Gair o Gariad, Theatr Bara Caws

May 29, 2017 by

Wnes i erioed ddisgwyl rhannu slow-dance yn Llangefni â Lleuwen Steffan ond dyna’n union wnes i’r wythnos hon. Dim ond un o syrpreisys bychain Gair o Gariad (Theatr Bara Caws) oedd hyn, mewn cynhychiad annisgwyl dros ben. Mae’n berfformiad sy’n dathlu cariad yn ei holl amrywiol ffyrdd, dan arweiniad dau ‘gariad’ cerddorol.

Chwaraeir y ddau gan Lisa Jên a Carwyn Jones, ond mae gofyn cyfraniad mawr gan y dorf. Nid yn unig wrth rannu ceisiadau cerddorol o’r galon, ond wrth agor eu hunain i brofiad theatr anghyffredin. Addasiad yw’r sioe o gynhyrchiad Love Letters Straight From Your Heart gan gwmni Uninvited Guests ym Mryste, fu’n teithio’n gyson ers dros ddeng mlynedd. Mae i’r sioe apêl boblogaidd, ag iddi ogwydd bersonol, sy’n benthyg ei hun yn naturiol iawn i’r Gymraeg.

Croesewir y gynulleidfa i ganolfan benodol, cyn derbyn glasied o ddŵr neu Prosecco. Dan oleuadau pefriog, arweinir pawb at ddau fwrdd hir , i eistedd lawr a gwynebu dieithriaid gwahanol. Yng nghanol hyn oll, eisteddai Carwyn a Lisa fel dau DJ  yn gwynebu ei gilydd. Am ychydig dros awr, ceir sioe geisiadau wefreiddiol, sy’n annisgwyl o ddigri a dirdynnol.

Dyna grynodeb arwynebol o brofiad hyfryd tu hwnt, sy’n cynnig coflaid i galon y gwyliwr. Â minnau newydd fy siomi gan ddiffyg gwefr Y Tŵr, teithiais yn bell, i Langefni, am chwa annisgwyl. Wimpiais allan, fel adolygydd, o’r cynnig torfol i gyfrannu cais (ac esboniad)  o flaen llaw, ond cyfranodd nifer yn yr ystafell – o’r gynulleidfa i’r criw cynhyrchu – brofiadau syml a theimladwy.

 

 

Chwaraewyd amrywiaeth o ganeuon yng Nghanolfan Ebeneser, gan bawb o Whitney Houston i Llwybr Llaethog. Ond â ninnau yn Llangefni, cafwyd sawl cais addas iawn, fel recordiad o emyn mewn cymanfa ganu leol.  Ac wedi i’r gynulleidfa gyfarwyddo ac addasu i’r sioe, fe’n heriwyd ymhellach i syllu  i lygaid y dieithryn gyferbyn â ni. Chwaraewyd y gân serch ‘Cofio Dy Wyneb’ gan Bryn Fôn a Luned Gwilym, a gofynnwyd i ni archwilio ein teimladau.

Wel sôn am siwrne o brofiadau, o chwerthin afreolus ac embaras pur, i atgyfodi hen atgofion hir-golledig. Â minnau’n llwyr grediniol nad oeddwn i’n gyfarwydd ag Ynys Môn, ces fy nhrywannu gan atgof o daith o Gaergybi. Dros ddegawd yn ôl, yng nghwmni cariad mawr, ro’n i’n gyrru ’nôl o wibdaith i Ddulyn. Wrth groesi Pont Menai, daeth y gân ar y radio, gan selio ffawd y berthynas honno i’r dim.

Wedi’r arbrawf heriol hwnnw, ymlaciodd y dorf ymhellach, gan fwynhau ‘r gerddoriaeth, a hefyd y ‘ddrama’ rhwng dau gariad o’n blaenau. Tanlinellwyd grym cerddoriaeth i fynegi teimladau dwys gan nifer o’r ceisiadau a chwaraewyd. O gariad at ffrind, neu gymar neu nain, cydiodd pob cais yn dynn yng nghalonau pawb oedd yno.

Yn bersonol, fe’m cipiwyd yn ôl gan bŵer y sioe, i ddyddiau’r Love Hour ar Red Dragon FM.  Bryd hynny, yn fy arddegau, allwn i ddim dychmygu gwneud rhywbeth mor gawslyd o gyhoeddus, â datgan fy nghariad angerddol wrth bawb. Ond i nifer, dim ond cerddoriaeth all gyfleu’r teimladau hyn; nid yw geiriau’n dod yn hwylus i bawb.

 

 

Profwyd hyn gan Lisa Jên, ar achlysur un datganiad, a ddwyshawyd gan ‘atal dweud’ emosiynol; fe arweiniodd yr ‘anhawster’ hwn at berfformiad tyner, a capella, o ‘Y Teimlad’ gan Datblygu . Yn achos Carwyn Jones, fe’i heriwyd i ddawnsio i Ebeneezer Goode gan The Shamen i ddatgan cariad torfol at y gynulleidfa. Ac fe chwaraeodd Sandstorm gan Da Rude, oedd yn ffefryn gyda’i wraig; ‘rwtsh llwyr’ oedd ei farn bersonol ef o’r trac, ond fe’i chwaraeai am ei fod yn ei charu hi.

Wrth neidio ’nol a mlaen rhwng yr actorion a’u cymeriadau, doedd y ddrama ganolog ddim yn amlwg bob tro. Serch hynny, roedd y cemeg rhwng y ddau actor yn hollbresennol, wrth archwilio nifer o sefyllfaeodd gwahanol. Un haen a archwiliwyd oedd perthynas gyd-ddibynnol, oedd yn ddramatig a dinistriol ar adegau. Amneidiwyd o Heroes gan David Bowie, i Tainted Love gan Soft Cell gan orffen â Love Will Tear Us Apart gan Joy Division.

Daeth y sioe gorfforol hon i ben â dawns dorfol i Llwybr Llaethog a Delyth Eirwyn – Blodau Gwyllt y Tân. Gadawodd pawb a llygaid sgleiniog, a gwên lydan yr un – a diolch i Lleuwen am gynnig dawns gyda mi! Dan gyfarwyddyd Betsan Llwyd, fe lwyfannwyd sioe unigryw, oedd yn rhodd i bobol Llangefni a thu hwnt. Ceir ‘playlist’ a phrofiadau amrywiol ar gyfer pob lleoliad gwahanol, felly, da chi, mynwch docyn i sbario tor-calon!

Leave a Reply