Dwyn i Gof gan Meic Povey, Theatr Bara Caws

August 29, 2018 by

Mae Huw a Bet yn briod ers 40 mlynedd a Gareth, eu unig fab, ar fin priodi Cerys. Mae trefniadau i’w cadarnhau. Mae Huw’n benderfynol o chwarae ei ran ond gyda’i gof yn araf ddadfeilio mae perygl i gyfrinachau hen a newydd gael eu datgelu. Ond pa mor fregus yw Huw mewn gwirionedd? Sut mae Bet yn ymdopi â’r sefyllfa? Oes rheswm gan Gareth i boeni am bechodau’r tadau, ac a yw Cerys yn gweld y tad yn y mab?

Mae Dwyn i Gofyn ddrama ddifyr a phryfoclyd sy’n cyfuno’r dwys a’r digrif wrth sôn am bwnc cyfredol, sydd ‘ar feddwl’ pawb y dyddiau hyn.

Yng ngeiriau dihafal Meic ei hun, “Y rheswm esh i ati i sgwennu am y pwnc penodol yma ydi hyn: O’r holl bethau all ein lladd – ac fel dywedodd yr Americanwr adnabyddus, (sic) Anthony Hopkins unwaith, ‘nobody gets out of this alive’ – yn bersonol, colli dy gof ydi’r cyflwr sy’n codi mwya’ o ofn arna’i.”

Meddai Betsan Llwyd, Cyfarwyddwr Artistig Bara Caws, “’Roedd Meic wedi gyrru’r ddrama atom llynedd, ac ‘ro’n i wrthi’n dechrau rhyw gyfathrebu ynglŷn â hi pan gafodd ei daro’n ddifrifol wael. ‘Roedd wedi dweud ei hun bod angen rhagor o waith arni, felly ‘ro’n i mewn cyfyng-gyngor. Yna deuddydd wedi iddo farw cefais gerdyn ganddo, drwy law Catrin ei ferch, yn ei ffordd unigryw ei hun yn fy herio i ymgymryd â’r dasg asap! – a fel ddeudodd Catrin, ‘Pwy yda ni i ignorio hynny?’ Felly dyma ni!  Fyddai’n colli’r cyfle i drafod, i ddadlau ac i herio, ond bydd hi – fel bob tro – yn fraint.” 

 

‘Rydym wrth ein bodd fod y cast canlynol wedi derbyn yr her – mae pob un o aelodau’r cast yn wynebau cyfarwydd iawn ar lwyfannau ac ar y sgrîn:

Sara Gregory– Actores Orau Gwobrau Theatr Cymru 2015 – Contractions(Iain Goosey/Chapter);Woman of Flowers (Pena); Home, I’m Darling (National Theatre/Theatr Clwyd); Actores Orau BAFTA Cymru 2013 – Alys (Apollo/S4C);Byw Celwydd (Tarian/S4C); Y Gwyll/Hinterland (Fiction Factory/BBC/S4C)

Gwenno Elis Hodgkins– Enwebwyd Actores Orau Gwobrau Theatr Cymru 2015 – Drych (Frân Wen); Yn Debyg Iawn i Ti a Fi (Bara Caws a Theatr Genedlaethol Cymru); Ŵy Chips a Nain (Frân Wen); Sombreros (Cwmni Da/S4C); Tipyn o Stâd (Cwmni Da/S4C); Y Mynydd Grug (Llun y Felin/S4C)

Rhodri Meilir– Actor Gorau Gwobrau Theatr Manceinion 2018 How My Light is Spent, (Manchester Royal Exchange); Mametz (NTW); Lysh (Bara Caws); Byw Celwydd (Tarian/S4C); Dan y Wenallt/Under Milk Wood (fFati fFilms); Craith/Hidden (S4C/BBC/Severn Films)

Llion Williams– Actor Gorau Cymraeg Gwobrau Theatr Cymru 2016 – Chwalfa (Theatr Genedlaethol Cymru); Actor Gorau Saesneg Gwobrau Theatr Cymru 2016 – Belonging (Re-Live); Difa a Llanast! (Bara Caws); Lan a Lawr (S4C); Y Gwyll/Hinterland (Fiction Factory/S4C/BBC); C’Mon Middfild (Nant/S4C)

 

Leave a Reply