Cerddoriaeth Gorawl o Gymru wedi’i pherfformio gan Gantorion John S Davies

August 20, 2018 by

Ffigwr allweddol mewn cerddoriaeth Gymreig yw John S Davies – gyda’i gôr, mae wedi comisiynu a hyrwyddo gwaith gan gyfansoddwyr niferus o Gymru.

Mae’r recordiad hwn, Dathliad, a wnaethpwyd i ddathlu deugain mlwyddiant y grŵp yn cynnwys rhai perlau o’r repertoire yma. Cynrychiolir gwaith wyth cyfansoddwr o Gymru – o Alun Hoddinott a William Mathias, i gyfansoddwyr sy’n dal i fyw a gweithio yng Nghymru heddiw.

Mae’r albwm newydd ar gael i’w brynu ar: http://www.tycerddshop.com/products/cds

Tŷ Cerdd  www.tycerdd.org 

Cenhadaeth Tŷ Cerdd yw hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru.
Drwy ein gweithgareddau – gan gynnwys stiwdio recordio, label recordio ac argraffnod cyhoeddi mewnol – a chydag amrywiaeth o bartneriaid, rydym yn gweithio i ddod â cherddoriaeth Cymru i gynulleidfaoedd ar draws ein cenedl ac o gwmpas y byd; i ddiogelu cynhysgaeth cerddoriaeth Cymru o’r gorffennol ac i gefnogi creu a pherfformio cerddoriaeth newydd.

 

The Independent Voice of Artists and Reviewers in Wales / Llais Artistiaid ac Adolygwyr yng Nghymru

Leave a Reply