Dillad Newydd yr Ymerawdwr, Theatr y Sherman, Theatr Iolo,

December 13, 2016 by

 

 

Os am brofiad hudolus dros eich gwyliau Nadolig, profwch Dillad Newydd yr Ymerawdwr (Theatr Sherman a Theatr Iolo). Dyma sioe i blant bach, a’u perthnasau o bob oed, sy’n annisgwyl o amserol. Byddai’n buddio i ddarpar-Arlywydd croendenau yr Unol Daleithiau groesi’r Iwerydd i’w gweld, i ddysgu moeswers hynod werthfawr.

Mae Kare (Geraint Rhys Edwards), seren y sioe, yn fabi mawr sy’n gwrthod derbyn unrhyw feirniadaeth. Fe surodd y teyrn tra’n fachgen bach, pan syrthiodd ar ei din o flaen pawb. Ag yntau bellach yn ddyn, a control-freak o fri, mae’n meddwl llawer gormod ohono’i hun. Rywle, ar hyd y ffordd, fe gollodd ei sbri, gan fod mewn perygl o ddenu rhagor o anfri.

Ag yntau’n dwlu ar ddillad, mae’n galw am gerpyn cŵl; un pilyn i roi sglein ar ei ego. Daw dau da-i-ddim i glywed am hyn, a chynllwynio er eu budd eu hun…

Dyma addasiad  afieithus o  chwedl fythol-wyrdd Hans Christian Andersen gan Alun Saunders. Mae llais y dramodydd i’w glywed yn glir mewn sgript hynod ddisglair a direidus.

Croesewir y dorf i fyd ffantasi, a ddodrefnir gan wisgoedd ffansi; ffrogiau sgleiniog, crysau cain a gwn wisgo ffwr, i gyd mewn lliwiau sgleiniog aur ac arian. Ond serch oferedd yr arwyneb,  dyma sioe gynnil iawn diolch i gynllunio minimalistaidd Charlotte Neville. Adleisir hyn oll gan gyfarwyddo ysgafn-droed Kevin Lewis, sy’n arwain cast a chriw cwbl unedig.

Ceir llwybr o’n blaenau lle daw’r hanes yn fyw, trwy gyfrwng cân, dawns a cherddoriaeth fyw. Creir naws tra hamddenol trwy gydol o sioe, a chyfres o berfformiadau naturiolaidd.

Mae Geraint Rhys Edwards yn wych ar ei hyd, gan hudo’r dorf â’i ddawnio tap a’i sgiliau trwmped. Mewn perfformiad comig-gorfforol, try’r bachgen yn ddyn, ond llwydda i gynnal tristwch –  ac ofn –  y bachgen mewnol.

Prif gyfraniad Elin Phillips yw ei pherfformiad chwareus, ddaw â dos mawr o gynhesrwydd i’r cynhyrchiad. Ac fel yn achos Tobias Weatherburn – sy’n chwarae’i phartner deublyg  (fel rheini’r ymerawdwr a’r gwehyddion cyfrwys) – dengys ddawn am ddiddanu plant bach. Mae’r ddau gyda’i gilydd yn bleser i’w gweld, wrth charae cyfres o offerynnau cerddorol; rhaid canmol cyfarwyddo cerddorol Dan Lawrence, a melyster melodiau’r cynhyrchiad.

Atgyfnerthir y brif neges ym mhob agwedd o’r sioe gerdd; bod angen chwerthin ar eich hun cyn pawb arall. Gyda’i moeswers ganolog, dyma ddrama i godi’r galon; y sioe berffaith dros y tymor ewyllys da.

 

Leave a Reply