Mrs Reynolds a’r Cena Bach (Theatr Genedlaethol Cymru)

April 21, 2016 by

Y llynedd cyhoeddwyd y gyfrol Contemporary Welsh Plays (Bloomsbury), a ganolbwyntiodd ar chwe drama gyfoes Gymreig.  Yn eu plith cafwyd gweithiau gan Katherine Chandler, Rachel Tresize a Dafydd James; i gyd yn gardiau post o gyrion cymdeithas . Ymysg eu themau oedd gwleidyddiaeth rhywioldeb, trais a chaethiwed o bob math, gan gynnig llwyfan i’r hyn sydd, i nifer, yn ‘normal’ newydd.

Fisoedd yn unig wedi’r cyhoeddiad, llwyfanwyd cynhyrchiad newydd sbon – Iphigenia in Splott gan Gary Owen, o gyrion Hwlffordd. Llwyddodd y ddrama Gymreig i danio theatrau ledled Prydain, gan godi’r llen ar fyd o boen –  oedd yn  deillio o effeithiau yr ‘hinsawdd economaidd sydd ohoni’-  cyn cynnau coelcerth o benawdau brawychus y papurau newydd.

Mae’n hawdd deall pam y byddai Theatr Genedlaethol Cymru a Chwmni Frân Wen yn awyddus i lwyfannu  gwaith gan y Cymro  –  dramodydd sy’n procio cydwybod ei gynulleidfaoedd ers Gary’s Crazy Mobile Disco yn 2001. Dewiswyd Mrs Reynolds and the Ruffian (2010), i’w chyfieithu i’r Gymraeg gan Meic Povey, a teg yw dweud fod yr ymateb  wedi bod yn gadarnhaol iawn i’r daith ledled Cymru, sy’n parhau tan Mai 13eg.

 

MRS REYNOLDS A’R CENA BACH by Theatr Genedlaethol Cymru by Gary Owen Welsh Translation by Meic Povey of Mrs Reynolds and the Ruffian Director: Ffion Hâf CAST Siw Hughes Siôn Emyr Leah Gaffey Rhian Green Iwan Fôn CREATIVE TEAM Author: Gary Owen Translation: Meic Povey Director: Ffion Haf Designer: Jason Southgate Composer and Sound Designer: Osian Gwynedd Lighting and Video Designer: Joe Fletcher Voice Coach: Nia Lynn Physical Director: Eddie Ladd Sibrwd Author: Tim Blackwell Production Manager: Angharad Mair Davies Stage Manager: Gareth Roberts Deputy Stage Manager: Siwan Griffiths Assistant Stage Manager: Caryl McQuilling Assistant Stage Manager: Brynach Higginson Sound Engineer: Gareth Brierley Lighting and Video Engineer: Ben Stimpson Costume Supervisor: Erin Maddocks Sibrwd Operator: Sioned Evans

MRS REYNOLDS A’R CENA BACH by Theatr Genedlaethol Cymru by Gary Owen Welsh Translation by Meic Povey of Mrs Reynolds and the Ruffian Director: Ffion Hâf CAST Siw Hughes Siôn Emyr Leah Gaffey Rhian Green Iwan Fôn CREATIVE TEAM Author: Gary Owen Translation: Meic Povey Director: Ffion Haf Designer: Jason Southgate Composer and Sound Designer: Osian Gwynedd Lighting and Video Designer: Joe Fletcher Voice Coach: Nia Lynn Physical Director: Eddie Ladd Sibrwd Author: Tim Blackwell Production Manager: Angharad Mair Davies Stage Manager: Gareth Roberts Deputy Stage Manager: Siwan Griffiths Assistant Stage Manager: Caryl McQuilling Assistant Stage Manager: Brynach Higginson Sound Engineer: Gareth Brierley Lighting and Video Engineer: Ben Stimpson Costume Supervisor: Erin Maddocks Sibrwd Operator: Sioned Evans

 

O’i throisi’n ddeheuig a’i hadleoli i Langefni , mae Mrs Reynolds a’r Cena Bach yn ddrama drefol, naturiol Gymraeg. ‘Owen writes like and angel with a foul mouth’,  meddai beirniad theatr y Guardian, Lyn Gardner, yn 2001, a llwydda Meic Povey i daro’r un nodyn.

Fe’n cyflwynir yn syth, ar ddechrau’r darn, i anghydfod rhwng llanc a hen ddynes. Wedi i Jay (Siôn Emyr) ei gael yn euog o ‘weithred o fandaliaeth bwriadol’ wrth ddinistrio gardd Mrs Reynolds (Siw Hughes), daw gweithwraig  gymdeithasol â’r ddau ynghyd fel rhan o raglen ‘ad-dalu cymdeithasol’.  Yn ei jargon rhwystredig hi, ceisia Cassey (Rhian Green) berswadio’r ddau i gyd-weithio er budd cymdeithas. Yn niflastod ei llais, a’r tensiwn distaw rhwng y ddau, fe synhwyrwn mai siambls llwyr fydd y cynllun.

