Difa, Theatr Bara Caws, Neuadd Ogwen, Bethesda

November 17, 2015 by

‘Trasiedi yw bywyd yn agos; comedi yw bywyd o bell’; dyna grynhoi sefyllfa Oswald Pritchard, prif gymeriad drama newydd Dewi Wyn Williams, Difa, i’r dim. Dyfynnir llinell enwog Charlie Chaplin gan Rhodri Evan o Drewyddel; actor comig gorau Cymru ar hyn o bryd.

Mae honno’n un o nifer o linellau bachog y ddrama, sy’n dilyn llwybr meddwl dyn ar y dibyn. Cyflwyna’r actor o Sir Benfro bortread o gyfieithydd Cymraeg, sy’n gorfod dysgu byw â bwgan salwch meddwl.

Mae clyfrwch geiriol yr awdur profiadol yn brithio’r ddrama hon, gan gynnwys y teitl, gall olygu ‘dinistrio’ mewn un ffordd, neu berson oriog, sy’n waith caled, mewn ffordd arall. Mae’r ddau ystyr yn berthnasol i fywyd Os, sydd newydd gael ei ddiswyddo. Mae’n gorflino’i hun a phawb arall o’i gwmpas gyda’i ofnau a’i bryderon am gymdeithas gyfoes.

 

 

Un thema fawr yw ei anallu i ddeall, na derbyn, dulliau cyfathrebu’r oeswybodaeth sydd ohoni; tra fod yn well gan bawb o’i gwmpas decstio, gweplyfrio, neu skype-io’n ddi-feddwl, gwell gan Oswald fwynhau sgwrs gall. Fel y dywed ef yn bryfoclyd, ‘rhywbeth sydd i fod i wella cur pen yw tablet, nid rhoi cur pen.’

Ymestyna ei brofiad cynyddol o ddieithrwch o’r byd i hafan ei ystafell wely; dim ond wrth ’smalio bod yn TH Parry Williams y gall bellach fwynhau rhyw gyda’i wraig.

Wrth i’w bryderon gynyddu’n raddol o ffobia germau a chlostraffobia hyd at psychosis a rithweledigaethau byw, caiff y gynulleidfa rannu taith ei wewyr. Golygai hyn i ninnau hefyd golli ein gafael am ychydig wrth ddilyn llif meddwl bregus ein dewin Os.

Tra fod hanner cynta’r darn yn cynnwys deialog naturiolaidd, try’r ail hanner yn gynyddol ffrenetig, gan olygu na wyddwn yn iawn beth sy’n real, a beth sydd yn ei ben.

 

 

Ceir cefnogaeth gref o’i gwmpas gan ensemble gwych; yn portreadu Mona ei wraig y mae Bethan Dwyfor, sy’n cynhychioli dirgelwch mawr. Llwydda i hoelio’n sylw llwyr wrth stelcio’r llwyfan fel cath, gan fyrlymu o rywioldeb yng nghwmni pawb ond ei gŵr ei hun; sefyllfa druenus sy’n gyrru dychymyg Os ar garlam.

Fel Peter, mae Llion Williams yn ymgorffori rôl ddeublyg fel bos Os; ar ffurf bygythiad hierarchaidd y dyn Alpha goruwch, ond hefyd cysur ffrind bore oes. Mae’r ddau ar eu gorau yn cyd-adrodd jôcs yn null act gomedi vaudeville.

Catrin Mara sy’n perchnogi rhan fwyaf amwys y darn, wrth sefydlu’i hun fel y seiciatrydd, Dr King. Erbyn ail hanner y ddrama, hi sy’n personoli’r awgrym gryfaf fod Oswald Pritchard ar fin ei cholli hi’n llwyr – ond tybed a ydy hi’n rhy hwyr i Os?

Rhannai’r pedwar y llwyfan am ran helaeth y ddau hanner, gan olygu cyfarwyddo, a goleuo, deheuig; a serch gofod cymharol fychan, fe’n darlbwyllir ni fod yno  lolfa, ystafell wely a dau swyddfa, a hynny’n effeithiol iawn.

Yr awgrym cryfa ein bod yn trigo ym mhenglog Os yw’r ffaith fod pob dilledyn a dodrefnyn yn llwyd, ag eithrio sanau melyn llachar Pete. Yng nghefn y llwyfan fodd bynnag, ceir ffenest Os ar y byd;  symbol o obaith, gyda’i lliwiau achlysurol.

Cafwyd corwynt o berfformiad lawn pathos gan Rhodri Evan fel y Cymro trasi-comig. Nid clown ond dyn cyffredin – eich cymydog, eich brawd neu chi eich hun – sy’n methu’n lân ag addasu i newid .

Fel y gwelsom yn Gwaith / Cartref a chyfres gyntaf  Y Gwyll, gall yr actor hoffus hwn droi’n fygythiol ar amrantiad. Ar adegau, mae ganddo wên sy’n oedi rhag cyrraedd ei lygaid, gan ddychryn yn lân, neu ddenu’n cydymdeimlad.

Ar lwyfan, mae e’n rhagorol, a byddai’n talu i bawb ei weld yn Difa tra’i fod yn teithio ar hyn o bryd. Mae’r ddrama hefyd yn brawf o feistrolaeth Dewi Wyn Williams wrth gyfathrebu argyfwng hynod gyfoes yn glir. Ond serch ei thestun dwys mae’n ddrama ddigri dros ben, sy’n cynnig gobaith tra’n codi’r galon.

 

Leave a Reply