Drych, Frân Wen

September 19, 2015 by

Dwi dal braidd yn syfrdan ers profi’r ddrama Drych ym Mhwllheli yr wythnos hon. Yn wir, dwi’n dal i synfyfyrio dros gynhyrchiad newydd Frân Wen, a thalent aruthrol y dramodydd Llyr Titus.

Dim ond 22 mlwydd oed ydy’r brodor o Frynmawr ger Sarn Mellteyrn ar Benrhyn Llŷn. Ac eto, fe’m trywannwyd i, ac eraill, gan aeddfedrwydd ei ddawn dweud, ar noson gyntaf taith genedlaethol Drych.

Ie, drama abswrdaidd yw Drych yn y bôn, am hanes Dyn a Dynes; ond yng nghwmni comig cadarn Gwenno Ellis Hodgkins a Bryn Fôn, adlewyrchwn ar dristwch creulon y ddynoliaeth.

Mae’r cynhyrchiad yn cychwyn mewn tywyllwch pur, tra ffurfia gerddoriaeth wyrdroedig Osian Gwynedd seinlun sinistr, synhwyrus o’n cwmpas. Yn ymuno â’r sgor epig y mae sain anadlu dwfn, gan drempyn o ddyn dan gwfl; saif yntau mewn croes rhwng rhandir bler a phwll o gawl cyntefig. O’i gwmpas mae hen fath sinc, a wilber llawn sbwriel; gerllaw y mae cwt, wedi mynd â’i ben iddo, a drychau ar ffurf calchbyst (dan arweiniad y cynllunydd set Gwyn Eiddior).

Dechreua’r Dyn sgwrs â’i adlewyrchiad ei hun cyn daw Dynes ar ei draws. Ydy’r ddau yn briod, ynteu’n ddieithriaid pur, yn ffrindiau – neu’n waeth byth, ‘jesd ffrindia’?

Dim ond un o ddirgelion y ddrama hon yw statws eu perthynas; yn raddol bach, cawn ddysgu mwy am hanes y trueiniaid.  Profodd y ddau ergydion mawr, mae hynny’n saff,  gan beri iddynt gefnu ar gymdeithas.

A ydy hi’n ddechrau, neu’n ddiwedd y byd, fel yn The Road gan Cormac McCarthy neu When the Wind Blows Raymond Briggs? Un dasg sydd o’u blaenau, sef dod â’r nialwch ynghyd, yn y gobaith o gyflwyno trefn i’w bywydau.

Yr hyn sy’n eich denu chi falio am y ddau ydy’r deialog difyr rhyngddynt, sy’n dychan defodau a dywediadau bach bob-dydd, a’u troi tu chwithig allan drachefn. Dychmygwch Wrth Aros Godot yng nghwmni Ifas y Tryc a fyddwch chi ddim yn bell iawn ohoni.

Ond un peth yw cyflwyno drama newydd abswrdaidd i’r Theatr Gymraeg, peth arall yn llwyr yw hoelio sylw’r dorf, ac mae Drych yn sicr yn llwyddo o ran hynny. Heb gyfarwyddo mor glir gan Ffion Haf,  gallai sgript mor slic lithro’n hawdd o afael talentau llai profiadol.

Yn wir, daw pleser aruthrol o wylio dau actor deallus yn cloddio  haenau pellach o wirionedd o’r sgript. Mae Gwenno Ellis Hodgkins yn deimladwy tu hwnt wrth drafod sawl colled ddirdynnol. Cyffyrddir yn aml â thema salwch meddwl, ond gall pawb uniaethu â hi.

Bonllefau o chwerthin a gyfarchodd Bryn Fôn lawer gwaith, i’w ddehongliad o Gymro gwerinol. Swnia’n debyg, ar brydiau, i Trefor, o gyfres deledu Gwlad yr Astra Gwyn, gan ennill cydymdeimlad y dorf o’r dechrau. Ond dinoethwyd  y Dyn, a brawychwyd y dorf, gan berson a barlyswyd gan ofn.

Mae dylanwad Aled Jones-Williams, mentor diweddar Llyr Titus (fel rhan o gynllun Sgript i Lwyfan Cwmni  Frân Wen), yn amlwg, ynghyd â’r diweddar Wil Sam o Gricieth. Yn wir, cyfeiriodd Bryn Fôn yn chwareus at y dramodydd ifanc fel hybrid o’r ddau – croebeilliad o’r enw Aled Sam!

Hawdd hefyd fyddai disgrifio Drych fel ymateb cyfoes i Y Tŵr, fisoedd yn unig wedi taith afieithus o glasur Gwenlyn Parry gan gwmni Invertigo Theatre.

Ond un peth sy’n sicr; ni fydd angen cymharu’r dramodydd eofn hwn â’r mawrion hyn am hir; wedi’r cyfan, cipiodd y Goron a Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd cyn iddo droi’n ugain oed.

O dystio i’w ddrama gyntaf, fydd hi ddim yn hir iawn nes i Llyr Titus droi yn gawr yn ei hawl ei hun.

 

 

Leave a Reply