The Flying Bedroom yn hedfan unwaith eto

March 18, 2018 by

Bydd cwmni dawns o Ogledd Cymru yn mynd â ‘The Flying Bedroom’ ar daith arall – cynhyrchiad sydd eisioes wedi derbyn enwebiad am wobrau. Mae Little Light wedi cydweithio gyda’r awdur arobryn Heather Dyer er mwyn dod a’i stori antur The Flying Bedroom yn fyw ar y llwyfan drwy ddawns a thaflunio digidol arloesol.

Mae’r stori yn mynd â’r gynulleidfa ar antur gydag Elinor a’i hystafell wely hudol sy’n hedfan wrth iddynt ddarganfod ffrindiau newydd, ymladd môr-ladron a chwrdd â gofodwraig druenus yn ystod eu hanturiaethau mewn gwledydd pell, o dan y môr ac yn y gofod. Bydd y daith greadigol ac ysbrydoledig hon, lle mae Elinor yn darganfod ei hunanhyder a’i chreadigrwydd ei hun, yn cael ei harddangos drwy ddawns, actio mewn Cymraeg a Saesneg, a gwisgoedd a thafluniadau arbennig, fydd yn brofiad synhwyraidd cyflawn i’r holl deulu.

Yn y byd ffantasi gwych hwn mae Elinor yn dod o hyd i ffyrdd i ddod dros y problemau yr oedd yn poeni amdanynt cyn cwympo i gysgu, ac mae’n darganfod ei hunanhyder a’i chreadigrwydd ei hun fel ei bod yn barod i wynebu ei diwrnod pan mae’n deffro.

Dywedodd Lisa Spaull, o Little Light: “ Rydym yn edrych ‘mlaen i deithio ar draw Cymru unwaith eto gyda’r sioe arbennig hon. Mae’n gyffrous, hwyliog a chreadigol, ac mae ganddi fwy o leoliadau 3D a sain amgylchynol. Nid yn unig ar gyfer y plant, ond ar gyfer oedolion hefyd.”

Meddai Heather Dyer, awdur y llyfr: “ Dwi yn hynod o gyffrous bod The Flying Bedroom yn teithio unwaith eto, a dwi methu aros i weld yr effeithiau arbennig newydd a’r munudau dramatig yn y fersiwn newydd hon. Mae hefyd yn hyfryd mai un o’r lleoliadau ar y daith yw Aberdyfi, sef tref glan y môr lle y lleolir y stori. Mae Elinor a’i ‘stafell yn dod adref! “

Mae perthynas hir yn bodoli rhwng Little Light a Venue Cymru ac maent yn falch eu bod yn cyd-gynhyrchu y cynhyrchiad arbennig hwn unwaith eto eleni.

Bydd The Flying Bedroom yn cael ei pherfformio yn Venue Cymru ar Fawrth 27ain cyn cychwyn ar daith ledled Cymru.

Mae’r sioe ddwyieithog hon yn addas i blant 4+ ac yn rhedeg am oddeutu 45 munud.

Bydd gweithdai dawns a/neu digidol yn cael eu cynnal mewn rhai canolfannau ( gweler fanylion isod) ond bydd gynulleidfa angen archebu lle gyda’r swyddfa docynnau penodol oherwydd bydd niferoedd yn gyfyngedig.

 

Little Light mewn cyd-gynhyrchiad gyda Venue Cymru.

Cefnogwyd gan Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,Firefly Press, Noson Allan

Amserlen y daith

*Gweithdai ar gael

 

27/3/18 1pm a 3.30pm ( Y ddau berfformiad wedi’i Sain Ddisgrifio gan Anne Hornsby) *

Venue Cymru,Llandudno

01492 872000

www.venuecymru.co.uk

 

28/3/18 1pm a 3.30pm *

Galeri, Caernarfon

http://www.galericaernarfon.com

01286 685222

 

29/3/18 1pm (Perfformiad Ymlaciedig) a 3.30pm *

Neuadd Dwyfor, Pwllheli

01758 704088

 

3/4/18 1pm a 3.30pm *

Neuadd Dyfi

http://www.neuadddyfi.org/

01654 767251

 

5/4/18 2pm *

Garth Olwg, Pentre’r Eglwys

www.gartholwg.org

01443 570075

 

6/4/18 4.30pm

7/4/18 10.30am *, 1.30pm *, 4.30pm

Theatr y Sherman, Caerdydd http://www.shermantheatre.co.uk

029 2064 6900

 

10/4/18 1pm *

Y Neuadd Les, Ystradgynlais

www.thewelfare.co.uk

01639 843 163

 

11/4/18 2pm

Celfyddydau Span yn y Queens Hall, Arberth

www.span-arts.org.uk

01835 869323

 

12/3/18 1pm & 3.30pm *

Theatr Bwrdeistref, Y Fenni

www.boroughtheatreabergavenny.co.uk

01873 850805

………

 

TIM CREADIGOL

Rob Spaull – Cyfarwyddwr/cyfansoddwr/technegydd/artist digidol

Charles Gershon Spendlove – Datblygydd Rhith-wirionedd

Femke Van Gent- Dylunydd

Lisa Spaull – Coreograffydd

Cat Ryan – Perfformiwr

Angharad Jones – Perfformiwr

Heather Dyer – Awdur ag Ymgynghorydd

Ceri Rimmer- Dylunydd Gwisgoedd

Kai Maurice – Cynorthwydd Technegol

Leave a Reply