Gair o Gariad, Theatr Bara Caws, Eisteddfod Genedlaethol

August 10, 2018 by

Mae’n gwneud synnwyr pur i mi fod Theatr Bara Caws yn ail-lwyfannu Gair o Gariadwythnos ’steddfod. Oes na un achlysur arall yn niwylliant yr iaith Gymraeg sy’n ymdebygu i fformat ffilm Love Actually? Mae’r ‘Maes’ blynyddol ei hun yn bair o atgofion lu, yn faes cad  sy’n orlawn o ysbrydion o’r gorffennol. Yn wir, fe welais yn Bar Syched lond dwrn o gyn-gariadon, gan rannu llwnc destun yn llawen â nhw ar b’nawn Sul. Ond erbyn bore Llun, bu’n rhaid osgoi cyn-gariad mawr, gyda’r boen yn dal rhy fyw i siarad gwag.

Ar ben hynny, mae’n wythnos fawr i genedlaethau o deuluoedd, gan gynnig llwyfan i aduniadau lu. Daw pob acen a gwyneb ag adlais o’ch plentyndod, dyddiau ysgol a chyfnod coleg. Rhwbio halen yn y briw wnaiff ambell gyfarfyddiad, rhwng siomiannau a threialon mawr bywyd. A gall alar chwarae’i ran, yn absenoldeb rhai – ynghyd â chynnwrf a thensiwn rhywiol pur annisgwyl. Ond rhwng lefelau hormonau Maes B a’r croeso i Geraint ‘Titw’ Thomas o flaen y Senedd, un peth sy’n sicr; mae Prifwyl eleni yn yn byrlymu o gariad.

Profais hynny fy hun droeon yr wythnos hon,  mewn Steddfod sydd wedi cael gafael ym mhawb. Bu’n wythnos i mi, o feddwl am Mam– a fu farw bedair mlynedd union y ol. Ond cefais hefyd ddiwrnod arbennig yn dathlu â’m teulu a’m ffrindiau, ar achlysur fy niwrnod pen blwydd. Ar ben hynny, fel ‘merch y ddinas’, roedd cael edmygu pawb o ngwmpas – boed yn newydd-ddyfodwyr neu’n siaradwyr Cymraeg – yn cyd-fwynhau yn falm i’r enaid. A bydd anthem swyddogol yr wythnos – ‘Bae Bae Bae’ gan Gruff Rhys –  yn gofrodd soniarus i bara am byth.

Rydw i eto, felly, i brofi ecstrafagansa theatrig i gystadlu â ‘drama fawr’ bywyd y Maes. Felly dihangiad pleserus oedd ymweliad â Threganna ar gyfer cynhyrchiad sy’n dathlu cariad o bob math. Llwyfanwyd y sioe yn wreiddiol dros flwyddyn yn ôl yng nghwmni Lisa Jên Brown a Carwyn Jones. Ail-gastiwyd y sioe eleni, felly yn Chapter cawsom gwmni Lleuwen Steffan a Rhodri Siôn.

Mae asgwrn cefn y sioe yn debyg iawn eleni, ond mae natur ‘fyrfyfyr’ ( i raddau) y cynhyrchiad yn golygu fod pob llwyfaniad yn wahanol. Yn fras felly, cawn gyflwyniad i ‘Lleuwen’ a ‘Rhodri’ – fel eu hunain, yn anffurfiol, ond hefyd fel dau gymeriad dychmygol, sy’n rhannu carwriaeth fawr. Wrth ail-ddarllen y frawddeg honno, mae’n taro’n gymhleth iawn, felly gadewch i mi symleiddio pethau ymhellach; dychmygwch ddau DJ rhaglen radio ‘Love Hour’, sy’n cynnal perthynas danbaid â’i gilydd, wrth gyflwyno ceisiadau’r gynulleidfa – sef aelodau’r dorf.

