Merch yr Eog / Merc’h ar Eog (Theatr Genedlaethol Cymru / Teatr Piba)

October 27, 2016 by

Anaml iawn  y bydda i’n ymweld â’r theatr yn teimlo’n anobeithiol braidd, ond dyna fu mhrofiad cyn profi Merch yr Eog / Merc’h ar Eog (Theatr Genedlaethol Cymru / Teatr Piba). Bu’r cyd-gynhyrchiad aml-ieithog ar daith ledled Cymru ers dechrau mis Hydref, a bu’n anodd osgoi ymatebion negyddol yn wasg Gymraeg ac ar-lein.

Ni chafodd hynny effaith o gwbl, fodd bynnag, ar niferoedd y dorf yn Stiwdio Weston, Canolfan y Mileniwm, ac i ryw raddau, ges i siom ar yr ochr orau.

Dyma gynhyrchiad mentrus a chyfoes, sy’n  weledol gyffrous, wrth geisio pontio rhwng y Llydaweg a’r Gymraeg.  Mae’n cynnwys cast atyniadol gan griw aml-ieithog, a pherfformiad canolog didwyll iawn gan Lleuwen Steffan.

Yn anffodus, nid yw’r ddrama  yn cysylltu digon â’i chynulleidfa, sy’n tanseilio’r prosiect uchelgeisiol  yn llwyr . Wedi pedair mlynedd o drafod, cyfnewid syniadau a pharatoi drama a gyflwynwyd mewn pedair iaith (Cymraeg, Llydaweg, Ffrangeg a Cajun), dwi’n rhyfeddu na flaenoriaethwyd hynny o’r cychwyn cyntaf.

Mae’r sgript ‘yn seiliedig ar waith gwreiddiol’ gan yr awdur Cymraeg Owen Martell a’r actores Lydewig Aziliz Bouregès.  Fe gychwynnir yn addawol, yn nhe angladd hen fodryb ar draeth Cwmtydu yn Ne Ceredigion. Serch moelni’r set cynnil , ceir cynhesrwydd rhwng y cast, a sefydlir thema’r ddrama hon yn glir.

Teithiodd Mair (Lleuwen Steffan) yn ôl i Gymru o’i chartref yn Llydaw yng nghwmni ei chymar, Loeiza (Loeiza Beauvir). Dros sgwrs â’i Mam gariadus (Rhian Morgan), a Gwilym ei hewyrth (Dyfan Roberts) , daw newyddion am fferm y teulu i herio’i hunaniaeth. Ar ôl dychwelyd i Lydaw, dwysheir pryderon Mair, sy’n ei dieithrio o’i bywyd dedwydd yno. Dros sgyrsiau Skype â Rhys (Dyfan Dwyfor) ei brawd, sy’n pigo at ei chydwybod,  ymlafniai Mair – yn ddiarwybod i Loeiza- dros y penderfyniad i symud ’nol i Gymru.

Ond pa ffordd i droi? Oes gan gymydog Mair, y mewn-fudwr Jean (Steeve Brudey), air o gyngor? A beth yw arwyddocád ei rodd caredig iddi, o eog? Trwy’r cyfan, trafodir gwestiynau cyffredin i’r cefndryd Celtaidd; effaith iaith a chwedloniaeth a diboblogi gwledig ar etifeddiaeth yr unigolyn – a’r gymdeithas ehangach.

Mae na lawer o chwarae ar eiriau yn y ddrama hon – ‘eog’ ac ‘euog’ efallai yw’r enghraifft amlycaf – ac fe archwilir amryw eiriau cyffelyb yn y Gymraeg a Lydaweg. Ond diolch i ddibyniaeth y rhan fwyaf  o aelodau’r dorf ar system ‘gyfieithu’ hynod wan,  cawn ninnau –  fel Mair – ein dieithrio o’r drafodaeth.

Ar yr arwyneb, mae na lawer i ganmol yn y cynhyrchiad cyfoes hwn, sy’n dilyn yn nhraddodiad diweddar y cwmni i gynnig arlwy eang iawn o gynyrchiadau i blesio pob chwaeth ; o gynyrchiadau mwy ‘traddodiadol’ (Chwalfa a  Nansi) i ddramau mwy cyfoes (Rhith Gân a Mrs Reynolds a’r Cena Bach) hyd at brofiadau theatrig cryn dipyn mwy heriol ac arbrofol ( Dawns Ysbrydion), perthynai elfen o ddyfeisgarwch i bob un.

Siawns na synnodd neb o’r dorf i weld y cyd-gynhyrchiad  hwn yn dilyn arddull arbrofol llwyfaniad  Rhwydo/Vangst  (2013), na chwaith gollfarnu’r ysfa i estyn allan , i gynnal deialog  â gwlad arall, a thrafod  rôl aml-ieithrwydd mewn Ewrop gyfoes, yn dilyn Brexit?

Rwy’n sicr yn  clodfori elfennau niferus yn y cynhyrchiad aml-haenog hwn, gan gynnwys seinlun synhwyrus, goleuo gwych a gwaith taflunio trawiadol; yn weledol, ac yn glywedol, fe roddodd Merch yr Eog gryn wefr i mi. Yn ogystal, rhaid canmol y ffaith nad yw rhywioldeb Mair yn ‘issue’ o gwbl fel rhan o’r stori, sy’n cynrhychioli tipyn o gam ymlaen yn y gymdeithas Gymraeg.

