Hwyl diniwed llofft stabal, a hiwmor honco bost. Dyna, yn ei hanfod, oedd i ganfod yn Brêcshit, sioe glybiau newydd Theatr Bara Caws. ‘Ond och!’, medde chi, ‘beth am y teitl awgrymog, yn dychan cawlach gwleidyddol mwyaf ein cyfnod’? Erm, na, mae gen i ofn. Dim o’r fath beth. Yn wir, mae’r teitl mor gamarweiniol â’r hysbyseb bws bondigrybwyll, wnaeth addo achub y Gwasanaeth Iechyd o’i dwll ariannol.
Ag eithrio ambell i gag am Jacob Rees-Mogg, Michael Gove a Boris Johnson, stori am deulu fferm laeth dan bwysau a gawn, a’u hymdrechion i arallgyfeirio. Arallgyfeirio, meddech chi? Stori amserol dros ben pan gyflwynwyd cwotâu llaeth y Farchnad Gyffredin yn 1984. Ai profiad meta felly sydd yma, rhyw gip ôl-fodern ar smonach Brexit, sy’n rhoi sêl bendith ar y dyfarniad i adael yr Undeb Ewropeaidd?
Na, na, ac yn syml, na. Sôn am enghraifft o ‘or-feddwl’ gan feirniad theatr Cymraeg; dyma glasur o sioe glybiau Bara Caws. Ac er ei bod ar adegau yn teimlo fel adlais o’r archif, mae’n cynnwys dream-team o dalentau comig Cymraeg. Ar ben hynny, yn absenoldeb rhaglen ddychan ar S4C, rhoddwyd pin yn swigen nifer o enwogion. Dyma a lenwodd Clwb Rhyddfrydwyr Treganna, Caerdydd ym mis Mai, a chlybiau eraill, ar hyd y daith, oedd dan eu sang.
Doris Morris oedd arwres sgript slic John Glyn Owen (yma hefyd yn cyfarwyddo), a gyflwynwyd ag afiaith pur gan Gwenno Ellis Hodgkins; actores ragorol ac arweinydd heb ei hail ar ensemble ysblennydd o berfformwyr. Portreadodd benteulu fferm odro draddodiadol a drawsnewidiwyd yn ganolfan iachusol. Cynigwyd pob math o driniaethau ym Mryn Cwd yr Arian, i fynd i’r afael â straen bywyd cyfoes. I’r sylwebwyr pêl-droed Nic Parry a Malcolm Allen cynigwyd sesiwn o ‘colonic irrigation’. Ac argymhellwyd therapi dwys i’r Ysgrifennydd Gwladol Alun Cairns i fynd i’r afael â’i ‘small man syndrome’.
O gymorth i Doris yn ei menter cefn gwlad oedd ei meibion, John Robat a Robat John; efeilliaid unwy o anian wahanol, yn dro comig ar Cain ac Abel . Tra roedd y naill di mopio’n lan â chrochenwaith ac yn dotio at ei fam, roedd y llall yn gynllwyniwr twyllodrus, ac yn gaeth i internet porn. Ag yntau’n dyheu am gariad, daeth dan ddylanwad Saesnes rhonc, oedd yn ysu i gael ei bachau ar y fferm. Daeth Manon Elis â dos da o asbri Camilla Parker-Bowles i’w phortread o Samantha Stable-Mare, tra chwaraewyd y ddau frawd â swrealaeth pur gan y di-hafal Iwan Charles. A sôn am swrealaeth, cafwyd sylwebaeth ffyrnig o ffraeth gan y ffigwr trasig Tegid y Tarw/Falmai y Fuwch (Llyr Evans).
Dyna felly oedd sgerbwd sylfaenol y sgript, ond fel yn achos sioe glybiau gorau Bara Caws, cafwyd darnau blasus o gig ar yr asgwrn. Cyflwynwyd corwynt ryfeddol o cameos, wrth i’r actorion chwarae amryw o gleifion. Ymysg y doniolaf oedd dyn ag amryw bersonoliaethau, Rhys Meirion yn eu plith. Yma, rhaid cyfeirio at gorffolaeth Llyr Evans, a wigs a gwisgoedd gorffwyll gorwych y tîm cynhyrchu. Mae gan yr actor ddawn comig anhymig ar lwyfan a phresenoldeb peryglus o gynhyrfus; does wybod pa ystum ddaw ganddo nesa, neu ad-lib a ddaw o’i enau, er yn berfformiwr hael a chefnogol i’w gyd-actorion.
Ond efallai mai hufen y sioe oedd yr olygfa dosbarth ioga, dan arweiniad Kitty May (Manon Elis). Roedd yn braf i weld yr actores – sy’n gyfarwydd fel Michelle ar Rownd a Rownd – yn cael perchnogi cymeriad dros ben llestri, ar y cyd â’r dybl act orau yn y Gymraeg. Wrth i hithau blygu lawr a dangos ei ‘Chewbacca’ i bawb, cafodd Kitty fodd i fyw wrth arwain dau glaf wrth ‘ymestyn eu hadennydd ji-binc’. Roedd un o’r cleifion yn Brifardd rhwym â phastwn yn ei law (Llyr Evans), tra ‘Celt Cocên’, Cofi Dre go-iawn mewn tracwisg las oedd y llall (Iwan Charles).
Maddeuwch i mi am beidio a mynnu sylwebaeth wleidyddol graff o’r olygfa fendigedig hon. Fel yn achos ’Run Sbit, C’mon Midffild, a gweithiau gorau Elis James, byddai’n amhosib cyfieithu’r hiwmor honco bost a ddenodd ddagrau o lawenydd yn y dorf . Gwawriodd ystyr enw’r sioe arna i yn ystod cytgan ‘Rhedeg ‘fo Doris’ – anthem glo wyrdroedig Yr Anhrefn a fynnai bresenoldeb pawb (y ‘ddau’ Iwan Charles yn eu plith). Mewn cyfnod mor ofidus, mae dybryd angen codi gwên, a bu crio chwerthin yn Nhreganna am y tro cyntaf ers oes.
http://theatrbaracaws.com/portfolio/brecshit/?lang=en