Bydd Gŵyl y Llais

January 30, 2018 by

Bydd Gŵyl y Llais, sef gŵyl gelfyddydau ryngwladol Caerdydd, yn dychwelyd eleni am yr eilwaith. Gan annog pobl i ddarganfod pethau newydd, mae’r ŵyl yn cynnwys digwyddiadau arbennig, cyweithiau unigryw, prosiectau y gall y gymuned gyfrannu atynt, a llwyfan i leisiau grymus ac amrywiol o’r byd cerdd a’r celfyddydau, yn lleol a rhyngwladol ill dau.

Ymhlith y sioeau cyntaf i’w cyhoeddi y mae noson arbennig iawn Geiriau a Cherdd gyda Patti Smith, y cerddor, y bardd a’r ymgyrchydd gwleidyddol o’r Unol Daleithiau (11 Mehefin), a hynny yn lleoliad hyfryd Eglwys Sant Ioan, Treganna. Y diwrnod canlynol, bydd Patti yn camu i lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru gyda Noson yng nghwmni Patti Smith. Hefyd yn ymddangos bydd Lenny Kaye a Tony Shanahan (12 Mehefin).

 

Gruff Rhys & BBC NOW_land 1_credit Kirsten McTernan

Gruff Rhys

Tiger Lillies_land close crop

The Tiger Lillies

Bydd modd i bobl brofi’r perfformiad cyntaf erioed gan Gruff Rhys a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (10 Mehefin). Mae’r gerddorfa hon yn dathlu’i phen-blwydd yn 90 eleni.

Ymhlith yr artistiaid amlwg eraill a fydd yn ymddangos yng Nghanolfan Mileniwm Cymru mae’r canwr-gyfansoddwr Passenger, sy’n enillydd gwobr Ivor Novello (14 Mehefin), a bydd Nadine Shah yn agor ar gyfer Billy Bragg ar noson agoriadol yr ŵyl (7 Mehefin) gyda noson arbennig o Lleisiau Protest.

Mae Gŵyl y Llais hefyd yn gwahodd menywod (y rheini sy’n eu diffinio’u hunain yn fenywod neu’n anneuaidd) a merched i godi’u lleisiau ar ddydd Sul cyntaf yr ŵyl (10 Mehefin). Y bwriad yw creu cywaith ar gynfas eang gydag Artichoke, yr arbenigwyr celf gyhoeddus, a 14-18 NOW, rhaglen ddiwylliannol o bwys i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Mawr. Mae PROCESSIONS yn gyfle unwaith-mewn-oes i gymryd rhan mewn gwaith celf gan lu o bobl i ddathlu canmlwyddiant rhoi’r bleidlais i fenywod. Gall menywod a merched gofrestru nawr (processions.co.uk) er mwyn cymryd rhan mewn gorymdaith drwy strydoedd Caerdydd, gan greu portread byw o fenywod yn yr unfed ganrif ar hugain. Bydd gorymdeithiau eraill ar yr un diwrnod ym mhedair o ddinasoedd mawr y Deyrnas Unedig – Llundain, Belfast, Glasgow a Chaerdydd (yr unig orymdaith i’w chynnal fel rhan o ŵyl).

Meddai Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru a Gŵyl y Llais: “Mae’n wych gallu cyhoeddi’r rhestr gyntaf o artistiaid penigamp a fydd yn perfformio yn ail Ŵyl y Llais. Dim ond blas yw hyn o’r pethau sydd i ddod. Yn ogystal â digwyddiadau cyffrous eraill sy’n rhoi sylw i’r theatr, y celfyddydau a cherddoriaeth o bob math drwy’r ddinas, bydd yr ŵyl eleni yn gyfle i gyfrannu, i brotestio neu i ymlacio mewn llefydd a fydd wedi’u dylunio’n arbennig ar gyfer hynny, boed yn ystod y dydd neu hyd oriau mân y bore.

“Rwy’n gobeithio y bydd y rheini a ddaeth i Ŵyl y Llais yn 2016, sef yr ŵyl gyntaf, yn dychwelyd i weld y cam nesaf ar ein siwrnai, ac y byddwn ni’n denu hyd yn oed mwy o bobl i brofi gŵyl sydd wedi’i seilio ar offeryn rydym ni i gyd yn ei rannu – y llais.”

Mae Gŵyl y Llais yn dathlu’r cyfle i ddarganfod pethau newydd, ac ar 6 Mawrth byddwn yn rhyddhau rhaglen lawn o berfformiadau arbennig gan artistiaid poblogaidd, cyweithiau wedi’u comisiynu’n arbennig, a phrosiectau cymunedol mewn amryw o leoliadau drwy Gaerdydd, Dinas Gerddoriaeth gyntaf y Deyrnas Unedig. Bydd y rhaglen o gerddoriaeth a chelfyddydau yn croesawu’r rheini sy’n gwthio’r ffiniau’n greadigol, gyda’r sioeau’n rhoi sylw i gerddoriaeth gyfoes a chlasurol, opera, y theatr, sgyrsiau, y celfyddydau gweledol a digwyddiadau sy’n benthyg lleoliadau cyfan. Bydd dinas Caerdydd yn rhoi croeso cynnes i’r holl fwrlwm.

