Radio Platfform, CMC

November 21, 2018 by

Mae rhaglen hyfforddi a gorsaf radio Canolfan Mileniwm Cymru sy’n cael ei harwain gan bobl ifanc, Radio Platfform, wedi agor ail stiwdio yn ei gofod ar ei newydd wedd sy’n rhoi llwyfan i fwy o bobl ifanc Cymru greu eu sŵn unigryw eu hunain, i ddefnyddio’u lleisiau ac i ddarlledu rhaglenni dyddiol byw.

Ers ei lansio yn 2016, mae Radio Platfform wedi cefnogi 55 o bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed ar gynllun achrededig 6 wythnos o hyd sy’n cynnig hyfforddiant cyfryngau, mewn partneriaeth â Promo Cymru. Ar ôl cael hyfforddiant i gyflwyno a chynhyrchu rhaglenni radio, yn ogystal â dysgu sgiliau bywyd a gyrfaol pwysig eraill, mae tîm o bobl ifanc bellach wedi magu’r sgiliau a’r hyder angenrheidiol er mwyn rheoli’r orsaf eu hunain, ac i ddechrau creu rhaglenni radio o’r ail orsaf a fydd yn cael eu darlledu ar wmc.org.uk/radioplatfform

 Bydd stiwdio wreiddiol Radio Platfform yn parhau i gael ei defnyddio i ddarparu hyfforddiant achrededig, sesiynau blasu a gweithdai yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ochr yn ochr â rhaglenni dyddiol. Mae’r stiwdio hefyd yn uned symudol, sy’n golygu bod modd i dîm Radio Platfform gynnal sesiynau Cymraeg neu Saesneg mewn ysgolion, grwpiau cymunedol a gwyliau.

Mae Radio Platfform eisoes wedi bod yn cynnal sesiynau allgymorth gyda Grassroots, sef elusen leol sy’n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed yn y brifddinas. Mae sesiynau Radio Platfform, sydd wedi bod yn gweithio’n benodol gyda grŵp rhieni ifanc Grassroots a phobl ifanc sydd â chyflwr Asperger, wedi darparu cyfleon iddyn nhw gael seibiant o’u bywydau bob dydd ac i fagu hyder.

Yn y digwyddiad i agor gofod newydd Radio Platfform, lansiodd Canolfan Mileniwm Cymru ymgyrch codi arian, sef 30 Diwrnod o Roi – Codi’r To. Nod yr ymgyrch yw codi £15,000 erbyn 20 Rhagfyr er mwyn ariannu llefydd i 30 o bobl ifanc o Grassroots ar y rhaglen hyfforddi chwe wythnos o hyd.

Meddai Jason Camilleri, Cynhyrchydd Dysgu Creadigol Canolfan Mileniwm Cymru: “Roedden ni’n frwdfrydig iawn i weithio gyda’r bobl ifanc â chyflwr Asperger a’r rhieni ifanc, ac rydyn ni wedi’u gweld nhw’n ffynnu y tu mewn a’r tu allan i’r sesiynau radio. Bydd cymryd rhan yn y rhaglen chwe wythnos o hyd yn gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw – dyna pam ein bod ni’n codi arian dros y 30 diwrnod nesaf i’w cefnogi nhw ar y cwrs.”

 

Er mwyn helpu 30 person ifanc i ddod o hyd i’w lleisiau, ewch i wmc.org.uk/rhoi

 

I gael rhagor o wybodaeth am Radio Platfform, tiwniwch i mewn, neu i gofrestru i gymryd rhan (ar agor i bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed), ewch i wmc.org.uk/radioplatfform

 

#30Diwrnod30Person #RadioPlatfform

Leave a Reply