Henffych wanwyn! The Harri-Parris

April 13, 2015 by

Henffych wanwyn! Ydy, mae’r gaeaf garw drosodd a’r wyn yn prancio’n braf – ond nid y gwcw oedd i’w glywed yng nghanolfan Chapter cyn y Pasg. Bonllefau o chwerthin a groesawodd yr Harri-Parris, a’u sioe ddiweddaraf The Big Day, gynigodd gip ar eu bywyd honco bost ym mherfeddion Sir Benfro.

Fe’n cyflwynwyd i’r teulu gwallgof hwn ‘nol yn 2013, ar achlysur parti ffarwel i Anni’r ferch yn The Leaving Do. Cefnodd, bryd hynny ar fwg mawr Llundain, er mwyn aros ar y fferm yn Llanllai. Ond tra ar sesh ym Manceinion gyda’r Clwb Ffermwyr Ifanc, fe gyfarfuodd hi â chariad ei bywyd – sef y rheswm am barti priodas The Big Day.

Unig rwystr Anni (Llinos Mai) rhag priodi â Ben (Oliver Wood) yw’r ffaith nad ydyw wedi cwrdd â’i theulu eto; wrth i’r sioe fynd yn ei flaen, fe ddaw’r rhesymau am hynny’n glir. Enw band indie Ben yw Puppy Phat, ac mae ei het yn cuddio mohican. Ond yn waeth na’r ffaith ei fod yn Sais? Mae Ben yn llysieuwr.

Er fod Deiniol (Rhys ap Trefor), cefnder Anni, wedi cynhyrfu’n lân ac wedi trefnu priodas thema ar eu rhan, does gan Ifan (Dan Rochford), ei brawd swrth, ddim amynedd â dyn sy’n cam-yngangu ei enw. Ond wedi ceisio’i gorau glas i ddangos croeso Cymreig, yr hyn sy’n gyrru ei Mam, Glen (Rhian Morgan), yn benwan yw annallu Ben i ddeall y gwahaniaeth rhwng mintai Merched y Wawr ac aelodau’r W.I. Ar ben bob dim, mae’r syniad o weini cacen foron mam Ben i’r gwesteion yn ddigon amdani.
Trwy gyfrwng cyfres o ganeuon sionc, mewn arddulliau cynyddol swreal (sy’n cynnwys Banghra boncyrs Boncath-style) fe ddown i gredu nad oes gobaith caneri i’r ddau. Ond tybed all cariad oresgyrn eu rhagfarnau rhonc?

Pleser mawr oedd ail-afael yn anturiaethau yr Harri-Parris, fydd i’w clywed cyn hir ar BBC Radio Wales. Mae’n gynhyrchiad sy’n pwysleisio gwaith ensemble ar ei orau.

Wedi eistedd yn y dorf ar gyfer y cynhyrchiad cyntaf, cysylltodd Rhian Morgan â’r awdures Llinos Mai i ddweud y dwlai hi ran yn nilyniant The Leaving Do. Wel, gofynnwch a chwi a gewch; derbyniodd berl o ran yn achos Glen, ail-ddiffiniad o’r Fam Gymreig, sy’n plethu’r annwyl a’r anarchaidd, a hynny’n bur lwyddiannus.

Braf iawn oedd croesawu Rhys ap Trefor yn ôl, fel Deiniol, y cefnder cecrus, sy’n llawn llinellau bachog, â gafael tynnach na’i leggings lycra.

Mae gan Dan Rochford y ddawn anesboniadwy i droi’r Ifan aflan yn Adonis mewn oferôls; diolch i amseru comig anhymig, llwyddodd i hudo’r dorf â rap trachwantus a unodd Barry White â Goldie Lookin Chain, dan gyfarwyddyd cerddorol meistrolgar Dan Lawrence.

Gwnaeth Oliver Wood waith da i ddenu cydymdeimlad y dorf, fel y llysieuwr lliprynaidd o Loegr. Ond arwres y sioe , yn naturiol ddigon, yw Llinos Mai fel Anni. Wrth godi’r llen â chrechwen ar wallgofrwydd ei ‘theulu’ hi, dadlennir normalrwydd newydd y Gymru gyfoes.

Er yn gynhyrchiad llwyfan Saesneg, mae’n sioe sy’n ddathliad o’r iaith Gymraeg, a’r holl elfennau diwylliannol sy’n mynd lawlaw â hynny. Ond does dim angen bod yn hannu o wlad y Wês Wês i ddeall eiliadau o’r comedi euraidd, fel ffordd gwallgo’ Glen o ffarwelio â’i ffrindiau ar y ffôn.
Cynigir hefyd ddosbarth-meistr gan Anni mewn cyfieithu-ar-y-pryd, yn achos ei throsiad o rigwm eiconig. Rhodd ddiplomyddol i wleidyddiaeth rhyngwladol fyddai danfon ei fersiwn unigryw hi o ‘Morus y Gwynt ac Ifan y Glaw’ i’r Dwyrain Canol.

Gwnaeth synnwyr pur i Llinos Mai o Gasmael archwilio’i magwraeth fferm nid nepell o linell y Landsker – y rhaniad hanesyddol yn Sir Benfro sy’n gwahaniaethu’r fro ogleddol Gymraeg a ‘Little England Beyond Wales’ yn y De. Ond mae hi’n cloddio’n ddyfnach na chriw Gavin and Stacey i ganfod hiwmor hollgynhwysol. Mae’n gynnes, a chyfoes; mae’n gomedi cwbl Gymreig.

Leave a Reply