Dydy hynny dalddim cweit yn taro deuddeg, nacydi… yn syml, rhaidi chi brofi ‘Gair o Gariad’ eich hun i ddeall gwerth sioe ddymunol dros ben. Ond mae’n gofyn cryn dipyn gan ei chynulleidfa Gymraeg, i agor eu meddyliau a’u calonnau, ac i rannu profiadau, o’r hwyliog i’r dirdynnol iawn. Mae na lawer sy’n ‘uwch-real’ am fanylion y sioe, ond mae’n gynhyrchiad sydd wir â’i draed ar y ddaear. Fel sesiwn therapi dwys, neu noson dda yng nghwmni ffrind, mae’n brofiad cathartic sy’n rhoi andros o hwb i’r galon.

Clywyd cyfres o ganeuon, am amrywiol resymau, a dderbyniwyd fel ceisiadau, o flaen llaw. Roedd rhai yn anhysbys, ond sgwennwyd pob un gan bobol oedd yn bresennol yn y ‘dorf’. O Ffa Coffi Pawb, i ‘Misty’ gan Errol Garner, cawsom yn aml ein cyffwrdd i’r byw. Clywyd hefyd  deyrngedau i chwaer fach a  brawd mawr – ac un cais oedd yn wenfflam o nwy gwenwynig i ‘ex’, a hynny ‘am fod yn gymaint o fastard’! Bu i mi hefyd gyfrannu cais, ac roedd yn brofiad pwerus clywed fy ngeiriau ar y cyd â chân cwbl annisgwyl, ond addas iawn.

Nid yn unig y mae pob perfformiad yn gwbl amrywiol, yn seiliedig ar geisiadau gwahanol; ond creir egni unigryw gan bob torf wahanol, a rhaid dweud, roedd criw pnawn Mercher yn llawn hwyl! Darganfuais wrth rannu ‘dawns gyntaf’ â’r awdures Haf Llewelyn a’i gŵr (‘you had to be there’, ys dywed y Sais!), mai eu mab oedd y Ned yn y fideo Eisteddfodol a aeth yn ‘feiral’ar-lein  y bore hwnnw, ac y bues i’n eistedd nesaf i rieni’r seren, Pwyll! Roedd y bocsys o hancesi ar bob bwrdd yn hynod handi, ond bu chwerthin braf yn ogystal ar hyd y sioe. Hefyd, yn holl-bresennol, oedd gwefr wirioneddol rhwng Lleuwen Steffan  a Rhodri Siôn.

Yn ogystal â’r ceisiadau, y darllenodd y ddau o bendraw’r ystafell i’w gilydd, oedd cyfleon i ni ymgolli yn y ‘garwriaeth fawr’ rhyngddynt. Bu’r elfen oleuo yn allweddol yn hyn, wrth lywio’n sylw at y naratif nadreddog. Doedd dim llawer o sgript, ond rhannodd eu llygaid gyfrolau, a’u cyrff, wrth redeg a dawnsio’n afreolus. Trodd y ‘meet-cute’o flaen coelcerth ar Maes B 1997 yn raddol yn ramant rwystredig; cafwyd cliwiau am y rhesymau yn achos anallu un ohonynt i fynegi mewn geiriau, gwir ddyfnder eu teimladau. Datblygodd  y rhamant yn docsic, dan gysgod amheuaeth, cyn cael aduniad – a diweddglo amwys – dan ffrwydriad o flodau a ‘party poppers’. Datgelwyd y cyfan trwy gyfres o ganeuon, o’r Cyrff i Joy Division.

Cynigodd y ddau dalentau unigryw; roedd ‘dawns’ Rhodri Siôn yn fynegiant eofn, a thrydanol, a pherfformiad Lleuwen ar ei gitâr o’i chân Tír na nÓg yn foment gyfareddol. Plethwyd hyn oll ag anthemau fel  ‘Strydoedd Aberstalwm’gan Alun ‘Sbardun’ Huws ac ‘Angor’ Emyr Huws Jones, wnaeth atgoffa’r dorf o’r colledion enbyd a ddioddefodd Cymru, a Bara Caws, yn ddiweddar. Roedd yn brofiad holistig, a hynod therapiwtig, a gadawodd pawb â llygaid llaith a gwên fawr.

https://eisteddfod.wales/2018-eisteddfod/additional-events-details/gair-o-gariad

 

https://www.asiw.co.uk/about-us

Leave a Reply