Gŵyl Ddawns i’r Teulu 2018

March 19, 2018 by

Menter ar y cyd rhwng Bombastic a Coreo Cymru, dau sefydliad celfyddydol o Gaerdydd yw Gŵyl Ddawns i’r Teulu: Digwyddiad dawns cyffrous sy’n teithio i wyth o ganolfannau ledled Cymru dros y Pasg eleni. Bydd tri o gwmnïau dawns amlycaf Cymru (Bombastic, Gary & Pel a Jukebox Collective) a grwpiau dawns ieuenctid lleol yn cyflwyno awr yn llawn dop o ddawns chwim – hwyl bywiog a byrlymus ar gyfer traed o bob oed a siâp.

Bydd tri pherfformiad bob dydd yng Nghaerdydd, Caernarfon, Y Drenewydd, Y Barri, Llanelli, Aberdaugleddau ac Aberhonddu. Mae’r ŵyl yn rhad ac am ddim, yn addas i bob oed ac yn cynnwys perfformiadau gyda Sain Ddisgrifiad a theithiau cyffwrdd yn Gymraeg a Saesneg…a ‘siawns i ddawnsio’ mewn gweithdy byr ar ôl bob sioe. Cêt Haf (Nansi – o’r sioe i blant, Dilyn Fi / Follow Me) fydd yn arwain y gweithdy cyfrwng Cymraeg wedi’r ail sioe ymhob canolfan.

Manylion llawn islaw.

 

CarCrash Wedding

 

Dewch â’r teulu cyfan – bydd llygaid y plant yn pefrio wrth weld dawnswyr anhygoel yn troelli a chwyrlïo, yn popio a hercio! Dewch i gael eich ysbrydoli ac i drio rhai o’r symudiadau dych chi newydd ei gweld

Sefydlwyd yr ŵyl yn 2017 gan Carole Blade, Cynhyrchydd Coreo Cymru a mam i ddau o blant; y bwriad oedd creu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc brofi gwahanol fathau o ddawns.

Meddai Carole, “Fe wnaethon ni gyflwyno’r rhaglen beilot ar y cyd gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Roedd yr ymateb yn brawf pendant fod pawb, yn hen ac ifanc, yn gallu mwynhau dawns. Bu llwyddiant llynedd yn ysgogiad i ni ddatblygu rhaglen yr ŵyl, a theithio i fwy o ganolfannau i berfformio naill ai mewn cynteddau neu yn yr awyr agored. Hefyd ry’n ni wrth ein bodd yn cynnig llwyfan i grwpiau ieuenctid lleol – i berfformio ochr yn ochr â chwmniau proffesiynol.

Meddai Sean Tuan John, Cyfarwyddwr Artistig Bombastic, “Mae hwn yn ddigwyddiad cyffrous iawn.  Ry’n ni wrth ein bodd i gyd-gyflwyno’r ail Ŵyl Ddawns i’r Teulu a fydd yn teithio ledled Cymru dros y Pasg eleni. Mae gyda ni raglen awr o hyd – yn llawn dop o weithiau dawns sy’n addas i’r teulu cyfan. Byddwch yn barod am amrywiaeth ardderchog o ddawns hwyliog, digri, cynhyrfus ac egniol – a chyfle i gymryd rhan hefyd. Mae’r cyfan yn rhad ac am ddim i deuluoedd –  diolch i gefnogaeth ein partneriaid a’r canolfannau. Hefyd, fe gewch chi’r cyfle cyntaf i weld ein gwaith newydd sbon – “Wallflowers”.

Bydd trefnwyr yr ŵyl, sy’n cynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Chapter a Chanolfan Celfyddydau Memo, hefyd yn cynnal gweithdy hyfforddiant i sain ddisgrifwyr. Bydd y gweithdy yma’n rhan o seminar i rai sy’n gweithio yn y maes – yn unol â’n bwriad i geisio denu cynulleidfa mor eang â phosib i berfformiadau dawns a dileu unrhyw ffactorau sy’n rhwystro pobl rhag mynychu.

Dywedodd Dr Louise Fryer, arbenigwr ym maes Sain Ddisgrifiad a mentor rhaglen hyfforddiant yr ŵyl, “Rwy wrth fy modd bod Bombastic a Coreo Cymru yn defnyddio sain ddisgrifiad i bontio rhwng cynulleidfaoedd dall a pherfformiadau dawns yng Nghymru. Cynnig siawns i ddawnsio – i bawb: Dyna yw amcan Gŵyl Ddawns i’r Teulu. A nawr, mae hynny’n cynnwys pobl sydd â nam ar eu golwg hefyd”.

