Hogia Ni – Yma o Hyd, Theatr Bara Caws

April 3, 2016 by

Un o uchafbwyntiau’r theatr Gymreig i mi y llynedd oedd cynhyrchiad Triptych (De Oscuro) am effeithiau’r cyflwr  PTSD ar filwr o’r Cymoedd a’i deulu. Trwy  gyfrwng dawns, ffotograffiaeth a llwyfaniad theatrig, cyflewyd uffern byw dan straen-wedi-trawma. Ymysg y dorf oedd sawl cyn-filwr, a’u caredigion nhw, a brofodd ryddhad dros-dro o’r hunllef.

Dyna, yn wir,  yw rhagoriaeth cyflwyno llwyfaniad o’r fath; cynnig cip ar fywyd diarth, cwbwl astrus i’r rhan fwyaf, gan gynnig mewnwelediad prin, a llygedyn o gyd-ymdeimlad â’r dioddefwr.

Troi fy mhen a wnaf fel arfer os wela i filwr ar y gorwel, gan osgoi bwcedi ‘Help for Heroes’ a ‘Diwrnod y Lluoedd Arfog’ fel y pla. Wedi’r cyfan, onid yw’r dynion, a’r merched, milwrol hyn yn llythrennol yn ‘gofyn am drwbwl’, wrth wirfyddoli i brofi brwydro maes y gad? Wel ydyn, ond am fil o resymau gwahanol…

 

 

 

 

 

Yr hyn sydd yn glir yw na pharatoir yr un ohonynt ar gyfer bywyd wedi’r brwydro, a’r her o droedio’r byd fel meirw byw.

Troedio trybest y ‘tir neb’ hwn wna Hogia Ni – Yma o Hyd; drama fawr gyntaf Meic Povey i’r llwyfan Gymraeg ers Tyner yw’r Lleuad Heno yn 2009, a’r trydydd gynhyrchiad yn nhrioleg rhyfel Theatr Bara Caws – yn dilyn Dros y Top (2014) a Pum Cynnig i Gymro (2015).

Wedi archwilio effaith y ddwy Ryfel Byd ar Gymry Cymraeg hanesyddol, terfynnir y drioleg yn ein cyfnod cyfoes ni. Yn Hogia Ni, cawn gwmni triawd o gatrawd y Gwarchodlu Cymreig, chwe mis ar ôl dychwelyd o Afghanistan, yn 2014. Daw Diane Taylor (Manon Wilkinson) o Abergele, a Telor Roberts (Gwion Aled)  o Ben Llŷn i gwrdd ag Iwan Jones (Owen Arwyn), yn nhafarn yr Alexandra yng Nghaernarfon.

Amneidir o’r dafarn i faes y gad, lle brofwn ôl-fflachiadau cyson i’w taith ddiwethaf yn Helmand chwe mis ynghynt. Dadlennir eu rhesymau am ymuno â’r fyddin, a’u hymateb i erchyllderau maes y gad; ond profwn hefyd anallu’r tri i addasu i ‘fywyd go-iawn’. Daw’n gynyddol amlwg, ar hyd y darn,  fod eu teuluoedd ar gyrion eu bywydau, a try’r aduniad meddwol yn sesiwn therapi y mae dybryd ei hangen ar y tri.

Yn y ddrama deimladwy, aml-haenog hon, cywesgir nifer o elfennau i’r tri  cymeriad gwahanol, sydd i gyd yn Gymry Cymraeg. Archwilir haenau dwys hunaniaeth –  beth yw bod yn filwr, yn Gymro, yn ddewr ac yn ‘ddyn’, a beth yn union yw ystyr terfysgwr?

Trwy Iwan Jones, a’i linach milwrol, cawn hanes y Gwarchodlu Cymreig; ar yr arwyneb, y brenhinwr rhonc yw’r cadarnaf o’r tri, a’r lleiaf tebygol o syrthio’n ddarnau. Yn wahanol iddo ef, dihangfa  lwyr oedd y fyddin i Telor a Diane, yn sgil blynyddoedd o ddryga a ‘milwra yn erbyn y drefn’.

Ond rhwng y seiniau a’r delweddau sy’n dychwelyd i’w plagio, yr erchyllderau, a’r mwynhau, pa obaith sydd gan y tri o ddelio â phob dim, yn y gobaith o symud ymlaen?

Hoeliwyd sylw’r gynulleidfa gan dri perfformiad grymus, a atgyfnerthwyd gan symylrwydd y set. Fe addaswyd y gofod perfformio yn grefftus o’n blaen o’r dafarn i faes y gad. Fe’n trywanwyd gan seiniau sydyn, a iaith gignoeth a bendiliodd rhwng geiriau cwrs a choeth.

Ond bu’r sboncio cyd-amserol yn go ddryslyd ar adegau, wrth ychwanegu monologau adlewyrchol i’r pair. A tua’r diwedd, methais  yn lân a dilyn stori ingol Telor, gan na chlywais i’r  geiriau yn glir .

Ychwanegwyd yn ogystal elfennau hanesyddol cynnil, ar adegau’n bur ddeheuig; fel yn achos ‘bio’ chwim Hedd Wyn gan Iwan – yn brawf o barch y Gwarchodlu Cymreig at hanes y catrawd – a’r cyfeiriadau at Ice Cold in Alex. Ond cam gwag, yn fy marn i, oedd cyflwyno perthynas rhwng Diane a George Taylor o’r Free Wales Army (a fu farw yn Abergele, noson cyn arwisgiad y Tywysog Siarl); celwydd golau a danseiliodd ei stori gref hi, ond a esgorodd ar sgwrs am ystyr ‘Cymro’ .

Codwyd mwy o gwestiynau nag oedd o atebion yn Hogia Ni, fel yn aml mewn drama am ryfel. Ond llwyddodd y cynhyrchiad grymus i anesmwytho drwyddi draw, gan danlinellu oferedd rhyfel.

 

Theatr Bara Caws, Chapter

Leave a Reply