Gwyl Caeredin

September 4, 2015 by

Dwi newydd ddychwelyd o Gaeredin, dinas ragorol i ymweld â hi ym mis Awst, pan gynhelir gŵyl gelfyddydol ryngwladol ar hyd ei strydoedd. Fel rhan o’r dathliadau ceir comedi, llên a chelf, a llond y lle o weithiau theatr, a lwyfennir fel rhan o’r ŵyl boblogaidd ‘ymylol’.

Dydw i erioed wedi deall union ystyr y teitl, gan mai’r Fringe sydd wrth galon yr ŵyl, ac sy’n meddiannu pob eglwys, clwb nos, a phob modfedd o’r Royal Mile, wrth gynnal ymhell dros 3,000 o ddigwyddiadau. Dyma’r drydedd tro i mi i ymweld â’r ‘Fringe’ i adolygu’r cynyrchiadau Cymreig, sy’n denu miloedd o ymwelwyr rhyngwladol yn flynyddol. Dros gyfnod o ddeuddydd profais amrywiaeth o gynyrchiadau; o weithiau newydd sbon, fydd yn teithio Cymru dros yr hydref, i hen ffefrynnau sy’n dal i ddenu diddordeb.

Un rheswm pam yr ariennir showcase o’r fath o dalentau Cymraeg a Chymreig, yw i estyn gorwelion y cwmniau a’u cynulledifaoedd, yn y gobaith o apelio at farchnad theatr ehangach. Profodd Llwyth (Theatr Genedlaethol Cymru) daith lwyddiannus iawn i Taiwan, yn dilyn cyfnod yn Eglwys St George’s West yn 2011, ac eleni mae na eisioes sibrydion y bydd cynhyrchiad Grav (Torch Theatre) yn teithio i Awstralia cyn bo hir, wedi llai na mis ger y Mound. Ond i’r sŵ yr es i ar ôl glanio peth cynta, i brofi’r nesaf peth at rave ganol bore, a ngadawodd i mewn perlesmair llwyr.

Dawns Ysbrydion

Dan sylw’r Theatr Gen yn Zoo Southside oedd Dawns Ysbrydion; cynhyrchiad tanbaid, trydanol a threisgar i godi croen gwydd. I nodi hannercanmlwyddiant boddi Cwm Celyn eleni, i dorri syched trigolion Lerpwl, estynnwyd gwahoddiad i goreograffydd o Montreal, Sarah Williams, i blethu dawns a cherddoriaeth byw, i gyfosod hanes cyffredin dau ddiwylliant leiafrifol. Benthycwyd y cysyniad o ‘Ddawns Ysbrydion’ gan lwythi brodorol Gogledd America, a fabwysiadodd y ddefod tua diwedd y 19eg Ganrif. Gwynebodd y llwythi fygythiad cynyddol wrth i fewnfudwyr Ewropeaidd reibio eu tiroedd, eu ffynhonellau, a’u traddodiadau, a hynny gyda bendith y Llywodraeth, ‘er lles y mwyafrif’. Arweiniodd y ‘dawnsio’ hyn – wnaeth bara am rai dyddiau – at stâd o berlewyg ac ewfforia llwyr, wrth i’r brodorion brofi rhithweledigaethau, gan weld yn bell i ddyfodol llawer gwell.

 

Eddie Ladd, Dawns Ysbrydion

 

Dan arweiniad ffyrnig Eddie Ladd – yng nghwmni Anna ap Robert ac Angharad Price Jones – llwyfannwyd protest weledol ar ffurf gosodwaith dawns, i gyfleu stori dorcalonnus dau ddiwylliant dan ormes. Penllanw’r cynhyrchiad oedd chwalfa llwyr; storom eira o ecstasi pur, wrth i’r merched gyrraedd crescendo tangnefeddus, a gyflyrrwyd gan set gerddoriaeth electro byw gan Y Pencadlys. Bydd y daith Gymreig yn cychwyn ym mis Tachwedd yn Galeri Caernarfon, gan barhau i deithio ledled Cymru wedi hynny. Coeliwch chi fi, mae’r cynhyrchiad hwn y siwr o rannu cynulleidfaoedd Cymreig yn ddwy. Os nad ydych chi’n hoffi cael eich herio gan y theatr, ac yn casau sain gwichian polystyrene, wel cadwch draw, da chi! Ond os am brofiad unigryw, i gyffwrdd â’r galon a’ch gwefreiddio chi’n llwyr, dyma’n sicr yw’r cynhyrchiad i chi. Ychydig oriau wedi hynny profais gorwynt o berfformiad , a gipiodd brif wobr The Stage am actores orau yr ŵyl ymylol, gan Sophie Melville o Abertawe, a chwaraeodd ran Iphigenia in Splott. Collais y cynhyrchiad hwn ar ei lwyfaniad cyntaf yn Sherman Cymru, Caerdydd ym mis Mai, ond soniodd cyfeilles i mi ar y pryd mai dyma’r peth gorau iddi weld ar lwyfan y theatr yng Nghymru erioed. Wedi i mi brofi’r ddrama drosta i fy hun, mae’n anodd iawn anghytuno â hi. Dyma’r nesaf peth at Llwyth gan Dafydd James yn y Saesneg, yn fy marn i, wrth i’r Effie eofn ein tywys ar wibdaith ar hyd strydoedd Caerdydd, gan godi’r llen ar fyd o boen, cyn cynnau coelcerth o benawdau brawychus y papurau. Llwydda’r hunllef o ferch ein denu ni fewn i’w hanes, cyn ein poeri ni allan drachefn. Y mae’r ffaith y cafodd y gynulleidfa ei chyflyrru i godi fel un ar y diwedd, i gyfarch Ms Melville â bonllefau o gymeradwyaeth ar ei storom berffaith o berfformiad, yn dweud cyfrolau am darnafollt o ddrama Gary Owen. Fe’i hysbrydolwyd gan chwedl Roegaidd am aberth erchyll merch Agammemnon a Clytemnestra, er budd ei chymdeithas hi. Mae’r diweddariad cyfoes hwn yn siarad yn uniongyrchol gyda, ac ar, ran dosbarth gymdeithasol sydd ar ei gliniau yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, ac yn damnio’r drefn bresennol mewn cryn steil Yn syth wed’i llwyddiant aruthrol yr wythnos ddwetha – dan arweiniad cyfarwyddwraig artistig newydd Sherman Cymru, Rachel O’Riordan – mae’n dychwelyd i’r Sherman yng Nghaerdydd yr wythnos hon. Fy nghyngor, yn syml, yw gwnewch bopeth y gallwch chi i gael gafael ar docyn rhwng Medi 1-5, 2015; wnewch chi’n sicr ddim difaru.

