Nansi, Theatr Genedlaethol Cymru,

August 12, 2015 by

Fe’n tywyswyd yr wythnos dd’wetha gan Melangell Dolma i fyd y tylwyth teg. Cawsom gwmni lodes leol, dalentog tu hwnt, oedd ymhell o flaen ei hamser.

Fel nifer mae’n siwr, delwedd archif ddu a gwyn o Delynores Maldwyn, Nansi Richards, fu gen i yn fy meddwl . Ond yng nghynhyrchiad llawn asbri Theatr Genedlaethol Cymru o Nansi, cawsom gip ar ei hieuenctid amryliw.

Diolch i’w chefndir werinol, a roddodd bwys ar y pethe, ar fferm Penybont, Dyffryn Tanad, datblygodd Nansi yn delynores a deithiodd y byd, gan hudo’r dorf a thorri calonnau. Ond o gofio iddi gael ei geni ym 1888, roedd hi’n ferch anghonfensiynol, ac fe’i beirniadwyd nid yn unig am ddilyn ei breuddwydion, ond am feiddio byw bywyd fel y mynnai.

 


 

 

 

 

 

Fe nghyffyrddwyd i’n ddwfn gan y stori gyfoes hon, a adleisiodd Cyfaill / Te yn y Grug (gan Theatr Bara Caws), am hanes yr awdures Kate Roberts yn 2013 . Yr un elfennau oedd yn nrama Cyfaill Francesca Rhydderch ag oedd yn hollbresennol yn y driniaeth hon gan Angharad Price; cynildeb di-rodres, tafodiaith goeth, a stori dra ddyneiddiol.

Roedd y llwyfaniad ei hun yn ddigon o sioe, wrth i’r gyfarwyddwraig leol, Sarah Bickerton, drefnu noson lawen iawn ar ein cyfer. Cynhaliwyd y noson dan drawstiau hynafol y Stiwt, ym mhentre Llanfair Caereinion; gyda tanceri diodydd ar y byrddau bar o’n blaen, fe ddigwyddodd y ‘ddrama’ o’n cwmpas.

Brechdanwyd y cynhyrchiad gan ddwy olygfa o noson briodas Nansi Richards a Cecil Jones (Carwyn Jones), mewn stafell westy yn Aberdaron.

‘Roedd na dri yn ein perthynas’, chwedl Diana, dlawd, a’r un mae’n siwr fu cri ’rhen Cyril ar un adeg. Thema gyson yn y ddrama oedd cariad Nansi at ei thelyn; testun obsesiwn tebyg i Ann Griffiths am Iesu Grist.

 

DSC_0425

 

 

 

 

 

 

Ar y dechrau, ceisiodd Nansi ei gorau i osgoi hualau cymdeithas – a dymuniadau, naturiol, ei gwr, ar noson eu priodas. Ond nid ‘prude‘ ’mo Nansi yn sicr, fel y gwelsom yn glir; yn hytrach, porthmon ei phenrhyddid. O’r fan honno, cafwyd cyfres o ðl-fflachiadau difyr i hanes ei bywyd tan hynny, a daenodd oleuni disglair ar ei natur unigryw hi.

Pa ryfedd iddi osgoi priodi am gyhyd , yn sgil esiampl ei rhieni hi? Bu tensiwn am hir rhwng ei meddwyn o dad, codwr canu ac arweinydd corau lleol, a’i Mam (Siw Huws), a oedd yn bianyddes ac yn flaenor yn y capel.

Diddanodd Gwyn Hughes Jones y dorf gyda’i giamocs llawr gwlad, gyda’i bresenoldeb carismataidd; denodd Siw Huws ein hedmygedd ar hyd y darn, wrth ddatgelu’n raddol gwir aberth y fam.

Yn wir, cyflawnodd Siw Huws – ynghyd a Carwyn Jones – sawl camp ar hyd y cynhyrchiad, wrth i’r ddau gynrhychioli cyfres faith o gymeriadau, a ffurfiodd sawl pwyth ym mrodwaith bywyd Nansi.

Roedd Siw Huws ar ei gorau fel ‘Happy’ Fanny Fields – seren bantomeim fawr Americanaidd a berfformiodd ar y cyd â Nansi yn West End Llundain – a’i hathrawes delyn ffroenuchel yng ngholeg cerdd y Guildhall, Margaret Arnold.

Gwyrodd Carwyn Jones, ar amrantiad, o ddidwylledd athro cyntaf Nansi, Tomos Lloyd – Telynor Ceiriog – i afiaith awchus y Prif Weinidog o Gymro, David Lloyd George.

Ond seren y sioe, heb os nag ini bai, yr oedd Nansi.

Sgipiodd Melangell Dolma ar hyd ‘llwyfan’ y Stiwt yn ysgafndroed, fel y lodes benchwiban ifanc. Ond dangosodd ddychnwch, a direidi, y delynores deires wrthi iddi esgyn i uchelfannau ei gyrfa.

Cyfeiriwyd fwy nag unwaith at hud y tylwyth teg; yn wir, i nifer Benybontfawr roedd hi ‘ar goll gyda’r tylwyth teg’, yn byw ei breuddwydion mewn byd o ffantasi. Ond nid chwedlau oedd ei champau ar lwyfannau mawr y byd, a phortreadwyd ei rhwystredigaeth â disgwyliadau ei chymdeithas yn ddeheuig.

Mae stori gyfnod Nansi yr un mor berthnasol i hanes merched heddiw, yn y frwydr gyfoes i ‘gyflawni popeth’, a phwyslais Sheryl Sandberg – prif reolwraig Facebook – ar ‘briodi’r dyn cywir’ (os o gwbl) i sicrhau gyrfa eich breuddwydion. Dyna’n union, mewn ffordd, bron i ganrif ynghynt, wnaeth Nansi ei hun, wrth briodi Cyril wedi iddi sefydlu ei gyrfa ei hun, wnaeth ei chefnogi a’i derbyn yn union fel yr oedd hi.

Dangoswyd hefyd yn y ddrama y newid cymdeithasol mawr a fu rhwng cenhedlaeth Mam Nansi a hi, a thrwy hynny, fe glywson ni gyd ein stori ni.

 

 

Leave a Reply