Canolfan Mileniwm Cymru y Pasg

March 19, 2018 by

Rhowch rwydd hynt i ddychymyg y rhai bach a throchwch y teulu cyfan yng ngolygfeydd a synau ysbrydoledig a hudolus y Pasg hwn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru – gyda sioeau sy’n swyno, storïa rhyngweithiol a sioeau crefftus creadigol… a dychweliad y digwyddiad poblogaidd sy’n rhad ac am ddim, Gŵyl Ddawns i’r Teulu.  

Mae rhaglen gyffrous y Ganolfan llawn drama, cerddoriaeth a gweithgareddau crefftus yn darparu adloniant i ymwelwyr o bob oedran.

Mae’r rhain yn cynnwys perfformiadau ymlaciedig sy’n cynnig awyrgylch anffurfiol wedi eu haddasu’n arbennig ar gyfer teuluoedd gyda phlant â Chyflwr Spectrwm Awtistig, unigolion ag anableddau synhwyraidd a chyfathrebu a rheini ag anableddau dysgu.

Mae Almost Always Muddy (1-8 Ebrill) yn sioe ryngweithiol a chyffrous i blant 7+. Gan ddigwydd yn yr awyr agored yn yr Iard Stori*, gwahoddir teuluoedd i roi rhwydd hynt i’r dychymyg, creu propiau i’r straeon gan ddefnyddio’r sothach o’r gist trysorau ac yna bydd ceidwadwyr yr Iard Stori yn gwneud gwaith hudolus o blethu’r creadigaethau gyda’u chwedleuon unigryw a byrfyfyr. Bydd bob perfformiad yn hollol unigryw, diolch i gyfraniadau anhygoel ein hymwelwyr ifanc. 

Bydd plant hŷn yn caru Matthew Bourne’s Cinderella (3-7 Ebrill), stori gariad wefreiddiol a choreograffi egnïol gyda golygfeydd a gwisgoedd disglair mewn sioe sydd wedi gwerthu allan mewn theatrau dros y wlad.

 

Hefyd yn dod i Theatr Donald Gordon ar ôl taith o’r Deyrnas Unedig ac Iwerddon sydd wedi torri pob record, yw’r cynhyrchiad doniol a rhyfeddol o’r ffefryn teuluol Shrek (10 – 22 Ebrill). Dyma sioe gerdd llawn canu, dawnsio a chomedi gyda’r actor Cymreig Steffan Harri yn chwarae rhan y prif gymeriad.

 

 

Jukebox Collective, Gŵyl Ddawns i’r Teulu

 

Mae The Girl with Incredibly Long Hair (10 – 15 Ebrill) yn addo bod yn brofiad hyfryd a bythgofiadwy i blant 4+. Mewn cyd-gynhyrchiad gan We Made This, Sefydliad y Glöwyr Coed Duon a Chanolfan Mileniwm Cymru, mae’r sioe deulu yma’n ail-ddychmygu stori Rapunzel ar gyfer ein hoes ni, gan dywys y gynulleidfa ar daith ddychmygus drwy’r goedwig.

Yn dychwelyd diolch i alw mawr mae Canolfan Mileniwm Cymru (mewn partneriaeth gyda Coreo Cymru, Chapter a Chwmni Dawns Genedlaethol Cymru) yn cyflwyno Gŵyl Ddawns i’r Teulu. Bydd yr ŵyl yn digwydd o flaen y Ganolfan gyda pherfformiadau dyddiol 11 – 14 Ebrill. Mewn awr dan ei sang o ddawnsio dros dro gan rhai o gwmnïoedd mwyaf bywiog, lliwgar a rhyfeddol Cymru, a chyfle i bawb gyd-ddawnsio. Mae’r digwyddiad yma am ddim ac yn addas i bob oedran.

Yn ogystal â’n rhaglen dychmygus, bydd gweithdai crefft ychwanegol yn digwydd drwyddi draw’r Ganolfan a chyfle i chwarae’n greadigol ac mae’r hwyl arferol yn parhau gyda’n Sadwrn i’r Teulu wythnosol ac Amser Plantos misol. Am ragor o wybodaeth ewch i
www.wmc.org.uk/teuluoedd

Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnig bwydlen lawn o brydau, byrbrydau a diodydd i blant, gan gynnwys danteithion melys i blant, yn ei chaffis a’i bwytai. Mae’r Ganolfan yn lleoliad sy’n ystyriol o deuluoedd ac mae croeso i famau sy’n bwydo ar y fron. Mae cyfleusterau twymo potel ar gael, cyfleusterau newid babanod, a chyfleuster newid hygyrch i blant hÿn ac oedolion ag anghenion ychwanegol.  

Ceir fanylion lawn ar gyfer pob digwyddiad isod, gan gynnwys dyddiadau ac amseroedd. 

Almost Always Muddy

Pryd: Sul 01 Ebr – Sul 08 Ebr 18, 11am a 3pm
Ble: Tu fas y Ganolfan, Yr Iard Stori *
Cost: £7
Perfformiadau ymlaciedig: 8 Ebrill 11am a 3pm gyda dehongliad BSL
*Byddwn ni hefyd yn dod â’r sioe i ddigwyddiad FIS ar 6 Ebrill, Eastern Shelter, Ynys y Barri.

Matthew Bourne’s Cinderella

Pryd: 03 Ebr – 07 Ebr 2018 7.30pm, Iau 5 a Sad 7: 2.30pm

Oed: 5+ (Dim plan o dan 2 oed)

Ble: Donald Gordon Theatre

Cost: o £18

Shrek

Pryd: Maw 10 Ebr – Sul 22 Ebr 18, 7pm yn ddyddiol a 2.30pm ar Iau, Sad a Sul
Sad 14 – Sioe gyda disgrifiad Sain a dehongliad BSL
Oed: 5+
Ble:
Theatr Donald Gordon
Cost: o £19

The Girl with Incredibly Long Hair

Pryd: Maw 10 Ebr – Sul 15 Ebr 18, 11am a 3pm

Oed: 4+

Ble: Stiwdio Weston

Cost: £7

Perfformiadau ymlaciedig: 14 a 15 Ebrilll @ 11 am, Perfformiad BSL: 13 Ebrill @ 11am a

3pm. Taith Gyffwrdd: 14 a 15 April @ 10:15am.

 

Gŵyl Ddawns i’r Teulu

Pryd: 11 Ebr – 14 Ebr 2018

Mer 11 a Gwen 13 @ 10.30, 12.30 a 14.30

Iau 12 a Sad 14 @ 10.30, 12.30 a 16.00
Dewch i ddawnsio! Dewch i gymryd rhan mewn gweithdy byr ar ôl y perfformiadau er mwyn rhoi cynnig ar rhai o’r symudiadau y gwelsoch.

Oed: bob oedran

 

*Mae Almost Always Muddy yn ddigwyddiad yn yr awyr agored, felly os yw’r tywydd yn wlyb byddwn yn symud y digwyddiad i wagle’r Lanfa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

 

Leave a Reply