Meddai Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, “Bydd y digwyddiadau yma, yn fwrlwm o greadigrwydd, egni a hwyl, yn cynnig cyfle i bobl ifanc ledled y wlad i brofi dawns gyfoes o Gymru ar ei gorau.”

Meddai Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig a Strategaeth Greadigol Canolfan Mileniwm Cymru:

“Ry’n ni’n falch iawn i groesawu’r ŵyl yn ôl i Ganolfan y Mileniwm a pharhau i gyflwyno dawns i gynulleidfaoedd newydd. Mae yna ddatblygiad cyffrous i ni gyd eleni yn sgil ehangu’r gweithgareddau i gynnwys Sain Ddisgrifiad yn Gymraeg a Saesneg.”

Y RHAGLEN

Wallflowers gan Bombastic

Sioe newydd sbon gan Bombastic yw Wallflowers: Sean Tuan John sy’n gyfrifol am y coreograffi a’r perfformio, gyda’r dawnswyr Rosalind Haf Brooks a Cêt Haf (Nansi yn y sioe i blant, ‘Dilyn Fi’ / ‘Follow Me’). Sioe ddawns fyrlymus a digri gydag elfennau promenâd – yng nghwmni ‘pobl y blodau’, sy’n gallu tyfu’n sydyn ac egniol, o swildod petrus i rialtwch lliwgar. Maen nhw’n ‘cuddio’ o’n blaenau i ddechrau. Ond yn raddol, maen nhw’n tyfu’n agosach ac agosach nes ein tynnu ni i mewn i berfformiad sy’n blodeuo’n un ddawns fawr hapus. Mae Wallflowers yn cyfuno elfennau dawns hwyliog ac anisgwyl gyda hiwmor a digrifwch rhwng y dawnswyr a’r gynulleidfa – ar gyfer plant ac oedolion o bob oed.

CarCrash Wedding gan Gary & Pel

Dyma’r diwrnod hapusaf erioed i Gary a Pel…maen nhw newydd briodi ac yn gyrru tua’r machlud. Ond yn sydyn, mae problem. Mae’r car yn torri i lawr – yn bell o bobman. Beth yn y byd bydd y pâr priod rhyfedd a rhyfeddol yma’n gwneud nesa? Sioe’n llawn clychau priodas, anrhefn llwyr a chwerthin. Dyma 10 munud o antur a direidi – fel cartŵn byw, gyda hiwmor slapstic a dawnsio cyffrous y bydd pawb, o bob oed yn ei fwynhau.

“Perfformiad gwych. Mor glyfar ac mor ddoniol. Ro’n ni’n chwerthin o’r dechre i’r diwedd”

– Carcrash Wedding (Swansea Dance Days)

 

Drifter a Toy Soldier gan Jukebox Collective

Hip Hop o’r radd flaenaf sydd gan Jukebox Collective. Darn smala a hudolus yw’r cyntaf – Drifter gan Kate Morris (rownd derfynol cystadleuaeth Dawnsiwr Ifanc y BBC). Yna, deuawd direidus a grewyd yn arbennig ar gyfer ymweliad y Tywysog Harry a Meghan Markle â Chymru. Byddwch chi’n bownsio.

Y CWMNÏAU DAWNS:

Cwmni dawns, theatr a chyfryngau digidol ar gyfer pobl ifanc yw Bombastic.

Yng nghartref y cwmni yn Ne Cymru, maen nhw’n creu bydoedd beiddgar a chyffrous yn llawn dychymyg, hwyl a ffantasi i blant rhwng 4 ac 11 oed – gan gyfuno elfennau o hud a lledrith gyda sefyllfaoedd cymdeithasol cyfoes.

Cwmni o Dde Cymru yw Gary & Pel – wedi’i seilio ar gysyniad gan Alex Marshall Parsons. Maen nhw’n arbenigo ar greu cartŵns byw sy’n cyfuno dawns, comedi corfforol slapstic a sgarmesu fel Tom & Jerry.  Maent wedi derbyn comisiynnau gan Coreo Cymru, Dance Shorts, Cyngor Celfyddydau Cymru ac yn fwyaf diweddar gan Amaeth Cymru – a arweiniodd at greu CarCrash Wedding.

Mae Jukebox Collective yn un o gwmnïau mwyaf blaengar y DU ym myd dysgu a pherfformio dawns stryd. Mae Academi Celfyddydau Perfformio’r cwmni yn meithrin talent ifanc a hefyd yn gweithio fel asiantaeth – gan gydweithio gyda brandiau blaenllaw fel Virgin Media, Topshop a Levi’s. Mae gan Liara Barussi, cyfarwyddwr creadigol y cwmni, dros 20 mlynedd o brofiad ym maes dawns, coreograffi a mentora dawnswyr, gan gynnwys cyfres Dawnsiwr Ifanc y BBC.

