Cyhoeddi cast llawn Sioe Gerdd Tiger Bay Canolfan Mileniwm Cymru

October 5, 2017 by

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn falch o gyhoeddi cast llawn Sioe Gerdd Tiger Bay, sy’n cynnwys cast o 39 gyda sawl enw nodedig o Gymru.

Mae Sioe Gerdd Tiger Bay – a grëwyd gan dîm sydd wedi ennill sawl gwobr, sef y cyfansoddwr Daf James, y sgwennwr Michael Williams a’r cyfarwyddwr Melly Still – wedi’i gosod yng nghymuned aml-ethnig liwgar Butetown yn negawd cynta’r ugeinfed ganrif. Byd o arian mawr a thlodi mawr. Gangiau o blant y stryd yn crwydro’r dociau. Mae Glo yn Frenin, ac yn nhafarndai a strydoedd cefn isfyd Caerdydd, mae chwyldro ar gerdded.

Mae Sioe Gerdd Tiger Bay yn dilyn menyw ifanc a’i phenderfyniad i herio anghyfiawnderau cymdeithas, dilyn ei chalon a gwireddu ei breuddwydion.

Mae rhai o’r cast wedi’u cyhoeddi eisoes, sef John Owen Jones, Noel Sullivan, Suzanne Packer, Vikki Bebb a dwy ferch ifanc leol, sef Louise Harvey a Ruby Llewellyn. Yn ymuno â nhw bydd:

Dom Hartley-Harris, fydd yn cwblhau’r prif gast fel Themba, mewnfudwr o Affrica sy’n gweithio ar ddociau Caerdydd gyda’r bwriad o ddial cam ei deulu. Yn fwyaf diweddar bu Dom yn chwarae Jagwire yn y sioe gerdd newydd Bat Out of Hell. Mae ei waith arall yn y theatr yn cynnwys Beautiful: The Carole King Musical ac Accidental Brummie.

Bydd Zolani Shangase (Lion King, West End ac yn fwyaf diweddar Chico yng nghynhyrchiad Theatr Fugard o West Side Story) yn teithio o Dde Affrica i chwarae rhan Yusef unwaith eto, yn dilyn rhagddangosiadau o’r Sioe Gerdd yn Cape Town yn gynharach eleni.

Hefyd yn ymuno o Cape Town bydd Busisiwe Ngejane (cynyrchiadau Ensemble Isango o Midsummer Night’s Dream, La Boheme, Carmen a Man of Good Hope) fydd yn chwarae rhan un o ferched y nos, Klondike Ellie a Luvo Rasemeni (cynyrchiadau Ensemble Isango o Midsummer Night’s Dream, La Boheme, Carmen a Man of Good Hope) fel Felize, yn ogystal ag Ernestine Stuurman fel rhan o’r ensemble.

Bydd Liz May Brice (Torchwood: Children of Earth, Bad Girls, Peep Show, Black Mirror) yn chwarae rhan y clirweledydd Leonora Piper. Bydd Ian Virgo (The Bastard Executioner, Weapon, Before The Fall, Holby City, Spooks, The Bill), Adam Vaughan (The Wind in the Willows – Palladium Llundain, Carousel, Sunset Boulevard, Sweeney Todd) a Rhidian Marc (Les Misérables yn y West End, taith Prydain a’r ffilm, Pippin, Scrooge) yn chwarae dynion yr injan fach, Bosun ac Arwyn a’r Is-Gapten/Locke yn y drefn honno.

Mae’r Ganolfan wedi troi at berfformwyr o Gymru i greu ensemble y cynhyrchiad, gan gynnwys Zoe George (taith Prydain, Iwerddon a thaith ryngwladol Wicked fel dirprwy ar gyfer Elphaba a Nessarose), Lucy Elson (dechrau ei gyrfa) ac Elin Llwyd (cyflwynydd ar S4C, Y Fenyw Ddaeth o’r Môr a Deffro’r Gwanwyn Theatr Genedlaethol Cymru) fydd yn chwarae rhan merched siop enwog David Morgan.

Yn ymuno â nhw bydd Jamal Andréas, Lee Dillon-Stuart, Kit Esuruoso, Soophia Foroughi, Daniel Graham, Carl Man, Kayed Mohamed-Mason, Cilla Silvia, Josh Tonks, Emma Warren a Stephanie Webber.

 

Yn goron ar y cwbl, bydd deg actor ac actores o Gymru yn chwarae rhan bechgyn y dŵr:

  • Amaree Ali, 12 oed, Grangetown
  • Amelia Jenkins, 14 oed, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Cadi-Gwen Sandall, 10 oed, yr Eglwys Newydd
  • Efan Williams, 9 oed, Treganna
  • Lauren Price, 11 oed, Rhiwbeina
  • Lefi Jô Hughes, 10 oed, Treganna
  • Lowri Elin Hughes, 14 oed, Caerffili
  • Mallers Saltus-Hendrickson, 9 oed, Butetown
  • Mimi Nanud, 13 oed, y Barri
  • Shakira Lorenza, 12 oed, Butetown

 

Ynglŷn â Tiger Bay the Musical

Mae Tiger Bay yn daith gerddorol i dafarndai a strydoedd cefn anllad yr hen Butetown, Caerdydd, cymuned amlethnig liwgar Prydain ar droad yr 20fed Ganrif.

I gyfeiliant sgôr gerddorol gyffrous, mae merched siopau, mwyngloddwyr, gweithwyr injan, morwyr, swffragetiaid, mewnfudwyr a grŵp bywiog o Fechgyn Dŵr carpiog oll yn credu, drwy waith caled y gallant hwythau hefyd lwyddo drwy’r diwydiant glo llewyrchus. Ond pan fydd undebaeth yn peryglu elw, mae’r Harbwrfeistr uchelgeisiol, y Bute Dock Company a masnachwyr y Gyfnewidfa Lo yn bygwth eu bywoliaeth a’u breuddwydion am ddyfodol gwell.

Yn uchel uwch eu pennau, yn yr Ystafell Sidydd yng Nghastell Caerdydd, mae Trydydd Ardalydd Bute yn rhythu i’w beiriant Darllen Crisial ac yn ceisio atebion o Shadowland i’w drafferthion ei hun sy’n ymddangos yn anorchfygol.

Sioe gerdd Gymreig i’r teulu  yw Tiger Bay sy’n sôn am ddewrder, cymodi a chariad mewn byd sy’n newid yn gyflym.

Caerdydd, Canolfan Mileniwm Cymru

Maw 14 Tachwedd            7:30pm                                    Rhagolwg

Mer 15 November            7.30pm

Iau 16 Tachwedd                7.30pm

Gwe 17 Tachwedd             7.30pm

Sad 18 Tachwedd               2.30pm

7.30pm

Llun 20 Tachwedd             7.30pm

Maw 21 Tachwedd            7.30pm

Mer 22 Tachwedd              7.30pm

Iau 23 Tachwedd                2.30pm

7.30pm

Gwe 24 Tachwedd             7.30pm

Sad 25 Tachwedd               2.30pm

7.30pm

 

 

Leave a Reply