Er yn rhannu’r un stryd,  jwngwl concrid di-lun, mae’r ddau yn byw mewn bydoedd gwahanol; mae un yn wraig weddw, a’r llall yn perthyn i giang, y naill dan ormes a’r llall yn gaeth i’r system. Ond wrth i’r wraig weddw fregus fynnu dal ei thir, gwelwn fod na fistar ar Mistar Mostyn. Oes gobaith sefydlu ymddiriedaeth rhwng y ddau, i fuddio pawb yn y tymor hir?

Diolch i gastio cryf, cydymdeimlwn â’r ddau – tasg amhosib, yn achos Jay, ar yr olwg gyntaf.  Mae pob ystum o’i ymarweddiad yn ystod Rhan 1, yn corddi’r gynulleidfa; yn ei frygowthan a’i fygythiadau, un bwriad sydd gan Jay, sef sefydlu ei hun fel yr Alpha Male. Ond mae Siw Hughes, fel Mrs Reynolds, yr un mor graff â’r Cena Bach,  yn bresenoldeb ffraeth, naturiol gomig, drwyddi draw.

Mae comedi Cymraeg hollbresennol Meic Povey yn deillio’n naturiol o’r gwrthdaro cymdeithasol rhwng y ddau; ond yn llechu islaw’r jôcs, beirniedir y system yn hallt, wrth i Mrs Reynolds ddehongli  camsillafu’r graffiti . Mae’r graffiti hefyd yn ffordd clyfar o gyflwyno merched eraill i’r darn – a chwestiynu mysoginistiaeth hollbresennol y bechgyn. Syrthio’n glep am Mel (Leah Gaffey) wna Jay yn Rhan 2, a’i delfrydu, cyn dod i ddeall ei hanes hithau. Ond mewn byd lle atgyfnerthir yn ddyddiol fod ‘Natlee’ yn ‘Slag & a Prostitute’ a ‘Stacy Licio Coc’ pa obaith sydd i’w hedyn berthynas?

Mewn rhan gymharol fechan, llwydda Leah Gaffey i greu argraff fawr , fel y gwna Iwan Fôn fel Kieran, ffrind Jay, mewn cwmwl o gyffuriau. Mewn cwta tair olygfa, llwydda yntau i greu naws ac egni peryglus o’i amgylch, sy’n atgas o hudolus.

 

 

Helpu i gynnal yr is-fyd hwn wna’r cynorthwy-wyr llwyfan, sy’n symud yn slic ar ffurf cysgodion, fel dawnswyr stryd yn neon y nos. Cynlluniwyd y set yn dra llwyddiannus gan Jason Southgate, wrth addasu  bloc concrid yn barc cyhoeddus, ‘rar’ Mrs R’,  a lolfa gyfforddus. O ran goleuo, arbrofwyd  yma â gwaith taflunio difyr, a serch y mân frychau, asiodd yn dda ag ysbryd y darn . A sefydlodd Osian Gwynedd sain electronig i’n dieithrio ar gychwyn y darn, i gyferbynnu â darnau piano mwy gobeithiol.

Ond serch elfennau o rag-gysgodi, daeth troad y ddrama braidd yn hwyr i mi; diagnosis o salwch terfynnol, a hwnnw’n glefyd cymhleth, creulon. Teimlai braidd fel dyfais nad archwiliwyd yn ddigonol, ar draul cymeriad go-iawn fel Mel, er mwyn gorfodi diweddglo ‘ddedwydd’ i Mrs Reynolds a’r Cena Bach.

Wrth gwrs, edrychiad olaf go amwys a gafwyd gan Mrs Reynolds , yn gaeth o’i chadair olwyn,  gan ein gadael yn holi pwy oedd y mistar, a Mistar Mostyn…

Llwyddodd y cyfarwyddwr, Ffion Haf, i gynnal y  tensiwn ar hyd y darn, ac i greu perthynas gredadwy rhwng y ddau brif gymeriad. Diddorol oedd cyfosod dau fyd Cymraeg mor ddeuheig, gan gyfiawnhau’r cywaith hwn i mi . Ond oes na ddramodwyr cyfoes Cymraeg allai wneud yr un fath? Oes, pe bai nhw ond yn cael y cyfle  – ac edrychaf ymlaen i weld eu gwaith nhw hefyd yn cael lle ar lwyfan y Theatr Gen.

 

Leave a Reply