Ond am gyfnodau yn ystod rhai deialogau, fe niflaswyd yn llwyr  gan (gyd)gyfarwyddo di-fflach, a diffyg egni dybryd ymysg rhai aelodau o’r cast ar lwyfan. Yn ystod sgyrsiau hynod statig, wedi i mi dderbyn y wybodaeth gan eirfa robotig (ffrwyth app sibrwd y Theatr Genedlaethol, sy’n ‘crynhoi gwybodaeth’ yn hytrach na chyfieithu ar y pryd) , bu’n rhaid brwydro yn erbyn yr ysfa i ddylyfu gên.

Ceisiais fy ngorau i glustfeinio am seiniau cyffredin rhwng y Llydaweg a’r Gymraeg – fel y cyfarwyddwyd y gynulleidfa i wneud yn ystod yr ymgyrch farchnata – ac i chwilio am gliwiau ehangach na chynnwys y testun. Ond mewn difri calon, sut mae modd uniaethu ag unrhyw gymeriad heb werthfawrogi’r ‘pethau bychain’ sydd ynghlwm â mynegiant geiriau’r sgript, dan ofal yr actorion?

Cafwyd enghraifft dda o hyn mewn golygfa weledol ddifyr, mewn spa Llydewig yng nghwmni Loeiza a’i ffrind hithau, Céline (Mai Lincoln).  Fe’n hatynnwyd yn wir gan asbri’r ddwy ferch, mewn cymhariaeth â diflastod  ymddangosiadol Mair. Ond  i’r rheiny ohonom heb Ffrangeg neu Lydaweg, bu’n rhaid  troi ein trem at gefnlen y set (neu’r app ffôn, i’r di-Gymraeg)  i dderbyn crynodeb o’u sgwrs am ‘iselder’ Mair. Afraid dweud, syrthiodd eu dryswch rhwng y gair  hirnez  (hiraeth) a’r clefyd gwenerol herpes ar glustiau byddar, er i ni weld y sgrifen ar y mur yn glir.

Yn hynny o beth, clywais rai yn cymharu’r ddrama yn anffafriol â chynhyrchiad aml-ieithog arall fu’n teithio Cymru yn ystod yr un cyfnod, sef A Good Clean Heart (Neontopia) gan Alun Saunders, sy’n gwneud defnydd dyfeisgar iawn o gyfieithu trwy gyfrwng  uwch-deitlau . Nid yw’n gwbl deg i gymharu’r ddwy ddrama, yn fy marn i,  gan fod y Cymry Cymraeg yn gyfarwydd  â dwy iaith A Good Clean Heart. Ond mae’n ddifyr nodi i gynhyrchiadau dwyieithog ag iddynt uwch-deitlau, fel A Good Clean Heart  a Llwyth ddenu aelodau di-Gymraeg y dorf i neidio i’w traed yng Ngŵyl Caeredin , wedi’u taro gan stori gref ac emosiwn pur. Teg dweud nad dyna’r ymateb i Merch yr Eog –hyd yma, ta beth.

Edrychaf ymlaen yn fawr i glywed yr ymateb i’r llwyfaniadau yn Plymouth a threfi a dinasoedd Llydaw – ac mi ydw i’n credu ei bod hi’n bwysig iawn i’r gynulleidfa Gymreig  gael deall hynny, fel rhan o’r ddeialog greadigol ehangach. Mae’n amlwg wrth wrando ar sgwrs ar Front Row ar BBC Radio 4, a sesiwn holi ar ddiwedd y llwyfaniad yng Nghaerdydd, y bu gwahaniaethau naturiol rhwng arddulliau y ddau gyd-gyfarwyddwr –  Thomas Cloarec o Lydaw a Sara Lloyd o Gymru – gan arwain at elfen o gyfaddawdu. Tra roddodd y Llydawr Thomas Cloarec bwys mawr ar yr elfen gorfforol, daw Sara Lloyd o gefndir lle mai’r testun sy’n deyrn – neu’n flaenoriaeth, o leia.

Yn sicr, roedd hynny i’w deimlo ar hyd y darn; wrth sboncio rhwng gwahanol olygfeydd, fe deimlodd ar brydiau fel profi cyfres datgysylltiedig  o freuddwydion. Wnes i, yn bersonol, ddim digio o gwbl, at y ‘seibiannau’ swrealaidd , yn cyfuno dawns a ffigyrau anifeilaidd. Dydw i’n sicr ddim yn credu fod angen gradd yn y Mabinogi i ddeall arwyddocád  yr eog. A siawns fod mynychwyr y Theatr Gymraeg dros y degawdau diwethaf yn gyfarwydd iawn â themau fel alltudiaeth ac etifeddiaeth – ond diflaswyd nifer, serch (neu oherwydd?) hynny, gwaetha’r modd.

Difyr yw nodi mai’r cwestiwn cyntaf i dasgu o’r dorf ar ddiwedd llwyfaniad cyntaf Caerdydd  oedd ‘Beth oedd neges y ddrama?’. Yn ddigon naturiol, fe drodd y cyfarwwyddwr o Lydaw  y cwestiwn ar ei ben wrth holi’r gwyliwr, beth oedden nhw’n credu oedd neges y ddrama. Atebwyd yn synhwyrol gan aelod y dorf, a adleisio prif wers y ‘ddrama’ i’r dim, mewn cwta ddeg eiliad; nid y lleoliad sydd yn bwysig, ond yr hyn sydd ynddom ni.

Mae’n werth crybwyll mai un o haneswyr amlycaf, a mwyaf huawdl, yr iaith Gymraeg oedd yn holi;  yn llawn chwilfrydedd, ond efallai wedi disgwyl bach mwy.

 

 

 

 

 

 

Leave a Reply