Mae The Mountaintop yn bortread ffuglennol o noson olaf Martin Luther King ar y ddaear

September 6, 2017 by

M ae Fio yn falch i gyhoeddi bydd The Mountaintop yn teithio Cymru yn Hydref 2017, yn dilyn ymateb ac adolygiadau arbennig pan fu yn perfformio yn The Other Room yng Nghaerdydd yn Hydref 2016.  Bydd y cwmni yn lawnsio’r daith yn Senedd Llywodraeth Cymru ar yr 2il o Hydref 2016, mewn digwyddiad fydd hefyd yn dathlu cychwyn Mis Hanes Pobl Dduon.

 

Mae The Mountaintop yn bortread ffuglennol o noson olaf Martin Luther King ar y ddaear. Mae King yn cael ymweliad yn ei ystafell yn y motel ym Memphis gan Camae, morwyn sydd ar berwyl llawer pwysicach na dod â choffi iddo. Enillodd The Mountaintop gan Katori Hall wobr Olivier am y ddrama newydd orau ac mae’n ddrama afaelgar, berthnasol gyda llawer o hiwmor.

 

Bydd Mensah Bediako yn ail-ymuno â’r cwmni i chwarae rhan Martin Luther King, tra bod Rebecca Carrie yn ymuno â’r cwmni i chwarae rhan Camae, y forwyn. Cyfarwyddwr y sioe yw Cyfarwyddwr Artistig Fio, Abdul Shayek, y Cynllunydd yw Stacey-Jo Atkinson, Cynllunydd Sain yw Dan Lawrence, y Cynllunydd Goleuo yw Ciarán Cunningham a’r Cynllunydd Fideo yw Joe Fletcher.

 

Yn ystod y digwyddiad ar yr 2il o Hydref, bydd Fio yn lawnsio taith Cymru gyda pherfformiadau, areithiau a sgyrsiau. Bydd Fio yn dod â busnesau, sefydliadau ac ysgolion at ei gilydd i drafod materion ynglŷn â chenedl yng Nghymru, yn ogystal â chynnig cyfle i fyfyrwyr o ysgolion cysylltiol i berfformio.

 

Meddal Cyfarwyddwr The Mountaintop, Abdul Shayek;

“Fe wnaeth The Mountaintop siarad â fi mewn ffordd nad oes drama arall wedi gwneud ers amser.  Fe wnaeth danio nifer o emosiynau yndda i, o ddifyrwch i wylltineb a rhwystredigaeth.  Hoffwn gyflawni hynny gyda ein cyulleidfaoedd a chychwyn sgwrs ehangach am genedl, rhagfarn ac yn bwysig iawn ein bod ni’n cofleidio ein gwahaniaethau.

 

Dyma fydd un o’r unig droion i’r cast cyfan fod yn bobl dduon ar lwyfan yng Nghymru, rhywbeth sydd yn hollol wallgo, nid am ei fod yn cael ei wneud nawr ond gan ei fod yn 2017 ac mae’r ffaith nad yw’n digwydd yn amlach yn gwneud fi’n rhwystredig ac yn drist.  Mae teithio’r cynhyrchiad yma yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon yn gwneud fi’n falch iawn o’r cwmni ac yn gobeithio y bydd cynulleidfaoedd ar draws Cymru yn barod i fod yn rhan o’r sgwrs.”

 

Mae Fio yn gwmni theatr wedi eu lleoli yng Nghaerdydd sydd yn gweithio ar draws Prydain ac yn rhyngwladol, yn dod â straeon gwleidyddol safonol i gynulleidfaoedd lleol.  Mae gan bawb stori i’w ddweud, ac mae pob unigolyn yr un mor bwysig â’r llall.  Gyda’n gilydd, mae Fio yn gwneud theatr sydd yn dathlu’r unigolyn, yn rhwygo’r syniad o stereoteip, ac yn cynnig cyfle i bawb i roi eu marc ar y byd.

 

Dyddiadau’r daith;

 

3 Hydref, Dawns Powys, Llandrindod Wells

dancepowysdawns.org / 01597 824 370

 

7 Hydref – Span Arts, Arberth

span-arts.org.uk / 01834 869323

 

10 – 13 Hydref – Blackwood Miner’s Institute

your.caerphilly.gov.uk/bmi / 01495 227206

 

18 & 19 Hydref – Newport Riverfront

newportlive.co.uk/riverfront / 01633 656757

 

24 Hydref – Pontio

pontio.co.uk / 01248 38 28 28

 

26 & 27 Hydref – Ffwrnes, Llanelli

theatrausirgar.co.uk / 0845 226 3510

 

Tocynnau: £12 / £10

 

Gwybodaeth bellach: www.wearefio.co.uk

Leave a Reply