Theatr Bara Caws yn agor taith Cynhyrchiad newydd ‘Drwg

January 26, 2016 by

 

Yn ystod yr wythnosau nesaf  bydd Bara Caws yn teithio cynhyrchiad yn arbennig i blant oed cynradd a’u teuluoedd, Drwg!, gan agor yng Nghanolfan Pontio, Bangor ar ddydd Sadwrn 30 o Ionawr.    Yna bydd y sioe bypedau hudolus  yma, gan Angela Roberts, yn teithio o amgylch y Gogledd tan 26 o Chwefror. (Wele’r atodiad am ddyddiadau a chanolfannau’r perfformiadau).

 

Mae Angie yn awdures blant brofiadol (y hi yw awdur ‘Anturiaethau Jini Mê’) a bu ganddi ddiddordeb erioed ym mhŵer pypedau fel cyfrwng llwyfan.   Meddai Angie: “‘Rwyf wrth fy modd yn defnyddio chwedl sy’n rhan o’n hetifeddiaeth Gymreig a’i throi’n berthnasol i blant heddiw drwy ddefnyddio pypedau ac actorion, gan gyflwyno sioe llawn lliw, hwyl a chân.

 

 

 

Efa Dyfan, merch Angie sy’n gyfrifol am fodelu’r holl bypedau, a’i brawd Cai, sy’n gynllunydd theatr a ffilm yn Llundain, sydd wedi dylunio’r set ar sail model o theatr degan liwgar Fictorianaidd.

 

Mae’r sioe, sy’n seiliedig ar chwedl Rhita Gawr, yn sioe liwgar a deniadol dros ben, ac yn siŵr o apelio at bawb.  Bydd yn cynnwys pypedau ffon a chysgodion, actorion, cerddoriaeth, caneuon, bocs mawr o eira, gafr sy’n perfformio, carnifal canol-nos – a cheiliog!

 

A phwy oedd Rhita meddech chi?  Wel, un drwg oedd Rhita, wrth ei fodd yn codi ofn ar bawb a phopeth, ac yn bwlio plant llai yn ddidrugaredd.  Dewch i helpu Betsi Brwsh a’i chyfeillion i ddysgu Rhita sut i fihafio’n iawn…

 

Cyflwynir y sioeau yn Pontio gyda chydweithrediad y ganolfan gelfyddydol newydd ar y 30 o Ionawr, a bydd gweithdai gwneud pyped yn cael eu cynnal wedi’r ddwy sioe.  Yn ôl Angie, mae medru cynnal gweithdai o’r fath yn annog plant i greu eu pypedau eu hunain, ac efallai’n hybu’r broses greadigol drwy eu hysgogi i lunio eu straeon eu hunain adref.  Bydd gweithdai hefyd yn cael eu cynnal ar ôl y perfformiadau yn Neuadd Buddug, Y Bala.

 

THEATR BARA CAWS YN AGOR TAITH CYNHYRCHIAD NEWYDD  ‘DRWG!’ – SIOE BYPEDAU I BLANT A THEULUOEDD  – YN PONTIO, BANGOR

‘Drwg!’  gan Angela Roberts

Leave a Reply