Sophie Melville, Iphigenia in Splott

Profais sawl perfformiad arall gan actorion o Gymry a greodd argraff anferthol arna i. Enillydd y wobr am Actor Gorau Gwobrau Theatr Cymru 2015 yn un, sef Robert Bowman, am ei waith clodwiw yn Diary of a Madman (Living Pictures). Mae treulio ychydig dros awr ym mhresenoldeb actor o’r fath yn brawf o werth gwefr theatr byw. Yn y cynhyrchiad un-dyn caboledig hwn – sy’n addasiad o stori fer gan y Rwsiad Nikolai Gogol – cynigodd y Cymro gip o’r newydd ar gymeriad truenus Poprishchin, gwas sifil sy’n dewis cefnu ar ragrith ei gymdeithas, wrth ddianc i fyd o ffantasi. Cafwyd gan Bowman bortread llawn pathos o enaid coll a gaiff ei sathru gan y system, ac fe’i wobrwywyd gan gyfres o adolygiadau pum seren ar hyd mis Awst. Bydd cyfle eto i’w weld yng Nghymru cyn bo hir.

Robert Bowman, Diary of a Madman

Agoriad llygad o berffomiad a gafwyd gan yr actor Gwydion Rhys, a welwyd yn ddiweddar ar S4C fel y pwdryn o gyfreithiwr yn Parch a twpsyn y pentre yn Cara Fi. Yn To Kill a Machine (gan gwmni Scriptography), roedd yn aruthrol fel yr athrylith Alan Turing – a chwalodd gôd Enigma y Natsiaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan arwain y Cynghreiriaid i lwyddiant, ond a fradychwyd yn gïaidd gan y wladwriaeth am wrthod gwadu’i rywioldeb. Gydag ensemble gwych o’i gwmpas, cafwyd y cyfle i werthfawrogi gwir drasiedi, wedi i Hollywood wyrdroi y ffeithiau er budd masnachol yn The Imitation Game gyda Benedict Cumberbatch. Doedd dim achos o gwbl i gyflwyno stori ysbîo yn nrama ddynol, ddeallus Catrin Fflur Huws – sy’n ddarlithwraig yn adan y Gyfraith ym mhrifysgol Aberystyt; dim ond fframio’r ffeithiau moel mewn ffordd hynod afaelgar. Er iddi deithio’n helaeth ers diwedd 2012 – ar achlysur canmlwyddiant geni Alan Turing – bydd cyfle yn sicr, i gynulleidfaoedd Cymreig weld To Kill a Machine unwaith eto yn fuan.

