Elin Manahan Thomas yn canu caneuon Dilys Elwyn-Edwards

August 20, 2018 by

Mae Recordiau Tŷ Cerdd yn dathlu 100 mlwyddiant geni Dilys Elwyn-Edwards, y gyfansoddwraig caneuon mawr ei bri o Gymru, mewn recordiad newydd gan y soprano Elin Manahan Thomas a’r pianydd Jocelyn Freeman: Mae Hiraeth yn y Môr.

Treuliodd Dilys Elwyn-Edwards y rhan fwyaf o’i bywyd yng Nghaernarfon, mewn tŷ yn edrych dros y Fenai lle bu’n byw gyda’i gŵr, y gweinidog Presbyteraidd Elwyn Edwards, gan ddysgu’r piano ym Mhrifysgol Bangor a chyfansoddi caneuon celfydd. Mae ei chatalog bach ond pwysig yn cynnwys gosodiadau Cymraeg a Saesneg, llawer ohonynt bellach yn glasuron yn y repertoire Cymreig.

 

 

Mae’r recordiad newydd hwn yn dwyn teitl ei gwaith mwyaf adnabyddus Mae Hiraeth yn y Môr – y drydedd gân yn y cylch Caneuon y Tri Aderynsy’n cynnwys, ochr yn ochr â phedwar cylch arall, ganeuon unigol a hwiangerdd i’r piano.

Mae’r soprano Elin Manahan Thomas – a berfformiodd ym mhriodas y Tywysog Harry a Meghan Markle ym mis Mai 2018 – yn perfformio gyda’r pianydd Cymreig Jocelyn Freeman ar gyfer y recordiad hwn sy’n cyd-ddigwydd â chyfres o gyngherddau ledled Cymru.

 

25 August 2018 / 25 Awst 2018
Gŵyl Machynlleth Festival, 13:00
The Tabernacle, SY20 8AJ

16 September / 16 Medi 2018
Cowbridge Music Festival, 19:30
The Parish Church of the Holy Cross, CF71 7BB

28 September / 28 Medi 2018
North Wales International Music Festival/ Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, 19:30, St Asaph Cathedral, LL17 0RD

2 October / 2 Hydref 2018
Swansea International Festival /
Gŵyl Ryngwladol Abertawe,
19:30, National Waterfront Museum,
SA1 3RD

 

Photograph / Ffotograff:  Matthew Thistlewood

The Independent Voice of Artists and Reviewers in Wales / Llais Artistiaid ac Adolygwyr yng Nghymru

Leave a Reply