Gŵyl Ddawns Caerdydd yn cyhoeddi manylion cywaith India Cymru – Interruption

October 19, 2017 by

Mae Gŵyl Ddawns Caerdydd 2017 yn falch o gyhoeddi manylion Interruption – prosiect cyffrous sy’n cynnwys artistiaid o India a Chymru – a fydd yn arwain at ddiwrnod o berfformio di-dâl yng nghanol dinas Caerdydd ar ddydd Gwener 17 Tachwedd.

Mae Interruption yn rhan o India Cymru, sef tymor pwysig o gydweithio artistig rhwng y ddwy wlad i nodi achlysur Blwyddyn Diwylliant y DU – India, a lle bydd artistiaid o Basement 21 yn Chennai yn gweithio law yn llaw ag artistiaid o Gymru, diolch i gymorth gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Cyngor Prydeinig.

Yr ymarferwyr blaenllaw o Basement 21 sy’n cydweithio â Gŵyl Ddawns Caerdydd yw Preethi Athreya (dawns), Padmini Chettur (dawns), Pravin Kannanur (theatr/celfyddyd weledol) a Maarten Visser (cerddoriaeth).

Y prif ymarferwyr o Gymru fydd yn cymryd rhan yn Interruption yw Joanna Young (coreograffydd), Siriol Joyner (coreograffydd) a Lauren Heckler (artist gweledol). Hefyd, bydd Robbert van Hulzen, yr offerynnwr taro o’r Iseldiroedd sy’n cydweithio’n aml â Basement 21 yn dod draw i Gaerdydd i weithio ar y prosiect.

Bydd deg o ymarferwyr eraill yn ymuno â’r prosiect ar gyfer ei berfformiadau terfynol a bydd myfyrwyr dawns sy’n dilyn Cwrs Anrhydedd BA mewn Dawns ym Mhrifysgol De Cymru hefyd yn gwneud cyfraniad pwysig i’r prosiect.

Mae Interruption yn brosiect o archwilio a chydweithio a fydd yn ymateb i’r synnwyr o le yn ogystal ag i fannau penodol. Bydd yn defnyddio disgyblaethau cymysg y prif ymarferwyr ac yn gatalydd ar gyfer rhannu ymarfer gyfoes ryngwladol, er y bydd yn cael ei gynnal yn ninas Caerdydd sy’n gofalu am y prosiect.

Mae Interruption yn cynnwys cwrs preswyl 3 wythnos ar gyfer yr ymarferwyr a fydd yn cael ei gynnal yng nghanolfan Chapter. Bydd cyfleoedd stiwdios agored a gweithdai ar gael i nifer ehangach o ymarferwyr a chynulleidfaoedd.

Bydd y gwaith ymchwil a datblygu a fydd yn digwydd dros y tair wythnos yn arwain at ddiwrnod perfformio cyhoeddus terfynol yng nghanol y ddinas. Bydd tair canolfan, yn benodol, yn cynnal elfennau o berfformio, sef Marchnad Caerdydd, Y Llyfrgell Ganolog ac adeilad ATRiuM Prifysgol De Cymru.

Mae Interruption yn annog ymyriadau artistig sy’n tarfu ar fywyd gwaith bob dydd sefydliadau cyhoeddus. Efallai bydd yr ymyriadau a’r perfformiadau yn y canolfannau yng nghanol y ddinas a gynhelir ar ddydd Gwener, 17 Tachwedd, yn tynnu sylw, yn cythruddo, yn difyrru ac yn holi pobl sy’n mynd heibio a’r rhai sy’n defnyddio’r adeiladau cyhoeddus.

Bwriad Interruption yw datblygu’r ymyriadau a’r perfformiadau hyn drwy ddefnyddio ymchwil safle benodol a gwybodaeth fewnol o’r ddinas ac o’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma.

Mae’r ymarferwyr sy’n gweithio ar Interruption yn ystyried y prosiect fel ffordd o fyfyrio ar gyd-destun a diwylliant, gwahaniaeth a gwleidyddiaeth.

Mae Gŵyl Ddawns Caerdydd yn ddigwyddiad a gynhelir bob dwy flynedd, a chafodd ei lansio yn 2015, ac eleni mae’n cael ei chynnal rhwng 8 a 19 Tachwedd. Dros y deuddeg diwrnod bydd amrywiaeth o weithiau’n cael eu perfformio gan artistiaid a chwmnïau o bob rhan o Gymru, y DU a thu draw. Bydd perfformiadau yn cael eu cynnal yn Chapter, y Tŷ Dawns a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Cefnogir GDdC17 gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Prif bartneriaid yr ŵyl yw Chapter, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru. Eleni bydd yr ŵyl yn gweithio hefyd â Chyngor Dinas Caerdydd, Groundwork Pro, Migrations a Phrifysgol De Cymru ar wahanol agweddau ar y rhaglen.

Trefnwyd rhaglen Gŵyl Ddawns Caerdydd gan Chris Ricketts a rheolwyd y prosiect gan Fieldwork. Meddai Chris Ricketts: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weld beth sy’n dod i’r golwg drwy Interruption. Mae dod ag artistiaid rhagorol at ei gilydd o leoedd cwbl wahanol yn brosiect anhygoel i ni. Ac rydym yn hynod o falch o fod yn rhan o dymor Blwyddyn Diwylliant y DU – India, sy’n gyfrifol am y cyfnewid mor gyfoethog hwn o syniadau.”

Meddai’r artist Lauren Heckler: ‘Rwy’n temlo’n gyffrous iawn o fod yn gweithio ochr yn ochr ag artistiaid o Gymru ac artistiaid rhyngwladol wrth ‘ymyrryd’ yn greadigol â’r gofodau cyhoeddus yr ydym yn mynd iddynt o ddydd i ddydd, er enghraifft y farchnad dan do. Mae’n ardderchog cael bod yn rhan o Ŵyl Ddawns Caerdydd a chael y cyfle i berfformio i’r cyhoedd.”

 

Er mwyn cael rhagor o fanylion, yn cynnwys tocynnau, ewch i www.dance.wales.

Leave a Reply