Matilda The Musical. Canolfan Mileniwm Cymru. 4 Rhagfyr 2018 – 12 Ionawr 2019

April 11, 2017 by

Mae’n bleser gan Ganolfan Mileniwm Cymru gyhoeddi mai cynhyrchiad clodwiw y Royal Shakespeare Company o Matilda The Musical fydd ei sioe dros y Nadolig yn 2018.

Bydd y sioe, sydd wedi’i hysbrydoli gan lyfr poblogaidd Roald Dahl, ‘Matilda’, yn dod i Gaerdydd rhwng 4 Rhagfyr 2018 a 12 Ionawr 2019 fel rhan o’i thaith gyntaf o amgylch y DU ac Iwerddon.

Mae Matilda The Musical bellach yn ei chweched flwyddyn yn West End Llundain, a dyma’r cynhyrchiad a lwyfannwyd am y cyfnod hiraf yn y Cambridge Theatre, lle mae’n cael ei berfformio i theatr lawr o hyd.

Gyda geiriau gan Dennis Kelly, caneuon gwreiddiol gan Tim Minchin a chyfarwyddo gan Matthew Warchus, mae Matilda The Musical yn adrodd stori merch fach hynod â dychymyg byw a meddwl craff sy’n mentro sefyll ei thir a newid ei thynged ei hun.

Comisiynwyd Matilda The Musical gan y Royal Shakespeare Company ac fe’i perfformiwyd am y tro cyntaf yn The Courtyard Theatre yr RSC yn Stratford-upon-Avon ym mis Tachwedd 2010, cyn trosglwyddo i West End Llundain ym mis Hydref 2011, lle cafodd ei pherfformiadau agoriadol adolygiadau brwd.

Mae mwy na 6.5 miliwn o bobl o bob cwr o’r byd wedi gweld Matilda The Musical, sydd wedi ennill 85 o wobrau rhyngwladol mawr, gan gynnwys 16 ar gyfer y Sioe Gerdd Orau. Ar ôl ei llwyddiant ysgubol yn y Gwobrau Olivier yn 2012, lle cafodd saith gwobr, y nifer uchaf erioed, yn ogystal â phedair Gwobr Tony a Gwobr Anrhydedd Tony am Ragoriaeth yn y Theatr ar gyfer y pedair merch a rannodd y brif ran ar Broadway, mae Matilda The Musical bellach wedi’i pherfformio mewn 51 o ddinasoedd ym mhob cwr o’r byd ac mae’n parhau i ddiddanu cynulleidfaoedd yn Llundain, Awstralia ac ar ei thaith o amgylch Gogledd America.

Bydd rhaglen addysg newydd i ymgysylltu â phobl ifanc, wedi’i hysbrydoli gan Matilda The Musical,  yn cyd-fynd â’r cynhyrchiad ym mhob lleoliad ar ei daith o amgylch y DU. O lyfrgell deithiol llawn straeon dan arweiniad Mrs Phelps, i ddigwyddiadau lle y bydd Matilda yn cymryd ysgolion cyfan drosodd, nod yr RSC yw cyrraedd mwy na 15,000 o blant, ar y cyd â phartneriaid theatr deithiol. Cyhoeddir rhagor o fanylion yn agosach at y dyddiad.

Dywedodd Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru: “Rwyf wrth fy modd y bydd Matilda yn dod i Gaerdydd, y ddinas lle ganwyd ei hawdur, Roald Dahl,  y Nadolig nesaf. Bydd y cynhyrchiad hudol hwn, sydd wedi bod yn swyno cynulleidfaoedd ers iddo agor gyntaf saith mlynedd yn ôl, yn berffaith ar gyfer tymor yr ŵyl.

“Gwnaeth ein dathliadau canmlwyddiant Dahl hynod lwyddiannus yn 2016 greu profiadau ysbrydoledig a chofiadwy i lawer o bobl, ac rwy’n hyderus y bydd Matilda the Musical yn cipio calonnau a dychymyg ein cynulleidfa – yn enwedig y genhedlaeth iau, y gallant fod yn ymweld â’r theatr am y tro cyntaf. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cast a chriw Matilda i’r Ganolfan ym mis Rhagfyr 2018.”

Ychwanegodd Catherine Mallyon, Cyfarwyddwr Gweithredol RSC: “Mae’n wych bod y wyrth hon a grëwyd gennym, a ddechreuodd ar ôl datblygu am saith mlynedd yn Stratford-upon Avon, wedi tyfu’n ffenomenon fyd-enwog. Yn dilyn llwyddiant cyfnod Matilda ar Broadway, ein teithiau presennol o amgylch Gogledd America, Awstralia a Seland Newydd, a’n chweched flwyddyn yn y Cambridge Theatre yn West End Llundain, mae’n wych ein bod yn gallu rhannu Matilda â chynulleidfaoedd ledled y DU ac yn Iwerddon.

“Ar y cyd â’n partneriaid theatr deithiol yn y DU, byddwn hefyd yn darparu rhaglen arloesol o brosiectau addysg ryngweithiol er mwyn galluogi pobl ifanc y DU i efelychu Matilda, gan rannu ym mhŵer arbennig adrodd straeon a chreadigrwydd diddiwedd eu dychymyg.”

Cynhyrchwyd Matilda The Musical yn y West End ac mae ar daith gyda’r Royal Shakespeare Company gydag André Ptaszynski a Denise Wood fel Cynhyrchwyr Gweithredol. Datblygwyd y cynhyrchiad gyda chymorth Jeanie O’Hare ac Adran Lenyddol yr RSC.

Ysgrifennwyd Matilda The Musical gan Dennis Kelly, gyda cherddoriaeth a geiriau gan Tim Minchin, a chyfarwyddo gan Matthew Warchus.  Dyluniwyd y cynhyrchiad gan Rob Howell, gyda choreograffi gan Peter Darling, trefniadau cerddorfaol, cerddoriaeth ychwanegol a goruchwyliaeth gerddorol gan Christopher Nightingale, goleuo gan Hugh Vanstone, sain gan Simon Baker a’r effeithiau arbennig a’r rhithiau gan Paul Kieve.

Bydd y tocynnau ar werth o 26 Ebrill, yn dilyn cyfnod archebu â blaenoriaeth rhwng 19 a 25 Ebrill.  

Matilda The Musical. Canolfan Mileniwm Cymru. 4 Rhagfyr 2018 – 12 Ionawr 2019

Swyddfa Docynnau: 029 2063 6464 www.wmc.org.uk

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.matildathemusical.com


Twitter: @MatildaMusical
Facebook: @MatildaTheMusical
Instagram: @MatildaTheMusical

#matildaontour

Leave a Reply