Allan O Diwn, Theatr Bara Caws

July 5, 2016 by

Mae na rywbeth go drist am ddenu sylw at y ffaith, eto fyth, mai’r theatr yw cartref dychan Cymreig. Yn absenoldeb unrhyw raglen o werth, ar deledu a radio Cymraeg, byddai’n talu i chi weld y sioe Allan o Diwn gan Theatr Bara Caws.

Yn gyfuniad o gofiant a rifiw gerddorol, mae’r sioe yn rhannu hanes y sgwennwr-berfformiwr Emyr ‘Himyrs’ Roberts, o’i ddyddiau fel prif-leisydd band ska-pop Y Ficar hyd ei yrfa fel dynwaredwr heb ei ail. Ond mae hefyd yn cynnwys sylwebaeth graff ar  wleidyddiaeth Cymru o’r 1970au ymlaen, a beirniadaeth ffraeth o’r Sîn Roc Gymraeg.

Er mawr drugaredd i garwyr y theatr a’r bêl gron yng Nghaerdydd, llwyfanwyd sioe nos Wener yn Chapter  ddwy awr yn gynharach nag a raglennwyd yn wreiddiol,  er mwyn i bawb  gael cefnogi tîm pel-droed Cymru yn erbyn Gwlad Belg. Cam hynod ddoeth, os ga i ddweud; gyda sioe’r noson gynt wedi’i gwerthu allan yn llwyr, roedd y Stiwdio ymhell dros hanner llawn.  Teg dweud i bawb ymadael yn dyheu am weld rhagor o ddoniau disglair seren y sioe.

Fframiwyd Allan o Diwn gan ddyfais slic, sef ‘gig’ cyfoes gan bedwar band, gyda phob un yn dychan elfen wahanol o’r sîn gerddoriaeth  Gymraeg; y ‘Canwr Cyfoes Tawel’, ‘West-End Wannabe’, ‘Band Ska Mawr’ a’r ‘SRG Trubiwt’ . Rhwng y caneuon, a berfformiwyd ag asbri gan Himyrs, ynghyd â band cefndirol ei feibion,  adroddwyd ei hanes yn hamddenol  ar ffurf gig stand-yp, a  ganiataodd iddo grwydro’r llwyfan yn ddi-baid.

Nid yn unig y cyflawnodd y sioe y gamp ddwbwl o ddiddanu’r dorf a chynnig dychan o fri, ond llwyddodd yn ogystal  i weithredu fel rhyw TED Talk Cymraeg . Gwelaf  sideline lewyrchus  i Himyrs fel ‘motivational speaker’, mewn cynhadledd  ‘Naw Wfft I’ch  Amheuon – Ewch Amdani!’.

Difyr iawn oedd dilyn hanes cynnar y diddanwr o Gaernarfon, a siarsiwyd yn wreiddiol i ganolbwyntio ar y gwyddoniaethau,  gan snichyn o brifathro  yn  ysgol ramadeg y dre. Aethpwyd ymlaen i egluro’i  bresenoldeb yn chwarel Dinorwig, yng nghwmni Carol Vordeman, fel cyw-beirianydd addawol iawn.

Adwaith i’r gwaith, a gwleidyddiaeth y cyfnod,  oedd ei ddiddordeb mewn mewn bandiau Cymraeg – a’i gyfnod fel prif-leisydd Y Ficar, o’r Felinheli, yn flaenaf. Aeth â ni ar daith hwyliog o festri capel ym Mhenmachno i stiwdio recordio  ‘Howard Marks Ystradgynlais’, yna uchelfannau Gwobrau Sgrech ym Mhafiliwn Corwen, yna anarchiaeth Clwb Cymdeithasol Cwmbwrla, Abertawe. Pupurwyd y cyfan gan ddynwarediadau di-ri, a ddatgelodd y doniau cudd  oedd yn ffrwtian islaw cyhyd.

I gyfran o’r dorf, cynigodd Allan o Diwn wibdaith nostalgig yn ol i Gymru yr Wythdegau; cyfnod hanesyddol  a hawliodd swmp o awr a chwarter y sioe.  Ond mewn cyfnod mor hesb – yn greadigol a gwleidyddol – a mond Mike Yarwood yn hawlio rhaglen ddynared  i’w hun, bu’n rhaid aros nes i Himyrs weld ‘Y Cleciwr’ ar sgrîn, pan brofodd ei ‘lightbulb moment’ ei hun.

Aeth ymlaen gyda chriw Pelydr X, Llwyth o Docs a Cnex – i enwi rhai – i ddatblygu’n go-to-guy am ddynwared yn y Gymraeg. Derbyniodd ei ‘greatest hits’ – Dafydd Wigley, Rhodri Morgan a Bryn Terfel i enwi rhai – greoso gwresog yn stiwdio’r  Chapter, ynghyd â llu o enwau eraill. Ond datgelodd yn ogystal fethodoleg  hynod ddifyr y dynwaredwr, wrth gyfleu delweddau o bryd i’w gilydd trwy osgo llais yn unig, fel cyplysu crwban â Tony Benn a Dewi Llwyd. Bachodd hefyd  ar elfennau bychain o ymarweddiad wynebau cyfarwydd, wrth gymharu esblygiad steil cyflwyno Vaughan Hughes a Lucy Cohen â dyn yr eiliad, Aled Hughes.

Er mor bigog, a deifiol, y mae  Himyrs ar adegau, mae ei hoffter o’i destunau’n  amlwg iawn. Yn sicr, does dim rheswm i enwau fel Huw Fash, Dewi Llwyd ac Endaf Emlyn gadw draw. Ond efallai, y byddai’n talu i gynhyrchwyr radio alw heibio , i ddeall adwaith dyrchafu un math o gerddoriaeth dros eraill.

Y mae’n siwr gen i  mai testun balchder, i raddau,  yw ennyn anfarwoldeb o’r fath i rai, er  mor boenus yw tynnu blewyn o drwyn . Ond mae cenedl heb neb i’w beirniadu yn wlad afiach yn y bôn, ac mae diffyg dychan yn broblem enfawr i’n diwylliant.

Os oes gwendidau yn perthyn i’r sioe, yna hit and miss yw ambell ddynwarediad, gan gynnwys  Gareth Potter ac Arfon Haines Davies. Ond o’r ugeiniau o enghreifftiau,  mae’r hit-rate yn uchel iawn.

Carlamu tua’r diwedd wna’r sioe, er mawr siom, wedi’r cyfnod pan ddaw Y Ficar i ben. Ond mewn rhai ffyrdd, mae’r cyfnod byr a groniclir am y llwyddiant dynwaredu yn galw am dilyniant  o fath i Allan o Diwn. Ac heb sôn am y dynwaredu, neu’r ‘gwatwar’, dyma showcase heb ei ail i ddoniau canu  Emyr ‘Himyrs’ Roberts.

Yn dilyn galwadau am fersiwn newydd o The Thick of It, ymatebodd  Armando Iannucci ein bod mewn cyfnod  sydd y tu hwnt i barodi. Ond ar adeg mor ansefydlog o wleidyddiaeth honco bost mae angen llais cryf fel Himyrs i’n cadw ni’n gall, i gael gwenu trwy ein dagrau ni gyd.

 

 

 

 

 

Leave a Reply