Galw am Straeon o’r hen Ysbyty Dinbych

December 21, 2018 by

A oedd gennych chi deulu neu ffrindiau yn gleifion yn yr hen Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych? Oeddech chi’n aelod o staff?

Mae cynhyrchiad theatr sydd wedi ei ysbrydoli gan yr hen ysbyty meddwl yn chwilio am bobl i rannu eu straeon am y safle a gaewyd yn 1995.

Yn dilyn cais gan feddygon seiciatrig ym Mangor, defnyddiodd cwmni theatr Frân Wen gofnodion meddygol o’r hen seilam Fictorianaidd fel ysbrydoliaeth ar gyfer cynhyrchiad theatr.

Chwe blynedd yn ddiweddarach, mae’r stori yma – Anweledig – yn paratoi i deithio theatrau mwya’ Cymru yng Ngwanwyn 2019.

“Rydym yn chwilio am straeon personol gan deuluoedd ac unigolion sydd wedi ei cyffwrdd mewn un ffordd neu llall gan yr hen ysbyty,” meddai Carl Owen o Frân Wen.

“Y bwriad yw defnyddio’r profiadau yma fel rhan o arddangosfa fydd yn teithio ochr yn ochr â’r cynhyrchiad, a bydd yn rhoi gwell dealltwriaeth i’r cynulleidfaoedd o effeithiau ysbyty Dinbych.”

Yn ddiweddar mae Cyngor Sir Ddinbych wedi prynu safle Ysbyty Gogledd Cymru ar gyfer datblygiad tai newydd.

“Er bod Anweledig wedi ei ysbrydoli gan gofnodion meddygol, byddai’n help i gael darlun llawnach pe gallem glywed gan eraill sydd â phrofiadau o’r hen ysbyty meddwl,” ychwanegodd Carl.

“Byddwn yn rhannu’r straeon hyn gyda Mirain Fflur, artist gweledol Anweledig a bydd hi wedyn yn defnyddio’r naratif yn ei arddangosfa fydd yn rhedeg ochr yn ochr â phob sioe.”

Cynhelir yr arddangosfa a’r cynhyrchiad yn Pontio Bangor (19 – 22 Chwefror), Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth (5 – 8 Mawrth), Theatr y Sherman yng Nghaerdydd (12-13 Mawrth), Ffwrnes Llanelli (18 – 21 Mawrth) a Stiwt Rhosllannerchrugog (26 – 27 Mawrth).

Wedi ei ysgrifennu gan yr awdur adnabyddus Aled Jones Williams, mae Anweledig yn dilyn taith Glenda (Ffion Dafis), dynes sy’n byw gydag iselder difrifol, wrth iddi frwydro i ymdopi â salwch anweledig.

“Yn y ddrama bwerus a dirdynnol yma, rydym yn gorfod dilyn gofid ffyrnig Glenda wrth iddi fynd i’r afael â’r salwch ac wynebu bywyd y tu allan i’r ysbyty.” dywedodd cyfarwyddwr y sioe, Sara Lloyd.

“Sut mae hi, ei theulu a’i ffrindiau yn ymdopi â realiti’r gwellhad, a bydd hi’n dod o hyd i oleuni ym mhen draw’r twnnel?”

“Y nod pennaf yw rhoi llwyfan i’r salwch yma sy’n aml yn cael ei guddio.”

I rannu straeon am Ysbyty Gogledd Cymru, cysylltwch â Carl Owen o Frân Wen ar carl@franwen.com, 01248 715048 neu drwy dudalen Facebook Frân Wen.

 

 

 

Leave a Reply