Meddai Sarah Dennehy, Cynhyrchydd Creadigol Gweithredol: “Mae’r cyhoeddiad cyntaf hwn yn flas o beth sydd i ddod. Rydyn ni’n hynod o falch bod Patti Smith yn mynd i berfformio sioe fach iawn yn Nhreganna i ni. Rwy’n gobeithio y bydd yr ŵyl yn dod â llwyth of egni a fydd yn helpu i godi proffil Caerdydd fel dinas gelfyddydol a cherddoriaeth ryngwladol.”

Mae sioeau eraill sydd wedi’u cyhoeddi ar draws y ddinas yn cynnwys – y gantores-gyfansoddwraig Laura Veirs (9 Mehefin) yn Eglwys Sant Ioan, Treganna, yn perfformio caneuon o The Lookout, ei degfed albwm sydd newydd ei ryddhau, gan roi llais i themâu sy’n ymwneud ag atebolrwydd, diolch, ofn a dirywiad diwylliannol; Karine Polwart: Wind Resistance (15 – 17 Mehefin) yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, sef straeon a chaneuon cyfareddol gan yr artist gwerin o Gaeredin; a The Tiger Lillies: The Ballad of Sexual Dependency (15 ac 16 Mehefin), profiad sy’n cyfuno celfyddydau gwahanol wrth i’r triawd rhyfeddol o Brydain berfformio trac sain byw i gyd-fynd â’r Faled ynghyd â lluniau dirdynnol gan Nan Goldin. Bydd y trac sain hwnnw’n ddarn di-dor o gerddoriaeth sy’n esblygu ac yn cynrychioli hyfrydwch, poen, gorfoledd, trasiedi a thristwch perthnasau.

Bydd rhaglen lawn Gŵyl y Llais yn cael ei chyhoeddi ar 6 Mawrth, ac yn cynnwys mwy o leisiau unigryw, grymus ac amrywiol o Gymru a’r byd. Bydd digwyddiadau am ddim hefyd, a chyfleoedd i bobl gyfrannu a gwirfoddoli, gan sicrhau bod yr ŵyl yn galluogi nifer o leisiau i glywed ei gilydd ac i gael eu clywed. I gael diweddariadau a rhagor o wybodaeth, ewch i gwylyllais.cymru/cy

 

RHESTR O’R SIOEAU

Gŵyl y Llais
Lleoliadau niferus drwy Gaerdydd
7 – 17 Mehefin 2018

Mae’r tocynnau i’r sioeau cyntaf sydd wedi’u cyhoeddi bellach ar werth. Manylion isod.

Mae’r rhaglen lawn i’w chyhoeddi ar 6 Mawrth 2018.

Mae opsiynau prisio a thalu amrywiol ar gael, gan gynnwys gostyngiadau i bobl o dan 26 oed, ac opsiynau i dalu bob yn dipyn. I gael y prisiau a mwy o wybodaeth, ewch i gwylyllais.cymru/cy

Rhestr o’r Sioeau Unigol

Billy Bragg

+ Nadine Shah

Lleisiau Protest

Lleoliad: Theatr Donald Gordon – Canolfan Mileniwm Cymru
Dyddiad: Nos Iau 7 Mehefin 2018
Amser: 19:00
Prisiau: £16 – £26.50

Laura Veirs

+ act yn cefnogi

Lleoliad: Eglwys Sant Ioan, Treganna

Amser: 20:00

Dyddiad: Nos Sadwrn 9 Mehefin 2018
Pris: £17.50

Gruff Rhys a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Lleoliad: Theatr Donald Gordon – Canolfan Mileniwm Cymru 19:30
Dyddiad: Nos Lun 10 Mehefin 2018
Prisiau: £17.50 – £29.50

Geiriau a Cherdd yng nghwmni Patti Smith

Lleoliad: Eglwys Sant Ioan, Treganna
Amser: 21:00
Dyddiad: Nos Lun 11 Mehefin 2018
Pris: £20

Noson yng nghwmni Patti Smith

Gyda Lenny Kaye a Tony Shanahan

Lleoliad: Theatr Donald Gordon – Canolfan Mileniwm Cymru 19:30
Dyddiad: Nos Fawrth 12 Mehefin 2018
Prisiau: £25 – £40

Passenger

+ act yn cefnogi

Lleoliad: Theatr Donald Gordon – Canolfan Mileniwm Cymru
Amser: 19:30
Dyddiad: Nos Fawrth 14 Mehefin 2018
Prisiau: £17.50 – £29.50

The Tiger Lillies: The Ballad of Sexual Dependency

Lleoliad: Theatr y Sherman

Amser: 18:30
Dyddiad: Nos Wener 15 a nos Sadwrn 16 Mehefin 2018
Pris: £20

Karine Polwart: Wind Resistance

Lleoliad: Theatr Richard Burton – Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Amser: 18:30 (15 ac 16 Mehefin), 13:30 (16 ac 17 Mehefin)

Dyddiad: Nos Wener 15 – nos Sul 17 Mehefin 2018
Pris: £20

Leave a Reply