My Body Welsh, Invertigo Theatre, Pontio, The Conker Group

January 18, 2017 by

Dylai My Body Welsh ddod â rhybudd iechyd; gall arwain at bendro i rai. Dyna’n sicr oedd fy ymateb innau, a nghyfaill mynwesol , yng nghanolfan gelf Chapter noson o’r blaen. Ond tra ches innau fy nharo gan gynnwrf mawr, aeth fy nghyfaill i deimlo’n swp sâl. Cerddodd o ’na, heb droi ’nol, ond ges i decst ganddo wedyn; ‘… un o’r pethe gwaetha dwi erioed di gweld!’.

Tydy pawb, mae’n wir i ddweud, ddim yn gwirioni ‘run fath – a diolch byth am hynny. I mi, mae darn o gelf sy’n denu adwaith amrywiol yn llwyddiant digamsyniol!

Felly sut ar y ddaear llwyddodd My Body Welsh i ennyn dau ymateb hollol wahanol?  Ar yr arwyneb, mae’n ddrama ddirgelwch sy’n dilyn stori am sgerbwd, a ganfyddir yn Llanfair PG. Hawlia’r hanes y penawdau yn y rhacsyn papur lleol, gan ddadorchuddio rhwyg hanesyddol rhwng dau deulu. Mae gan y ffermwyr, Jones a Davis, hawl ar ffynnon hynafol  lle ffeindiwyd y sgerbwd di-enw. Ond pa un o’r ddau sy’n gyfiawn? A phwy sy’n gorwedd yn gelain? A beth sydd â wnelo hyn oll â chwedloniaeth Cymru?

O hanes Gelert i Garadog, Ceridwen y wrach a chromlechi di-ri, awn ‘rownd Sir Fôn’ go-iawn i gyrraedd at y gwir. Ond mewn cyfnod o ôl-wirionedd, a newyddion ffug, ai tŷ ar y tywod yw’r hanes hwn – ynghyd â’n hunaniaeth ni?

Adroddir y cyfan gan lanc ysgol, a’i wynt yn ei ddwrn,  sy’n chwyrligwgan o berfformiad un-dyn. Steffan Donelly sy’n chwarae’r bachgen, sy’n ysu am antur, a dihangfa o’i bentref di-nod. Ond tra’r aiff yntau ar gyfeiliorn, gan wynebu peryglon, fe gawn ninnau’n goleuo’n glir. Erbyn y diwedd, daw Brexit ac Ysbadadden Bencawr ynghyd i wneud synnwyr mewn byd-ben i waered.

Mae’r cynhyrchiad  aml-haenog, dwy-ieithog gan Invertigo Theatre (Y Tŵr) –  cwmni cysylltiol newyd Pontio – yn  hynod amserol, ac yn gadael argraff ddofn. Mae’r egni a gynhyrchir yn heintus dros ben, ond teg yw dweud,  mae gofyn canolbwyntio’n llwyr. Yn wir, mae gofyn cyfrannu, yn achos seinlun y sioe, a gofnodir ac a ddarlledir yn fyw o’n blaenau. Dan arweiniad hynod hoffus a charistmataidd Donnelly, recordiwyd curo dwylo, sgrech filain a llafarganu gan yr artist sain Jordan Mallory-Skinner (sy’n hollbresennol ar lwyfan). Mae’n brofiad diddorol, adleisiol dros ben, sy’n ategu at brofiad theatrig arbennig.

Teg dweud aeth rhai dyddiau wrth i mi gasglu nheimladau, ond dwi’n gadarn o blaid y cynhyrchiad. Mi fedra i gydymdeimlo â nghyfaill, fodd bynnag, a flinodd yn fuan a’r darn.  Rhaid bod yn ddisgybledig â chynhyrchiad o’r fatho ran y gwylio, a’r cyfarwyddo (gan Tara Robinson o The Conker Group).  O’m rhan i, dyma theatr sy’n herio go iawn – ond nid yw hynny bob tro at ddant pawb.

 

Y Ganolfan, Porthmadog (12th), Chapter, Cardiff (13th-14th), Riverfront, Newport (24th), Aberystwyth Arts Centre (25th), Galeri, Caernarfon (26th), Theatr Clwyd, Mold (27th-28th).

Leave a Reply