CBCDC yn Lansio Tŷ Ysgrifennu

March 29, 2018 by

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn dwyn ei holl brosiectau ysgrifennu newydd ynghyd o dan yr un ymbarél – Tŷ Ysgrifennu. Ochr yn ochr â’i ŵyl ysgrifennu NEWYDD flaenllaw mae’r Coleg yn lansio gweithdai Tŷ Ysgrifennu, gan roi’r amser, y gofod a’r adnoddau i ysgrifenwyr a chyfarwyddwyr newydd ddatblygu gwaith newydd.

Caiff ysgrifenwyr a chyfarwyddwyr eu hariannu i gynnal gweithdai gyda myfyrwyr actio’r Coleg er mwyn datblygu syniadau ar gyfer dramâu newydd o’u camau cyntaf oll. Bydd y prosiectau hyn wedyn naill ai’n cael eu comisiynu gan y Coleg i fod yn gynyrchiadau llawn, neu byddant yn rhan o broses ddatblygu ar gyfer gwaith newydd yn rhywle arall.

Bydd y gweithdai cyntaf yn dechrau ym mis Mai gyda’r ysgrifenwyr a’r cyfarwyddwyr Sonali Bhattacharyya a Tinuke Craig, a Chris Monks a John O’Hara. Bydd Alan Harris, yr ysgrifennwr o Gymru a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr Bruntwood, hefyd yn gweithio gyda’r cyfarwyddwr Adele Thomas.

Bydd Gweithdai’r Tŷ Ysgrifennu yn adeiladu ac yn datblygu gŵyl NEWYDD arloesol y Coleg, sy’n dod â rhai o ysgrifenwyr a chyfarwyddwyr mwyaf cyffrous y DU i weithio gyda’i fyfyrwyr blwyddyn olaf a chreu theatr gyfoes heriol, pryfoclyd ac uchelgeisiol.

“Bydd y gweithdai’n dwyn ynghyd ystod eclectig o ysgrifenwyr a chyfarwyddwyr” meddai dramodydd y Coleg, Jude Christian. “Rydym yn gwahodd artistiaid i amrywio’r canon a grymuso’r genhedlaeth nesaf o actorion.  Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn y llu o artistiaid benywaidd rhagorol sy’n rhan o waith ysgrifennu newydd CBCDC, ac rydym yn gweithio’n galed i wneud iawn am yr anhyfartaleddau hanesyddol eraill yn y lleisiau a glywir ar y llwyfan; er mwyn sicrhau bod y theatr rydym yn ei chreu, a’r bobl sy’n ei chreu, yn gynrychioliadol iawn o Gymru, y DU, a’r byd yr ydym yn byw ynddo heddiw.”

 

“Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar berthynas weithredol y Coleg gyda’r diwydiant” ychwanegodd David Bond, Pennaeth Actio CBCDC. “Mae ein gweithdai Tŷ Ysgrifennu yn rhoi cyfleoedd pellach i’n myfyrwyr weithio gydag ysgrifenwyr a chyfarwyddwyr profiadol ar ddramâu newydd, sy’n fuddiol i’w hyfforddiant a’r sylw a gânt.”

Ochr yn ochr â’r ŵyl NEWYDD mae’r Coleg wastad wedi bod yn gynhyrchydd a chefnogwr brwd ysgrifennu newydd, i’w berfformio gan ei fyfyrwyr actio blwyddyn olaf. Mae comisiynau eraill wedi cynnwys gwaith gan Gary Owen (a ysgrifennodd y ddrama aml-wobrwyedig Iphigenia in Splott), Brad Birch, Elinor Cooke ac Alistair McDowell.

Comisiynwyd Fe Ddaw’r Byd i Ben gan y dramodydd clodfawr Dafydd James fel cyfrwng i bump o fyfyrwyr actio Cymraeg eu hiaith ac fe’i llwyfannwyd mewn cyd-gynhyrchiad gyda Sherman Cymru.  

Ymhlith dramodwyr eraill, bydd Simon Stephens, Athro Cadair Rhyngwladol Hodge mewn Drama, yn gweithio’n rheolaidd gyda myfyrwyr CBCDC ar brosiectau y mae’n eu datblygu, yn fwyaf diweddar Rage, sy’n cael ei datblygu ar hyn o bryd gyda Vicky Featherstone.

Anogir myfyrwyr i ysgrifennu a pherfformio eu gwaith eu hunain ac mae hyn yn rhan o’u cwrs actio.

Leave a Reply