The Nether, Company of Sirens

March 24, 2017 by

Pwrpas theatr, medd nifer, yw anesmwytho. Gadael y theatr gyda rhyw deimlad anniddig sy’n gwrthod gollwng gafael. Dyma’n sicr sut y byddwn yn disgrifio’r profiad o weld cynhyrchiad ‘The Nether’ gan gwmni Company of Sirens a Good Cop Bad Cop yn eu perfformiad cyntaf yng Nghymru. Dyma un o’r darnau mwyaf syfrdanol a welais erioed, ac un sydd wedi gwneud imi bendroni am ddyddiau wedyn. Prawf pellach o lwyddiant unrhyw ddarn o gelfyddyd yw ei fod yn eich ysgogi i feddwl am rywbeth mewn ffordd cwbl wahanol. Parodd y ddrama hon imi edrych ar y ffin rhwng y byd rhithiol a realiti mewn modd newydd.

Erbyn heddiw, daeth yn boblogaidd i bortreadu dyfodol dystopaidd lle mae’r byd yn dygymod ag apocalyps mewn ffuglen – boed hynny drwy gyfrwng ffilm, nofel neu ddrama. Dyma sail y ddrama hon, er na chyfeirir at hyn yn uniongyrchol, gan mai dim ond y cyfoethog sy’n gallu fforddio gwair ac ychydig o fodau dynol sydd ar ôl yn y byd beth bynnag. Craidd y ddrama yw creu delwedd o ddyfodol pell, gan gyfeirio at hynny fel ‘soon’, sy’n adlais o ffilmiau enwog fel The Matrix. Datblygodd technoleg i’r fath raddau nes bod y rhith-fyd yn teimlo’n fwy a mwy real wrth iddo effeithio ar ein teimladau a’n synhwyrau. Mae’r ddrama arloesol hon yn ymdrin â dyhead pobl i fyw’n barhaol yn y byd hwn yn hytrach na wynebu caledi a chyffredinedd bywyd. Yma, mae pobl yn gallu trawsnewid eu hunaniaeth, a’r corff dynol yn amherthnasol bellach. Yn y byd arall, gwelwn effaith frawychus technoleg yn y modd y gall atal pobl rhag mentro y tu allan, cymysgu gyda phobl a datblygu perthnasau.

Canolbwyntia’r naratif ar gyfweliad rhwng ditectif a dau gymeriad sy’n cael eu croesholi. Cânt eu bygwth gyda rhwystro mynediad i’r ‘logio i mewn’ sydd mor rymus os nad ydynt yn cydweithredu. Daw’n amlwg nad oes diddordeb gan y sawl sy’n cynnal yr archwiliad yn eu camweddau afiach na’u ffantasïau gwyrdroedig. Yr hyn sy’n eu gyrru yw bod yr unigolyn yn cymryd rhan yn y byd rhithiol y tu hwnt i’w rheolaeth. Maen nhw eisiau darganfod ei ‘server’ i’w atal rhag troseddu. Mae Mr Sims, sydd wedi creu’r byd hwn, yn cwestiynu ac yn herio awdurdodaeth a chyfreithlondeb y detectif sydd â llawer o adnoddau yn ei meddiant. Ond deillia ei grym o’r ffaith ei bod yn rheoli’r sawl sy’n ‘logio i mewn’, ac mae’n rhaid iddynt ymgymryd â’r orchwyl hon er mwyn teimlo’n ddilys. Anwybyddir troseddau Mr Sims cyn belled â’i fod yn datgelu cuddfan ei ‘server’.

Yn yr oes ohoni, mae pobl yn treulio mwy a mwy o amser ar y rhyngrwyd, ond mae’r dramodydd Jennifer Haley yn ein cymell i ystyried pa mor ddoeth yw hyn. Ydyn ni’n ddall i rymoedd technoleg fodern ac yn gwrthod wynebu’r peryglon? Yn y dyfodol, technoleg sy’n darparu popeth, ac mae’r byd go iawn wedi edwino’n ddim.

Adlewyrcha’r set y gwahaniaeth rhwng y ddau fyd drwy osod y ddesg lle mae’r holi’n digwydd yn y tu blaen, a’r byd ffug lle mae cymeriadau’n trawsnewid eu hunain yn erbyn cefnlen wyrdd ym mhen draw’r set. Mae agosatrwydd y ddesg yn peri i ni deimlo ein bod yng nghanol yr holi, tra bo pellter oddi wrth y byd ffantasi. Mae’n debyg yn hyn o beth i Alice through the Looking Glass lle mae pethau ben i waered. Mae datgelu gwir gymhelliad y cymeriadau yn raddol yn annisgwyl ac yn procio’r gynulleidfa’n gyson.

Defnyddiwyd golau mewn gwahanol ffyrdd, sef lamp i roi ffocws ar y ddesg yng nghanol y tywyllwch tra bo’r golau’n disgleirio mwy ar y digwyddiadau yn y cefn. Gellid bod wedi gwrthgyferbynnu rhagor eto efallai er mwyn darlunio’r croestoriad rhwng y ddwy awyrgylch. Roedd yr effeithiau sain yn ailadroddus braidd ar brydiau, ac efallai bod y tawelwch yn creu naws iasol yn fwy effeithiol.

Rhoddodd John Rowley bortread da o Sims neu Papa fel dyn busnes oeraidd yn llawn dirgelwch, a Chris Durnall fel Doyle yr athro a oedd yn ysu am ddihangfa. Roedd Non Haf yn argyhoeddi’n llwyr fel Iris y ferch fach a oedd yn gaeth i’r byd ffantasi, a’i diniweidrwydd yn dwysáu goblygiadau dychrynllyd yr amgylchiadau.
Os ydych chi eisiau her i’r meddwl a chyfle i gnoi cil, dyma’r ddrama i chi. Byddwn bron â dweud ei fod yn gynhyrchiad rhy soffistigedig a chlyfar gan fod cymaint i’w amsugno, a chefais drafferth deall rhai datblygiadau storïol. Ymgollais yn y llinellau cofiadwy nes ‘mod i’n pendroni ac yn colli’r naratif ambell dro! Dyma ddrama y byddaf yn troi ati i’w darllen yn bwyllog er mwyn llawn werthfawrogi ei neges. Mae’r cysyniad fod presenoldeb ar-lein yn diffinio ein hunaniaeth bellach yn un sy’n peri ofn, ond mae’n sylwebaeth gymdeithasol ddeifiol am ein hamgylchiadau heddiw y mae angen dybryd i fynd i’r afael ag o.

chapter. Mawrth 15 – 25

Leave a Reply