Theatr Pena, Women of Flowers gan yr awdur Cymraeg arobryn Sion Eirian

December 1, 2017 by

Mae Theatr Pena yn dychwelyd gyda cyd-gynhyrchiad cyntaf y Cwmni gyda Canolfan y Celfyddydau Taliesin, gyda llwyfaniad deinamig a gweledol gyffrous o hen chwedl am frad a dial.

Mae Woman of Flowers yn addasiad barddonol cyhyrog o chwedl Blodeuwedd o’r Mabinogi gan yr awdur Cymraeg arobryn Sion Eirian, ac mae’n cyfuno elfennau o ddrama fydryddol enwog Saunders Lewis gyda deunydd gwreiddiol i greu ffantasi hudolus a thywyll.

Mae’r cast yn cynnwys Aelodau Cwmni Theatr Pena, yr actoresau arobryn Betsan Llwyd fel y dduwies chwerw, Arianrhod ac Eiry Thomas fel y dewin maleisus, Gwydion a’r actores a’r gantores adnabyddus Olwen Rees fel Rhagnell, morwyn ffyddlon Blodeuwedd. Dychwela Rhys Meredith, a fu’n chwarae rhan Tom Wingfield yn The Glass Menagerie, at y cwmni i chwarae’r arglwydd bradwrus, Gronw. Yn ymddangos gyda Theatr Pena am y tro cynta mae’r actores arobryn Sara Gregory fel merch y blodau, Blodeuwedd ac Oliver Morgan-Thomas fel y tywysog a’r rhyfelwr a gafodd ei fradychu, Llew.

Mae’r Cyfarwyddwr Erica Eirian, y Cyfansoddwr Peter Knight, y Cyfarwyddwr Symud Caroline Lamb, y Cynllunydd Holly McCarthy, y Cynllunydd Goleuo Kay Haynes a’r Cynhyrchydd Creadigol Ceri James, sef y tîm a greodd gynhyrchiad teithiol llwyddiannus y Cwmni o The Glass Menagerie yng ngwanwyn 2016, nawr yn croesawu atynt y Dyn Camera Peter Firth a’r Golygydd Ffilm a’r enillydd BAFTA Dafydd Hunt. Gyda’i gilydd mae nhw wedi creu cynhyrchiad sy’n wahanol iawn i arlwy arferol y Cwmni gan asio testun barddonol, ffilm, symud a cherddoriaeth i greu profiad cyffrous newydd i’r gynulleidfa.

Mae Woman of Flowers yn agor yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin, Abertawe am rediad o dri perfformiad: Iau 1 Chwefror, Gwener 2 Chwefror (Noson y Wasg) a Sadwrn 3 Chwefror cyn teithio Cymru o Fawrth 6 Chwefror tan Gwener 9 Mawrth yn y lleoliadau a ganlyn:

Aberdaugleddau Theatr y Torch, Aberteifi Theatr Mwldan, Pentre’r Eglwys, Theatr Gartholwg, Coed Duon Sefydliad y Glowyr, Casnewydd Glan yr Afon, Caerdydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (dau berfformiad), Aberhonddu Theatr Brycheiniog, Yr Wyddgrug Theatr Clwyd (dau berfformiad), Aberystwyth Canolfan y Celfyddydau, Caerfyrddin Y Lyric, Y Drenewydd Hafren, Pwllheli Neuadd Dwyfor, Caernarfon Galeri ((dau berfformiad).

Perfformiad wedi ei sain-ddisgrifio: Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Abertawe, Sadwrn 3ydd o Chwefror
Capsiynau: Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, Sadwrn 17eg Chwefror Capsiynau: Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, Gwener 23ain Chwefror

Cyd-Gynhyrchiad Theatr Pena | Taliesin Arts Centre Co-Production

Addasrwydd Oedran

12+ Hyd:

Tua 1 awr 20 munud [heb egwyl]

Mae hwn yn gynhyrchiad yn yr iaith Saesneg.

Leave a Reply