La Primera Cena, Theatr Genedlaethol Cymru

August 14, 2015 by

Yn dilyn llwyddiant diweddar y Theatr Gen gyda Pan Oedd y Byd yn Fach, braf oedd gweld drama arall eleni am brofiad dynion yng Nghymru, yng Nghwt Drama yr Eisteddfod Genedlaethol.

Wrth gamu i’r ganolfan orlawn clywais alaw o far y Maes gan Cowbois Rhos Botwnnog. Cyflwyniad addas i’r cynhyrchiad oedd anthem rybuddiol y band; ‘Celwydd Golau Ydy Cariad’

Ar ddangos y noson honno – fel ar hyd yr wythnos – oedd drama fuddugol Dewi Wyn Williams, La Primera Cena, a gipiodd y Fedal Ddrama yn 2014. Archwiliwyd thema gyfarwydd, effaith pechodau’r tad ar ei fab, a holwyd un o gwestiynau mawr y ddynoliaeth; beth sy’n bennaf ffurfio cymeriad dyn, magwraeth ynteu natur?

 

Osgoi ateb cwestiynau wna Brian (John Glyn Owen) am hir, wrth wynebu ei fab Aric am y tro cyntaf ers deng mlynedd ar hugain, yn dilyn damwain car. Bu farw gwraig Brian a mam Aric bryd hynny, ac fe chwalodd y teulu yn rhacs. Ond paham y mai dianc wnaeth Brian drachefn, a chefnu ar ei fab?

Gyda Stella (Siân Beca Thomas), cariad Aric, yn disgwyl eu plentyn cyntaf, mae arno awydd darganfod y gwir. Ond a ddaw heddwch meddwl i’w ran wrth ganfod yr atebion, ac i ba raddau mae o’n holi’r cwestiynau iawn?

Estynna Brian wahoddiad i Aric i’r tŷ am sgwrs, yn erbyn cyngor ei gariad drwgdybus, Hera (Delyth Wyn). Yng nghysgod y darlun La Primera Cena – Y Swper Cyntaf, gan Dafni Elvira – datguddir hen gyfrinachau, a gwynebir wirioneddau mawr, cyn canfod y ffordd ymlaen.

Two-hander o ddrama oedd hon i bob pwrpas, â chefnogaeth gan gariadon y dynion; chwaraeodd Sella a Hera gydwybod y dynion, wrth eu porthi a’u cynghori bob yn ail. Fel yn achos y darlun – pastiche amryliw o’r Swper Olaf – ceir awgrym mai merched sy’n llywio ffawd pob dyn.

Daw hyn yn berffaith glir wrth i Aric egluro’n syml pam ei fod mewn perthynas â Stella; ‘Mi achubodd hi fy mywyd’. ‘Paid byth â phriodi rhywun wyt ti’n ddyledus iddi; fyddi di mewn dyled iddi hi am byth’, yw cyngor ei dad.

Y tro, rhagweladwy, yng nghynffon y ddrama oedd mai’r wraig a’r fam oedd ar fai.

Tarodd geiriau Dewi ‘Chips’ ar garlam o enau’r actorion fel peli i bocedi bwrdd snwcer – gan adleisio’r fentor mawr, Gwenlyn Parry. Cafwyd sawl perffomiad grymus gan sêr teledu Rownd a Rownd, a hoeliodd sylw’r dorf tan y diwedd. Glaniodd sylwedd y sgript rhwng rhethreg ac ystrydeb, ond cyflwynwyd y cyfan â chryn sglein. Bu’r set syml yn gefnlen chwaethus – â goleuo crefftus – i stori gyfarwydd a gyflwynwyd o’r newydd.

Cwtogwyd dipyn ar y ddrama i gynhyrchiad awr a chwarter o hyd, dan gyfarwyddyd deallus Janet Aethwy. Ond ces fy siomi, yn anffodus, gan goda llafurus, i esbonio’r hyn oedd yn amwg i bawb.

Leave a Reply