ond yna mae’n dod ar draws Llygod Mawr eraill sy’n dangos iddi beth yw rhyddid. Mae Kyle Alonzo Legall wedi ail-greu ei gomedi theatr, RATS, yn arbennig ar gyfer cynulleidfa ifanc dros Galan Gaeaf. Dyma berfformiad sy’n cynnwys mygydau, dawnsio, hip-hop, roc ac odl.

Mae’r digwyddiad yma am ddim.

CAFFI – Y Llyfrgell Ddynol

Dydd Sadwrn 04 Tachwedd / dydd Sadwrn 18 Tachwedd

Ymunwch â chymeriadau o’r gymuned leol i gael straeon a sgyrsiau er mwyn profi fersiwn Bae Teigr o’r Llyfrgell Ddynol fyd-eang. Fel mewn llyfrgell go iawn, mae rhywun sy’n ymweld â’r Llyfrgell Ddynol yn gallu dewis stori o blith amrywiaeth. Y gwahaniaeth yw mai pobl yw’r llyfrau, ac mai sgwrs yw’r darllen.

Mae’r digwyddiad yma am ddim.

THE EXCHANGE HOTEL – Bae Teigr yn Cyflwyno: Mi Casa

Nos Wener 10 Tachwedd

Drwy gyfrwng cyfres o straeon, lluniau, set DJ a cherddoriaeth fyw, bydd Mi Casa yn ail-greu’r gorffennol mewn dathliad o fywyd cerddorol chwedlonol Bae Teigr yng ngwesty arbennig yr Exchange.

Tocynnau £10

FFRESH – Li Harding

Nos Sadwrn 11 Tachwedd

Daw Li Harding o Drebiwt, ac mae’n un o gantorion jazz a blŵs mwyaf deinamig Cymru. Bydd y rhaglen yn cynnwys caneuon gan lawer o’r difas mawr, gan gynnwys Etta James, Diana Washington, Dakota Staton, Ruth Brown, Wynnona Carr a llawer mwy. Bydd triawd Gary Phillips yn gyfeiliant iddi.

Tocynnau £15

YSTAFELL PRESELI – Ifanc, Rhydd, Crefyddol

Nos Sul 12 Tachwedd

Mae prosiect Ifanc, Rhydd, Crefyddol yn dod â phobl ifanc Caerdydd o wahanol gefndiroedd ffydd ynghyd. Wedi’i ysbrydoli gan dreftadaeth aml-grefydd hanesyddol Bae Teigr, bydd digwyddiad Ifanc, Rhydd, Crefyddol yn cael ei arwain gan bobl ifanc a bydd yn dod â’r prosiect i ben fel rhan o’r Wythnos Ryng-Ffydd Genedlaethol, gan gynnig agweddau ifanc a chyfoes ar gyd-destunau cymdeithasol ehangach.

Mae’r digwyddiad yma am ddim.

FFRESH – Leroy Brito: Goreuon Butetown

Nos Wener 17 Tachwedd

Ers ei berfformiad cyntaf ddechrau 2011, mae’r comedïwr o Gaerdydd Leroy Brito wedi gwneud enw da iddo’i hunan yn gyflym fel un o sêr mwyaf addawol y byd comedi yng Nghymru. Ysgrifennodd ac ymddangosodd Leroy ar Great Welsh Brexit Road Trip y BBC, ac fe gafodd gyfnod hynod lwyddiannus yng Ngŵyl yr Ymylon Caeredin.

Tocynnau £15

CANOLFAN GYMUNEDOL TREBIWT – Bae Teigr yn Cyflwyno: Bricks and Mortar

Dydd Iau 23 Tachwedd

Drama newydd sydd ar waith yw Bricks and Mortar, sy’n edrych ar gyfeillgarwch dau ddyn o’r Caribî wrth iddyn nhw addasu i’w bywyd newydd yn gweithio ar ailddatblygiad Bae Teigr yn ystod y chwedegau cynnar.

Mae’r digwyddiad yma am ddim.

 

FFRESH – Heart and Soul

Nos Wener 24 Tachwedd – nos Sadwrn 25 Tachwedd

Noson o straeon ysgafn am Gaerdydd yn gymysg â cherddoriaeth enaid glasurol a chyfoes, R’n’B a jazz lleisiol. Bydd y noson yn cael ei pherfformio gan Kyle Lima, cantor, actor a sgwennwr o Gaerdydd, a bydd yn edrych ar nifer o gymeriadau sydd wedi’u hysbrydoli gan wahanol genedlaethau o deulu Kyle.

Tocynnau £15

Leave a Reply