Gwydion Rhys, To Kill a Machine

Un o bleserau mawr gŵyl ymylol Caeredin yw taro ar gynhyrchiad ar hap; a dyna’n union sut glywais i am gynhychiad fydd i’w gweld ledled Cymru yn fuan, I Loved You And I Loved You (cwmni Sweetshop Revolution) sy’n adrodd hanes arwres Gymreig; y gantores a’r gyfansoddwraig o Drefforest, Morfydd Llwyn Owen, oedd â’i gwreiddiau’n ddwfn yn ogystal yn Sir Drefaldwyn. Er i Eigra Lewis Roberts ddenu tipyn o glôd am y nofel Fel yr Haul eleni (sef fersiwn ffuglennol o fywyd Morfydd Llwyn Owen), ychydig iawn o bobol sy’n gwybod ei hanes hynod, gan gynnwys dirgelwch ei marwolaeth yn 26 mlwydd oed yn 1918. Codi’r llen wnaeth y cynhyrchiad hudolus hwn – a gyflwynwyd ar ffurf dawns a cherddoriaeth y Gymraes – ar flynyddoedd olaf ei bywyd, pan oedd ei chalon yn rhwyg rhwng dau ddyn dylanwadol; ei gŵr, y seicdreiddiwr Ernest Jones – protégé a chofiannydd Sigmund Freud – a’r gwleidydd carismataidd Eliot Crawshay-Williams. Gyda chast atyniadol o dalentau ifanc (dan arweiniad Faith Prendergast fel Morfydd), cynigwyd gwledd yn wir i’r llygaid, a diolch i drefniant newydd o gerddoriaeth y Gymraes (gan y pianydd Brian Ellsbury), cynigodd I Loved You and I Loved You brofiad theatrig pur amheuthun.

I Loved You and I Loved You

Os oedd Dawns Ysbrydion yn gynhyrchiad ffyrnig o ffrenetig, roedd hwn yn hypnotig o erotig, wrth i ryw chwarae’i ran mewn amryw ffyrdd, i gyfeiliant llais peraidd y soprano Ellen Williams. Llwyfanwyd y cynhyrciad eisioes yn Theatr Harlech, ond bydd na gyfleoedd pellach i brofi’r gwaith yng Nghymru yn yr Hydref, gan gynnwys Canolfan Taliesin Abertawe (Medi 17), Galeri Caernarfon (Hydred 10) a Chanolfan y Mileniwm, Caerdydd (Tachwedd 22). Cafwyd pwyslais, yn wir, ar gynyrchiadau dawns o Gymru eleni, gan gynnwys My People – dehongliad Gwyn Emberton o gymeriadau’r awdur dadleuol Caradoc Evans, y bu i mi golli yn anffodus, oherwydd gwrthdrawiad â chynhyrchiad arall. Yn ffodus, fe welais i’r dawnsiwr hwn ar y cyd ag Eddie Ladd yn y cynhychiad Caitlin (Light, Ladd & Emberton), am y ddawnswraig ifanc, ysgafndroed, a roddodd ei breuddwydion i’r neilltu pan briododd hi â’r bardd o Abertawe, Dylan Thomas. Sôn am gofnod cignoeth o ddadrithiad trwy ddawns, wrth i’r ddau fynd i’r afael â’i gilydd; fframiwyd y cynnwys cythryblus gan gyfarfod AA, lle cafodd Caitlin fwrw’i bol, a rhannu’r rhwystredigaeth o ddarostwng ei hun yn emosiynol ac yn greadigol er lles ei pherthynas fregus â godinebwr. Yn fy marn i, aiff y wobr anrhydeddus am ‘wariar’ yr wythnos i’r trysor cenedlaethol Eddie Ladd; gyda’i choesau’n gleisiau i gyd, fe roddodd hi’r cyfan i Caitlin, oriau’n unig ar ôl creu terfysg gyda’r Theatr Gen. Fel yn achos y gwaith diweddar Triptych (hefyd gan Gwyn Emberton), a archwiliodd gymhlethdodau PTSD, llwyddodd y ddeuawd danbaid hon i fynegi holl anawsterau byw a charu yng nghysgod alcoholiaeth, gan danlinellu’r linell denau a geir rhwng mwythau a mygu. Wedi’r flwyddyn o ddathlu Dylan hyd syrffed, hynod braf oedd cael ffocysu ar stori Caitlin. A dim rhyfedd mai’r gosodwaith hwn – dan gyfarwyddyd Deborah Light – a gipiodd y wobr am y Cynhyrchiad Dawns Gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru 2015.

Gwyn Emberton, Eddie Ladd, Caitlin

Un gair olaf cyn cloi’r adolygiad i ganmol cynhyrchiad bypedau i blant, ac oedolion, o bob oed; Land of The Dragon / Gwlad y Ddraig gan gwmni Puppet Soup, a fu’n teithio ledled Cymru eleni. Llwyfanwyd y sioe ddymunol hon yn y Scottish Storytelling Centre ar y Royal Mile; canolfan sy’n cynnal traddodiad llafar yr iaith Aeleg, a Saeneg a Scots. Gwyrdroad o stori Gelert a gafwyd – â diweddglo tipyn mwy sionc! – gan bedwarawd o fri (gan gynnwys Tamar Williams a Heledd Gwyn ), a lwyddodd i’n swyno gan awr o swigod, a hud a rhyfeddod.

Er mod i wedi fy llorio’n llwyr ers dychwelyd o’r Wyl, fe hoffwn eich annog chi gyd i ystyried taith i Gaeredin i leddfu’r hen iselder ôl-eisteddfodol, mewn prifddinas ryngwladol ag iddi awyrgylch egnïol, sy’n ymhyfrydu yn ei hyder ei hun. Bu’n gyfle gwych am chwa o awyr iach, ac i brofi rhai o ffrwythau’r hydref, yr hyderaf fydd wrth ddant cynulleidfaoedd Cymreig dros y misoedd melys i ddod.

Leave a Reply