Miss Julie gan August Stindberg, Cynhyrchiad Theatr RCT

April 25, 2018 by

Dyma gynhyrchiad Cymraeg newydd o ddrama aruthrol o gyfoethog. Er bod Miss Julie bellach dros gant ac ugain o flynyddoedd oed, mae gwaith Strindberg yn dal i fod yn astudiaeth ddychanol a chywrain o’r gwrthdaro rhwng grymoedd rhywedd, arian, confensiwn, dosbarth cymdeithasol a nwyd.

Lleolir y ddrama mewn cegin plasty ar Noswyl Ifan ar drothwy’r Ugeinfed Ganrif. Mae’r dathliadau yn mynd i bennau Miss Julie y feistres ifanc wyllt a Jean y gwas pwyllog ond uchelgeisiol. Wrth i’r ddau ymddiddan dros gwrw yn y gegin mae rhwymau cymdeithasol a gweddustra yn datod gyda chanlyniadau dinistriol.

Cafwyd perfformiad awdurdodol a chwareus gan Gwenllian Higginson yn y brif ran. Mae’r ddrama ar ei gorau yn yr hanner cyntaf wrth i’r tensiwn rhywiol rhwng meistres a gwas gynyddu fel bwa saeth yn cael ei dynnu’n ôl. Yr uchafbwynt i mi oedd pan orchmynnodd Miss Julie i Jean gusanu ei hesgid. Tarwyd cydbwysedd gwych rhwng di-niweidrwydd awgrymog a chreulondeb mympwyol merch ifanc yn gwthio ffiniau ei grym . Gellid teimlo’r tensiwn rhywiol yn clecian o’r rhesi cefn. Arbennig!

Breuddwydia Miss Julie am gael ymddatod o staes fyglyd ei safle tra dymuna Jean wella ei hun drwy godi uwch-law ei fagwraeth dlawd. Ond cymeriadau trasig yw Jean a Miss Julie. Cymeriadau clwyfedig ond creulon sydd yn ennyn ein cydymdeimlad a’n ffieidd-dod am yn ail.

Mae hi’n ddrama sy’n llawn gwirebau a llinellau cofiadwy. Ar ddiwedd y ddrama, gofynnai Miss Julie ‘ar bwy mae’r bai?’ am eu cwymp, ond yna, gofynna’r cwestiwn pwysicach ‘ydi e ots?’. Waeth pwy sydd ar fai, yr un yw’r canlyniad; a hithau oherwydd ei rhywedd sydd yn wynebu’r gosb lymaf.

Mae’n deg nodi bod y gaeafau’n hir yn Sweden ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac felly hefyd sgript wreiddiol y ddrama hon! Felly doeth o beth yn fy nhyb oedd penderfyniad y cwmni i addasu a thynhau’r ddrama wreiddiol fel bod modd mwynhau hanfod un o glasuron theatr Ewrop mewn cwta awr.

Hen dro felly na chafodd enw’r cyfieithydd ei nodi yn y rhaglen (hyd y gwelwn), achos roedd yn gyfieithiad caboledig fel y dangosodd y llinell hon, wrth i Jean ddryllio rhamantiaeth Miss Julie: ‘Hen dwll o le gwlyb yw llyn Como’ sydd yn swnio fel llinell osod limrig! Gwych!

Un o gryfderau cudd y ddrama ydi cymeriad Christine (Non Haf) y forwyn ddistadl, sydd yn dangos fod sylfaeni’r drefn yn cael ei chynnal o’r gwaelod yn ogystal ag oddi fry. Gall Christine dderbyn a maddau i Jean ei chariad am gysgu gyda’r feistres ifanc, ond ni allai iselhau ei hun i weithio i wraig a gwympodd. Mae’n rhaid i Christine gredu fod y bobol mae hi’n gweini arnynt yn sylfaenol well na hi, neu beth yw’r diben iddi weini arnynt?

( Yn ystod yr wythnos ble mae rhai yn dal i eilun-addoli un teulu breintiedig a’u hepilion ar draul popeth, mae ffydd ddall Christine mewn uchelwriaeth yn teimlo’n nodwedd gwbl gyfoes.)

Rhaid cyfaddef fod diweddglo melodramatig y ddrama wastad wedi peri peth gofid i mi. Er i Jean a Miss Julie dramgwyddo, Miss Julie yn unig sydd yn cael ei chosbi go iawn. Mae hi’n troi o fod yn gymeriad cryf a phenstiff i fod yn ferch fach wan a hawdd dylanwadu arni ac mae bron fel pe bai Strindberg yn gweld hyn fel canlyniad anochel a ddeillia o wendid sylfaenol ei rhywedd! Fodd bynnag roedd y cip awgrymog, (os nad heriol?!) y taflodd Miss Julie tuag at Jean yn eiliadau ola’r cynhyrchiad, a’r rasel yn ei llaw yn awgrymu’r posibilrwydd bod diweddglo amgen ac mwy gobeithiol yn bosibl i Miss Julie na’r un terfynol a awgrymwyd iddi gan Jean.

Roedd y set naturiolaidd yn effeithiol dros ben ac fe wnes i hefyd fwynhau y fflachiadau o olau a’r cameos o Jean a Miss Julie yn dawnsio ar ddechrau’r ddrama.

Mae’n ddifyr nodi mai Gareth John Bale a gyfarwyddodd a chyd-gynhyrchodd y ddrama yn ogystal a chwarae rhan Jean. Rwy’n edmygu’r actor am ei egni a’i ymroddiad wrth y prosiect hwn ac fe roddodd berfformiad medrus a gwyliadwy. Serch hynny, ni chefais fy nghyffroi gan ei ddehongliad.

Mae chwarae rhan Jean yn brofiad hen ddigon heriol i unrhyw actor; ac efallai bod hi’n ormod gofyn i unrhyw un ymroi yn llwyr i’r rhan yn ogystal ag ymgymryd â gofalon y cyfarwyddwr. A fyddai’r chwaraewr pêl-droed nid an-enwog o’r un enw yn chwarae cystal pe bai byddai gorfod ysgwyddo’r cyfrifoldeb o fod yn gapten ar ei dîm hefyd?

Fodd bynnag, does dim gwadu fod y cynhyrchiad hwn yn gyfanwaith effeithiol ac fe werthfawrogais y cyfle i gael ymgolli yn y perfformiad a chnoi cil ar y ddrama aeddfed, heriol ac aml-haenog hon.

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth/ Tuesday 24 7.30pm.

SEFYDLIAD Y GLOWYR COED DUON BLACKWOOD MINERS’ INSTITUTE 01495 227206 blackwoodminersinstitute.com

Dydd Mercher/ Wednesday 25 7.30pm.

Y MINERS’ RHYDAMAN THE MINERS’ AMMANFORD 0845 2263510 theatrausirgar.co.uk

Dydd Iau / Thursday 26 7.30pm.

THEATR BRYCHEINIOG ABERHONDDU THEATR BRYCHEINIOG BRECON

01874 611622

brycheiniog.co.uk

Dydd Gwener/ Friday 27 7.30pm.

CAMPWS CYMUNEDOL GARTH OLWG GARTH OLWG COMMUNITY CAMPUS 01443 570075

Dydd Sadwrn/ Saturday 28 7.30pm.

Y LYRIC CAERFYRDDIN THE LYRIC CARMARTHEN 0845 2263510 theatrausirgar.co.uk

Y LYRIC CAERFYRDDIN THE LYRIC CARMARTHEN 0845 2263510 theatrausirgar.co.uk

 

Leave a Reply