Mae Illumine Theatre yn falch i gyhoeddi manylion eu sioe newydd, 2023

August 1, 2018 by

Mae Illumine Theatre yn falch i gyhoeddi manylion eu sioe newydd, 2023, a fydd yn cael ei lwyfan-nu yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter 3 – 13 Hydref 2018. Mae Illumine Theatre yn gydweithrediad rhwng yr awdur theatr o Gaerdydd, Lisa Parry, a’r cyfarwyddwr arobryn Zoë Wa-terman, ac mae’r cwmni yn sicrhau bod ysgrifennu newydd yn rhan ganolog o’r gwaith.

Wedi ei ysgrifennu gan Lisa Parry a’i gyfarwyddo gan Zoë Waterman, 2023 yw cynhyrchiad cyntaf y cwmni. Mae’r tîm creadigol hefyd yn cynnwys y Cynllunydd Goleuo Elanor Higgins a’r Cynl-lunydd Sain Ed Lewis, sydd wedi cynllunio sain yn ddiweddar ar gyfer sioe Killer Joe yn y West End.

Cast y cynhyrchiad fydd Stephanie Back, Tom Blumberg a Richard Elis.

Stephanie Back, sydd yn actores fyddar, fydd yn chwarae rhan Mary. Mae wedi gweithio yn ddi-weddar gyda chwmniau megis Taking Flight Theatre Company, Handprin a Chynyrchiadau PAD (Positive about Deafness). Mae’n angerddol ynglŷn â mynediad a chynhwysiant ac mae wedi der-byn gwobr #IAmEmbolden yn ddiweddar sydd yn dathlu menywod anabl a B/byddar yng Nghymru.

Tom Blumberg o Gaerdydd fydd yn chwarae rhan John. Yn adnabyddus i wylwyr Rownd a Rownd, mae ei waith theatr diweddar yn cynnwys Cerrig yn Slip, I Ble Mae’r Dail yn Hedfan a Peno-bi Hapus (Arad Goch), Just Jump, The Amazing Adventures of Wallace and Bates (Theatr Na’nog), Mimosa, Somewhere in England (Theatr Clwyd), Eyes Closed, Ears Covered (The Bunker Theatre) a The Big City (Cockpit Theatre).

Richard Elis fydd yn chwarae rhan Chris. Fe gychwynodd Richard ei yrfa teledu yn chwarae rhan Huw Edwards ar EastEnders ar gyfer y BBC, ac ers hynny mae wedi ymddangos mewn sawl gyfres deledu. Mae ei waith theatr diweddar yn cynnwys Y Fenyw Ddaeth o’r Môr (Theatr Genedlaethol Cymru), Cynnau Tân (Sherman Cymru), Bedroom Farce (New Wolsey Theatre), Measure for Measure, Two Princes, Hobson’s Choice, Word For Word, Hard Times and Accidental Death of an Anarchist (Theatr Clwyd Cymru).

Mae 2023 wedi ei osod yng Nghaerdydd yn y flwyddyn 2023 – pan mae deddf a gafodd ei chymeradwyo gan San Steffan yn 2005 wedi dod i rym. Mae plant a gafodd wybod eu bod wedi eu geni trwy rodd wyau neu sberm, wrth droi’n 18, nawr yn gallu darganfod pwy yw’r rhoddwr. Mae 2023 wedi ei ddatblygu gyda chymorth gan academwyr ac ymchwilwyr yn maes rhoi genynau a B/byddardod.

Meddai’r awdur Lisa Parry:

“Mae 2023 yn adrodd stori am beth sy’n digwydd pan mae merch deunaw oed yng Nghaerdydd yn cyfarfod ei thad trwy rodd sberm, ac effaith y cyfarfod yna arni hi, fe a’i bartner. 2023 fydd y flwyd-dyn gyntaf pan gall cyfarfodydd o’r fath ddigwydd yn Mhrydain, yn dilyn newid deddf yn 2005.

Dwi’n cofio darllen am y newid a bod â diddordeb. Roeddwn i’n eistedd lan stâr mewn tafarn theatr ac fe wnes i nodi stori newyddion fechan amdano. Fe wnes i ddechrau ddilyn datblygiadau yn y maes – y sgyrsiau moesol, a faint – os unrhywbeth – ddylai plant wybod. Rydyn ni wedi gweithio gyda sawl arbenigwr a chreu rhywbeth dwi’n meddwl sydd yn gyffrous a pherthnasol. Dwi methu aros i bobl ei weld!”

Bydd pob perfformiad o 2023 yn cynnwys capsiynau. Bydd un perfformiad hefyd yn cynnwys dehongliad BSL ar yr 11eg o Hydref.

Mae gwaith yr awdur Lisa Parry wedi ei lwyfannu gan nifer o gwmniau theatr ysgrifennu newydd gan gynnwys; National Theatre Wales, Dirty Protest, The Miniaturists, PopUp Theatrics (NYC), The Internationalists (NYC), Sherman Cymru ac Agent 160 Theatre. Mae wedi cwblhau grŵp ysgrifen-nu Sherman Cymru ac mae ganddi MPhil mewn Astudiaethau Ysgrifennu i’r Llwyfan o Brifysgol Bir-mingham. Mae wedi siarad yn eang am theatr, cenedl a’r berthynas rhwng theatr a gwyddoniaeth – yn benodol mewn cyflwyniad yn TEDx Caerdydd yn 2017.

Enillodd Zoë Waterman wobr gan Theatr New Wimbledon ar gyfer Cyfarwyddwyr Newydd yn 2007. Mae ei gwaith theatr diweddar yn cynnwys; Table, Playhouse Creatures, The Kitchen Sink (New Vic Theatre, Stoke on Trent); The Rubenstein Kiss, Amy’s View and After Miss Julie (Notting-ham Playhouse); Remarkable Invisible, The Vertical Hour, Enlightenment and Shining City (Theatre by the Lake, Keswick); The Bogus Woman (Theatre by the Lake, Keswick and UK tour); Sleeping Beauty (Theatr Clwyd); Swan Song: An Evening of Music and Song (The Swan, Royal Shake-speare Company); The Promise (New Wimbledon Theatre Studio).

Mae 2023 yn cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Ymddiriedolaeth Unity Theatre a gyda chefnogaeth gan Chapter.

Gwybodaeth:

Gan: Lisa Parry
Cyfarwyddwr: Zoë Waterman

Canolfan Celfyddydau Chapter
3 – 13 Hydref 2018
Perfformiadau nos: 7.30pm
Perfformiadau prynhawn: 2.30pm (6 + 13 October / Hydref)
Tocynnau: £8 / £10 / £12
chapter.org / 029 2030 4400

Dehongliad BSL: 11 Hydref
Sgyrsiau ôl sioe:
5 Hydref: Gwyddoniaeth a Moeseg yn ‘2023’
11 Hydref: Sgwrs gyda’r cast a’r tîm creadigol (dehongliad BSL)

Bydd pob perfformiad yn cynnwys capsiynau

Leave a Reply