Ymhob canolfan, bydd grwpiau dawns lleol yn cyfrannu perfformiadau arbennig i bob sioe – gydag amrywiaeth o arddulliau dawns a chyfle gwych i weld talentau ifanc yn disgleirio.

YMATEB CYNULLEIDFAOEDD

Dyma ddetholiad o sylwadau gan gynulleidfaoedd Gŵyl Ddawns i’r Teulu 2017 a gynhaliwyd gan Coreo Cymru mewn partneriaeth gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru:

“Perfformiadau hudolus a bendigedig gan ddawnswyr a pherfformwyr talentog iawn. Digwyddiad bendigedig y gwnaeth ein teulu cyfan ei fwynhau’n fawr. Diolch yn fawr iawn! “

“Hyfryd, doniol, treiddgar”

“Y tu hwnt i bob disgwyl, uchafbwynt gwyliau’r Pasg!”

“Wrth ein bodd gyda’r gweithdy byr ar y diwedd a’r gymysgedd o arddulliau a golygfeydd.”

“Sioe ffantastig – roedd yn gyffrous cael dangos rhywbeth i’r plant nad ydyn nhw’n gweld fel arfer! Diolch!”

 

 

CHAPTER, Caerdydd

Sad 24 Sul 25 Mawrth am 12:00 | 14:00 | 16:00

Sain Ddisgrifiad – Sul 25 yn unig am 14:00 (Cymraeg) ac 16:00 (Saesneg) gyda theithiau cyffwrdd chwarter awr cyn dechrau’r sioe.

chapter.org

 

GALERI, Caernarfon

Maw 27 Mawrth am 12:00 | 14:00 | 16:00

Sain Ddisgrifiad am 14:00 (Cymraeg) a 16:00 (Saesneg) gyda theithiau cyffwrdd chwarter awr cyn dechrau’r sioe.

galericaernarfon.com

 

HAFREN, Y Drenewydd

Mer 28 ac Iau 29 Maw am 12:00 | 14:00 | 16:00

Sain Ddisgrifiad – Mer 28 yn unig am 14:00 (Cymraeg) a 16:00 (Saesneg) gyda theithiau cyffwrdd chwarter awr cyn dechrau’r sioe.

thehafren.co.uk

 

Canolfan y Celfyddydau MEMO, Y Barri

Mer 4 Ebrill am 12:00 | 14:00 | 16:00

Sain Ddisgrifiad am 14:00 (Cymraeg) a 16:00 (Saesneg) gyda theithiau cyffwrdd chwarter awr cyn dechrau’r sioe.

memoartscentre.co.uk

 

FFWRNES, Llanelli

Iau 5 Ebrill am 12:00 | 14:00 | 16:00

Sain Ddisgrifiad am 14:00 (Cymraeg) a 16:00 (Saesneg) gyda theithiau cyffwrdd chwarter awr cyn dechrau’r sioe.

theatrausirgar.co.uk

                                   

THEATR Y TORCH, Aberdaugleddau

Gwe 6 Ebrill am 12:00 | 14:00 | 16:00

Sain Ddisgrifiad am 14:00 (Cymraeg) a 16:00 (Saesneg) gyda theithiau cyffwrdd chwarter awr cyn dechrau’r sioe.

torchtheatre.co.uk

 

THEATR BRYCHEINIOG, Aberhonddu

Sad 7 a Sul 8 Ebrill am 12:00 | 14:00 | 16:00

Sain Ddisgrifiad – Sad 7 yn unig am 14:00 (Cymraeg) a 16:00 (Saesneg) gyda theithiau cyffwrdd chwarter awr cyn dechrau’r sioe.

brycheiniog.co.uk

 

CANOLFAN MILENIWM CYMRU, Caerdydd

Mer 11 a Gwe 13 Ebrill am 10:30 | 12:30 | 14:30

Iau 12 a Sad 14 Ebrill am 10:30 | 12:30 | 16:00

Sain Ddisgrifiad – Sad 14 yn unig am 12:30 (Cymraeg) a 16:00 (Saesneg) gyda theithiau cyffwrdd chwarter awr cyn dechrau’r sioe.

wmc.org.uk

 

 

 

#familydancefest

wearebombastic.com

facebook.com/WeAreBo

Leave a Reply